Beth yw Newid Hinsawdd?

Ffynhonnell: Iwan Davies

Mae bodau dynol wedi byw ar y ddaear ers tua 300,000 o flynyddoedd, ond dim ond yn ystod y 60 mlynedd diwethaf mae llygredd wedi cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd. Mae llygredd yn aros yn yr awyr am filoedd o flynyddoedd sydd, yn ei dro, yn creu blanced dew sy’n dal y gwres yn yr awyr. Mae’r gwres hwn yn arwain at mwy o danau dinistriol yn ein coedwigoedd, mwy o lifogydd, lefelau uwch y môr, corwyntoedd cryfach, achosion o dymheredd peryglus o uchel a difodiant torfol bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae posib ymateb a thrawsnewid y sefyllfa hyn.[1]

Ar hyn o bryd mae tymheredd y byd o leiaf 1°C yn uwch nag yr oedd ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yn 1800[2] ac mae ar y trywydd i gynyddu i 3°C yn uwch cyn 2100. Er mwyn cadw’r cynnydd yn y tymheredd yn is na 1.5°C, mae angen i’r byd haneru ei allyriadau niweidiol dros y 10 mlynedd nesaf a cheisio sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050. Mae hwn yn ostyngiad o 5% rhwng Hydref 2021 a Hydref 2022.[3]

Beth sydd o’i le gyda thrydan?

Mae chwarter o allyriadau’r byd yn tarddu o’n hangen i gynhyrchu trydan ac felly, mae angen i ni ddefnyddio llai o drydan a / neu newid y ffordd rydyn ni’n ei gynhyrchu. Er mwyn cyfrannu at y weledigaeth yma ni ddylai unrhyw un fyth adeiladu gorsaf bŵer glo newydd eto. Dylai gwledydd datblygedig fel y DU gael gwared ar bŵer glo erbyn 2030 ac mi ddylid sicrhau fod ffocws ar gynyddu ynni adnewyddadwy.[4]

Beth sydd o’i le gyda chludiant?

Daw un rhan o ddeg o holl allyriadau’r byd o’n defnydd o drafnidiaeth ac mae’r ffigwr hwn hefyd yn codi’n gyflym. Er mwyn ymateb i’r allyriadau yma argymhellir y dylid gweithredu gwaharddiad byd eang ar werthu ceir a faniau petrol a disel newydd erbyn 2035, a gwaharddiad pellach ar holl gerbydau petrol a disel eraill erbyn 2040. Dylid hefyd gynyddu ein defnydd o gerbydau trydan.[5]

Beth sydd o’i le ar ein ffermydd?

Mae bron i chwarter o allyriadau’r byd yn cael eu cynhyrchu gan amaethyddiaeth, coedwigaeth a’n defnydd o’r tir. Er mwyn mynd i’r afael a hyn mae angen inni roi’r gorau i ddatgoedwigo a ffocysu ar amaethyddiaeth gynaliadwy. Dylem hefyd wyrdroi datgoedwigo a / neu sicrhau bod 30% o dir y byd a 30% o’r cefnforoedd yn cael eu gwarchod erbyn 2030.[6]

Arian

Mae angen llawer o arian i newid ein systemau ynni, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth ac felly mae angen i bob penderfyniad ariannol a wneir ystyried y newid yn yr hinsawdd. Mae angen cefnogaeth ar wledydd tlawd fel India ac felly mae angen i wledydd cyfoethog y byd gyfrannu o leiaf $100 biliwn i’w cefnogi.[7]

Eich effaith

Pa mor dda ydych chi? Rhowch gynnig ar y gyfrifiannell ôl troed carbon.

Ffynonellau

  1. John Marshall Sgwrs TED, 3 strategies for effectively talking about climate change: https://www.ted.com/talks/john_marshall_3_strategies_for_effectively_talking_about_climate_change/transcript?language=en am 3:08. Dyddiad cyrchu: 26/07/2021
  2. Met Office, UK Government: https://www.metoffice.gov.uk/news/releases/2018/2017-temperature-announcement. Dyddiad cyrchu: 26/07/2021
  3. UN climate Change conference 2021, Glasgow, Information, Mitigation, https://ukcop26.org/cop26-goals/mitigation/ Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  4. UN climate Change conference 2021, Glasgow, Information, Energy, https://ukcop26.org/energy/ Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  5. UN climate Change conference 2021, Glasgow, Information, Transport, https://ukcop26.org/transport/ Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  6. UN climate Change conference 2021, Glasgow, Information, Nature, https://ukcop26.org/nature/ Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  7. UN climate Change conference 2021, Glasgow, Information, Finance, https://ukcop26.org/cop26-goals/finance/ Dyddiad cyrchu: 26/08/2021