Helo bawb,
Mae’n bleser gennyf rannu’r fersiwn terfynol (bron iawn) o gynllun newydd Llawr D.
Rydym yn parhau i addasu fymryn ar y cynllun llawr ond mae hwn yn rhoi syniad da i chi o’r newidiadau sydd ar droed.
Bydd y gwaith adeiladu yn:
- Symud y fynedfa i wynebu’r gynteddfa.
- Symud y ddesg ymholiadau.
- Creu Dwy Ystafell Astudio i Grwpiau.
- Creu Ardal i Beiriannau Gwerthu Bwyd a Diod.
- Creu mwy o ofod i astudio ac i gyfrifiaduron.
- Creu toiledau niwtral o ran y rhywiau.
Rydym wedi bod yn brysur yn dewis lliwiau a ffabrigau ar gyfer y dodrefn. Cafodd tîm y prosiect ‘Weithdy Lliw’ cynhyrchiol iawn gyda BOF Furniture ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Isod ceir lluniau o’r gorffeniadau, y lliwiau a’r patrymau y byddwn yn eu defnyddio i ddodrefnu’r Llawr D newydd.
Yr ydym hefyd yn falch iawn o allu rhannu delweddau sy’n rhoi syniad o sut yr yr ydym yn dychmygu’r gofod wedi’r gwaith ailwampio. Mae’r delweddau yma ar gael trwy garedigrwydd Dodrefn BOF – Swyddfa Penybont.
Bydd y contract ar gyfer y gwaith adeiladu yn cael ei ddyfarnu’n fuan, a gyda llai na thair wythnos cyn y bydd y staff yn gadael Llawr D, mae cyffro mawr yma.
Ar ran tîm y prosiect, hoffwn ddymuno’n dda iawn i’r holl fyfyrwyr sy’n sefyll arholiadau ac yn cyflwyno aseiniadau a thraethodau estynedig!