Gwaith o greu gofod wedi gorffen

Gyda diolch i ymdrechion enfawr pawb oedd ynghlwm â hyn, rydym wedi cwblhau’r gwaith o greu’r gofod yr oeddem ei angen yn Llyfrgell Hugh Owen, cyn i’r stoc o Thomas Parry gyrraedd yn yr wythnos sy’n dechrau 13 Awst.
Mae gofodau’n barod yn y mannau iawn, a gobeithio y bydd deunydd Thomas Parry yn ffitio’n berffaith i’r gofodau perthnasol yn eu trefn.

Bydd Llyfrgell Thomas Parry felly yn cau ddydd Gwener 10 Awst am y tro olaf. I gael rhagor o fanylion am y ffordd y bydd y trosglwyddo hyn yn digwydd, ewch i’n gweddalen: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/tplsummer18/