Ad-drefnu dilyniannau Llawr F

Er mwyn paratoi ar gyfer symud deunydd Thomas Parry i Hugh Owen rydym ar fin dechrau ad-drefnu dilyniannau’r stoc cyfredol ar silffoedd Llawr F. Mae gennym le i bopeth, ond mae angen gwneud yn sicr bod pob lle yn y man cywir! Rydyn ni hefyd eisiau sicrhau bod y stoc yn rhedeg mewn dilyniannau llawer cliriach. Mae’r trolïau’n barod i ddechrau’r gwaith ar 1 Mehefin:

Mae hyn yn golygu y bydd peth sŵn a tharfu ar Lawr F ac ymddeurwn ymlaen llaw am hyn. Bydd angen hefyd i ni ddefnyddio’r byrddau ar gyfer cadw stoc felly gofynnwn ichi ddefnyddio’r cyfrifiaduron ar Loriau D ac E. Bydd cyfyngiadau ar stoc Llawr F o bosibl os yw yn y broses o gael ei symud neu wedi’i osod mewn man newydd, felly gofynnwch am gymorth wrth y ddesg ar Lawr F.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*