{"id":1951,"date":"2026-04-30T08:49:00","date_gmt":"2026-04-30T07:49:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1951"},"modified":"2026-04-30T08:49:18","modified_gmt":"2026-04-30T07:49:18","slug":"y-llyfrgell-mae-goroesi-tymor-yr-arholiadaun-dechrau-yma","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1951&lang=cy","title":{"rendered":"Y llyfrgell: mae goroesi tymor yr arholiadau\u2019n dechrau yma!"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1140\" height=\"585\" data-id=\"1949\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2026\/04\/study.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1949\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Daeth yr adeg unwaith eto!&nbsp; Mae&#8217;r amser yn prysur nes\u00e1u, mae&#8217;r llyfrgell yn llenwi, ac yn sydyn mae pawb yn siarad am adolygu ac arholiadau. Rydyn ni <em>gyd<\/em> wedi bod yn yr sefyllfa, ac er nad oes unrhyw un yn hoffi arholiadau, dyma eich cyfle i ddangos popeth rydych chi wedi&#8217;i ddysgu eleni.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymerwch anadl. Ewch amdani &#8211; ac mae cefnogaeth ar gael yma yn y llyfrgell.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Adolygu, ond mewn ffordd sy\u2019n gweithio i chi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes un ateb a fydd yn gweddu i bawb pan ddaw hi i adolygu. Mae rhai pobl yn credu\u2019n gryf mewn nodiadau lliwgar a chardiau fflach, mae eraill angen cerddoriaeth gefndir, ac mae rhai eisiau distawrwydd llwyr a choffi cryf. Y newyddion da?&nbsp; Mae yna lawer o gefnogaeth yn y llyfrgell i&#8217;ch helpu i ddarganfod beth sy&#8217;n gweithio orau i chi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Marciau, Barod, Adolygwch gyda SgiliauAber<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Edrychwch ar y safle <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/aberskills\/exams\/\"><strong>SgiliauAber<\/strong><\/a> \u2013 mae ganddo adran gyfan ar <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/aberskills\/exams\/\"><strong>Adolygu ac Arholiadau<\/strong><\/a> sy\u2019n llawn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Canllawiau ymarferol ar sut i adolygu&#8217;n effeithiol gan gynnwys ble i ddod o hyd i hen bapurau<\/li>\n\n\n\n<li>Gwahanol ddulliau adolygu i roi cynnig arnynt (y tu hwnt i ail-ddarllen nodiadau yn unig)<\/li>\n\n\n\n<li>Awgrymiadau a chyngor gan eich cyfoedion sydd eisoes wedi bod drwy\u2019r profiad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>P&#8217;un a ydych chi&#8217;n llenwi\u2019ch pen \u00e2 gwybodaeth funud olaf, yn cynllunio wythnosau ymlaen llaw, neu rywle rhwng y ddau, mae&#8217;n lle cadarn i ddechrau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yn \u00f4l i&#8217;r rhestr ddarllen<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae nawr yn amser da i ail-ymgyfarwyddo \u00e2 <a href=\"https:\/\/aber.rl.talis.com\/index.html?lang=cy-GB\"><strong>rhestr ddarllen y modiwl<\/strong><\/a>. Does dim angen i chi ddarllen <em>popeth<\/em> o glawr i glawr &#8211; meddyliwch amdano fel gloywi yn hytrach nag ailgychwyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall ailymweld \u00e2 thestunau allweddol eich helpu i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Lenwi\u2019r bylchau yn eich dealltwriaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Ailgysylltu pynciau darlithoedd \u00e2 darlleniadau craidd<\/li>\n\n\n\n<li>Cryfhau eich hyder wrth adolygu meysydd anodd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch eich rhestr ddarllen i ganolbwyntio ar benodau hanfodol neu adrannau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 phynciau arholiadau, a phorwch drwy destunau a argymhellir am eglurhad neu enghreifftiau. Mae gan y llyfrgell gop\u00efau ar gael fel y gallwch ailymweld \u00e2&#8217;r deunydd pan fydd yn cyd-fynd \u00e2\u2019ch amserlen adolygu. Gallwch ddod o hyd i bopeth yn hawdd trwy restrau darllen Aspire a <a href=\"https:\/\/primo.aber.ac.uk\/discovery\/search?vid=44WHELF_ABW:44WHELF_ABW_VU1&amp;lang=cy\"><strong>Primo, catalog y llyfrgell<\/strong><\/a>, i wirio argaeledd, eich hanes benthyca, gweld testunau ar-lein, neu ddod o hyd i eitemau ar y silffoedd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Casgliad Astudio Effeithiol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ddim yn si\u0175r <em>sut<\/em> i adolygu, heb s\u00f4n am <em>beth<\/em> i\u2019w adolygu? Gall <a href=\"https:\/\/primo.aber.ac.uk\/discovery\/search?query=any,contains,STUDY&amp;tab=LibraryCatalog&amp;search_scope=Library_excl_Pure&amp;vid=44WHELF_ABW:44WHELF_ABW_VU1&amp;mfacet=location_code,include,2418%E2%80%93251966280002418%E2%80%93holibeff,1&amp;lang=cy&amp;offset=0\"><strong>Casgliad Astudio Effeithiol<\/strong><\/a> y Llyfrgell eich helpu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r casgliad print ac ar-lein hwn yn llawn llyfrau sgiliau adolygu ac astudio sydd wedi&#8217;u cynllunio i&#8217;ch helpu i astudio&#8217;n fwy craff. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n chwilio am awgrymiadau cyflym neu i ailwampio eich strategaeth adolygu yn llwyr, mae&#8217;r llyfrau hyn yn berffaith ar gyfer pori drwyddynt pan fydd arnoch angen arweiniad ychwanegol. Yn ddelfrydol ar gyfer mireinio sgiliau, rhoi hwb i hyder, neu roi cynnig ar ddull newydd o astudio. Porwch y tro nesaf y byddwch chi yn y llyfrgell \u2013 fe welwch y casgliad ar <a href=\"https:\/\/wagnerguide.com\/c\/aberystwyth\/map?mapfile=3453&amp;menubuttonid=22751\"><strong>Lawr F, gyferbyn \u00e2&#8217;r lifft<\/strong><\/a> yn Llyfrgell Hugh Owen, a gyferbyn \u00e2&#8217;r Ddesg Ymholiadau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dewch o hyd i&#8217;ch man astudio perffaith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 lleoliad, lleoliad, lleoliad! Os oes arnoch angen amser tawel i ganolbwyntio, mae gan<strong> Lyfrgell Hugh Owen, <\/strong>a <strong>Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol<\/strong> ar y campws, yn ogystal \u00e2\u2019r <strong>Weithfan<\/strong> yn y dref ddigon o fannau astudio tawel wedi&#8217;u cynllunio ar gyfer adolygu.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/library\/llyfrgelloedd\/hughowen\/#mannau-astudio\"><strong>Mannau Astudio Llyfrgell Hugh Owen a gwybodaeth<\/strong><\/a><ul><li>A yw\u2019n well gennych adolygu ar eich pen eich hun? Mae <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/library\/llyfrgelloedd\/carrels\/\"><strong>carelau astudio unigol<\/strong><\/a> y Llyfrgell yn ddewis gwych. Wedi&#8217;u cynllunio ar gyfer astudio annibynnol, maent yn rhoi lle i chi ganolbwyntio, gweithio trwy&#8217;ch nodiadau, a mynd i&#8217;r afael ag adolygu ar eich cyflymder eich hun. Pan fyddwch chi eisiau llai o ymyriadau a mwy o ganolbwyntio, dyma&#8217;r lleoliad perffaith.<\/li><\/ul>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A yw\u2019n well gennych adolygu gyda ffrindiau? Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/library\/llyfrgelloedd\/group-rooms\/\"><strong>ystafelloedd astudio i gr\u0175p<\/strong><\/a> hefyd ar gael &#8211; perffaith ar gyfer trafod pethau, profi eich gilydd, neu ddim ond teimlo\u2019n llai unig yn ystod diwrnodau adolygu hir.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/library\/llyfrgelloedd\/physicalscience\/\"><strong>Mannau Astudio\u2019r Gwyddorau Ffisegol a gwybodaeth<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/weithfan\/\"><strong>Mannau Astudio\u2019r Weithfan a gwybodaeth<\/strong><\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Tylluan y nos? Llenwi\u2019ch pen \u00e2 gwybodaeth ben bore? Rhywle yn y canol?<br><\/strong>Nid yw adolygu yn cadw oriau swyddfa &#8211; ac nid yw&#8217;r llyfrgell chwaith. Yn ystod cyfnod yr arholiadau ac adolygu, mae holl loriau Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24\/7 fel y gallwch bori trwy lyfr, gwirio cyfeirnod eto, neu wasgu rhywfaint o adolygu munud olaf pryd bynnag y byddwch yn teimlo\u2019r cymhelliad. Ac os ydych chi&#8217;n astudio ar \u00f4l oriau craidd ac yn awyddus i adolygu am 2yb, gwnewch yn si\u0175r bod gennych eich Cerdyn Aber i fynd i mewn ac allan o Lyfrgell Hugh Owen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae arholiadau\u2019n heriol &#8211; allwch chi ddim gwadu hynny &#8211; ond pan fyddwch chi&#8217;n camu&#8217;n \u00f4l, cofiwch mai dim ond un rhan o&#8217;ch taith yn y brifysgol ydyn nhw. Byddwch yn garedig \u00e2 chi&#8217;ch hun, cymerwch seibiannau, bwytewch brydau go iawn (nid byrbrydau yn unig), a sicrhewch eich bod yn cael rhywfaint o gwsg. Gall manteisio i\u2019r eithaf ar y cymorth adolygu a&#8217;r mannau astudio sydd ar gael yn y llyfrgell eich helpu i aros ar y trywydd iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydych chi wedi dysgu llawer &#8211; nawr yw&#8217;r amser i ddod \u00e2&#8217;r cyfan at ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Pob lwc!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth yr adeg unwaith eto!&nbsp; Mae&#8217;r amser yn prysur nes\u00e1u, mae&#8217;r llyfrgell yn llenwi, ac yn sydyn mae pawb yn siarad am adolygu ac arholiadau. Rydyn ni gyd wedi bod yn yr sefyllfa, ac er nad oes unrhyw un yn hoffi arholiadau, dyma eich cyfle i ddangos popeth rydych chi wedi&#8217;i ddysgu eleni. Cymerwch anadl. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":11060,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[369,371,136],"tags":[],"class_list":["post-1951","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-adolygu","category-arholiadau","category-cymorth-a-chyngor"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_likes_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1951","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/11060"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1951"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1951\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1952,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1951\/revisions\/1952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1951"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=1951"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=1951"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}