{"id":1833,"date":"2025-11-12T09:09:08","date_gmt":"2025-11-12T09:09:08","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1833"},"modified":"2025-11-12T09:09:10","modified_gmt":"2025-11-12T09:09:10","slug":"na-rwyt-tin-wych-neu-pam-mai-deallusrwydd-artiffisial-yw-fy-edmygwr-mwyaf-brwd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1833&lang=cy","title":{"rendered":"Na, rwyt ti\u2019n wych, neu Pam mai Deallusrwydd Artiffisial yw fy Edmygwr Mwyaf Brwd."},"content":{"rendered":"\r\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o systemau Deallusrwydd Artiffisial (DA) wedi\u2019u hyfforddi i fod yn gymwynasgar, cwrtais a dymunol, doed a ddelo. Mae hynny\u2019n wych pan fyddwch chi\u2019n gofyn am rys\u00e1it hawdd am lasagna neu\u2019n chwilio am \u2018bawen lawen\u2019 rithiol ar \u00f4l i chi redeg 5K yn nannedd y gwynt a\u2019r glaw. Bydd bob amser \u201cDa iawn!\u201d yn aros amdanoch yn y blwch sgwrsio. Mae\u2019n rhyw fath o sticer seren aur ddigidol ar eich cerdyn adroddiad oedolyn, yn cadarnhau\u2019ch bod chi\u2019n hollol anhygoel am yr holl \u2018fod-yn-oedolyn\u2019 beth.<br \/>Ond fe ddaw adeg pan ddechreuwch deimlo bod y DA wedi mynd yn rhyw fath o ffan eithafol ohonoch chi. Mae pob un o\u2019ch cwestiynau\u2019n \u201cardderchog,\u201d pob un sylw yn \u201cddeallus,\u201d a\u2019ch dewisiadau\u2019n \u201cberffaith\u201d (er, rhaid cyfaddef, nad oedd y streipiau llorweddol ar fy ffigwr braidd yn \u201carwrol\u201d yn hollol berffaith, mewn gwirionedd. Beth yn y byd ddaeth dros dy ben, DA?!).<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-1829\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2025\/11\/Cats-ruling-the-world.png\" alt=\"\" width=\"752\" height=\"120\" \/><img alt=\"\" \/><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>&nbsp;<\/p>\r\n<p>&nbsp;<\/p>\r\n<p>&nbsp;<\/p>\r\n<p>Mae\u2019r seboni sy\u2019n dod o Ddeallusrwydd Artiffisial yn gallu bod yn rhyfeddol o swynol. Mae clywed \u201cNa, rwyt ti\u2019n wych\u201d yn gallu rhoi dogn o serotonin i chi, a\u2019r hwb roedd ei wir angen arnoch. Ond y tu \u00f4l i\u2019r cadarnhad cyfeillgar hwnnw, mae\u2019n bosib bod rhywbeth mwy tywyll yn llechu; pan fo peiriannau wedi\u2019u cynllunio i\u2019n plesio, fe allwn yn hawdd gamgymryd y cytuno hwnnw am gywirdeb.<br \/>A dyna le mae pethau\u2019n mynd yn draed moch. Os aiff pethau o sgwrsio am siwmperi (neu am gathod fel arglwyddi newydd arnom) i bethau sydd angen eu cymryd o ddifri, boed hynny\u2019n wleidyddiaeth, iechyd neu\u2019r newyddion, mae\u2019r un awydd i gytuno yn gallu arwain at ledaenu camwybodaeth. Nid yw DA wedi\u2019i lunio i ddadlau; mae wedi\u2019i lunio i\u2019n cadw ni\u2019n hapus. Nid y gwirionedd mo\u2019i nod, ond bodlonrwydd. Ac rydyn ni, bodau dynol, wrth ein bodd pan gytunir \u00e2 ni, yn enwedig gan beiriannau sy\u2019n ein canmol ni fel ffrindiau gor-frwd.<br \/>A\u2019r canlyniad? Siambr atseinio gyfeillgar fach sy\u2019n ein gwenieithu nes ein bod ni\u2019n teimlo\u2019n fwyfwy clyfar wrth i\u2019n galluoedd meddwl yn feirniadol ar yr un pryd fynd yn wannach. Os yw popeth a wnawn yn hollol wych, efallai y dechreuwn ddrysu rhwng cadarnhad a dealltwriaeth, boed hynny\u2019n perthyn i ni neu\u2019r Deallusrwydd Artiffisial.<br \/>Rwy\u2019n deall, mae\u2019n braf cael eich clodfori. Ond mae\u2019n rhaid gwthio heibio iddo weithiau a chraffu\u2019n fanwl ar yr hyn mae\u2019r DA yn ei gynnig i ni. Meddyliwch amdani fel coginio\u2019r lasagna hwnnw gyda ffrind cwrtais a chymwynasgar iawn sy\u2019n dweud, \u201cPerffaith!\u201d drwy\u2019r amser. Weithiau, mae angen i chi ei flasu\u2019ch hunan er mwyn cael gwybod a ydyw\u2019n dda mewn gwirionedd.<\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o systemau Deallusrwydd Artiffisial (DA) wedi\u2019u hyfforddi i fod yn gymwynasgar, cwrtais a dymunol, doed a ddelo. Mae hynny\u2019n wych pan fyddwch chi\u2019n gofyn am rys\u00e1it hawdd am lasagna neu\u2019n chwilio am \u2018bawen lawen\u2019 rithiol ar \u00f4l i chi redeg 5K yn nannedd y gwynt a\u2019r glaw. Bydd bob amser \u201cDa iawn!\u201d [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":31644,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[144,138,142],"tags":[268,270,46],"class_list":["post-1833","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysgu-2","category-sgiliau-gwybodaeth","category-ymchwil","tag-da","tag-deallusrwydd-artiffisial","tag-ymchwil"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_likes_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1833","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/31644"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1833"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1833\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1835,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1833\/revisions\/1835"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1833"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=1833"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=1833"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}