{"id":1691,"date":"2025-09-22T09:15:53","date_gmt":"2025-09-22T08:15:53","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1691"},"modified":"2025-09-22T09:15:55","modified_gmt":"2025-09-22T08:15:55","slug":"pam-na-ddylech-chi-adael-i-da-greu-eich-llyfryddiaeth-i-chi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1691&lang=cy","title":{"rendered":"Pam na ddylech chi adael i DA greu eich llyfryddiaeth i chi"},"content":{"rendered":"\n<p>Clywch, rydw i wedi bod yn y sefyllfa hon.&nbsp; Mae&#8217;n 2 o\u2019r gloch y bore ac mae gennych aseiniad i\u2019w gyflwyno yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.&nbsp; Mae\u2019ch rhestr gyfeirnodi yn edrych braidd yn denau, ac mae\u2019n gallu bod yn amhosib gwrthsefyll y demtasiwn i ofyn i offeryn DA gael gafael ar ambell ddyfyniad i chi.&nbsp; O ganlyniad i ofyn un cwestiwn mae gennych restr daclus o erthyglau o gyfnodolion a llyfrau.&nbsp; Perffaith, yn dydy?&nbsp; Wel&#8230; nid bob amser.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma&#8217;r anfantais (ac mae yna anfantais bob amser!):&nbsp; mae offer DA yn wych am gynhyrchu cyfeirnodau sy\u2019n <em>gallu argyhoeddi<\/em>.&nbsp; Mae&#8217;r teitlau\u2019n swnio&#8217;n gredadwy, mae enwau\u2019r awduron yn gyfarwydd, ac mae&#8217;r cyfnodolion yn edrych yn ddilys.&nbsp; Ond weithiau mae golwg rhywbeth yn gallu bod yn dwyllodrus, ac nid oes gan y cyfeiriadau unrhyw gysylltiad \u00e2 realiti.&nbsp; Dyma beth mae pobl yn ei olygu pan maen nhw&#8217;n siarad am <strong>Rithwelediadau DA. <\/strong>&nbsp;Mae&#8217;r offeryn yn dyfeisio ffynhonnell sy&#8217;n edrych yn berffaith gredadwy ond nad yw&#8217;n bodoli mewn gwirionedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"436\" height=\"290\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2025\/09\/AI-Bibliography-Image.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1689\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Pam mae hyn yn bwysig?<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Y rheswm pwysicaf yw: <strong>na ddylech roi unrhyw beth yn eich llyfryddiaeth nad ydych wedi&#8217;i ddarllen mewn gwirionedd. <\/strong>\u00a0Nid rhestr o bethau sydd <em>o bosib <\/em>yn cefnogi eich dadl yn unig yw llyfryddiaeth; mae&#8217;n gofnod o&#8217;r ffynonellau rydych chi wedi ymwneud \u00e2 nhw mewn gwirionedd.\u00a0 Os nad ydych chi wedi darllen y llyfr, yr erthygl neu&#8217;r papur, dydy hi ddim yn bosib i chi wybod mewn gwirionedd a yw\u2019n dweud yr hyn rydych chi&#8217;n meddwl ei fod yn ei ddweud, neu a yw&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;ch dadl o gwbl.\u00a0\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Mae rhoi dyfyniad ffug yn eich gwaith yn tanseilio hygrededd eich holl aseiniad.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall eich darlithwyr a&#8217;ch tiwtoriaid wirio eich cyfeirnodau (a byddant yn gwneud hynny yn aml).\u00a0\u00a0 Os na allant ddod o hyd iddyn nhw, mae&#8217;n broblem.<\/li>\n\n\n\n<li>Nid rhoi tic mewn bocs yn unig yw cyfeirnodi da, dyma sut rydych chi&#8217;n dangos eich bod wedi darllen y deunydd ac yn gallu cefnogi eich syniadau.\u00a0 Mae hefyd yn ymwneud \u00e2 rhoi cydnabyddiaeth briodol ac ymuno \u00e2&#8217;r sgwrs ysgolheigaidd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae prifysgolion yn cymryd cyfeirnodi o ddifrif: gallant dynnu sylw at gamddefnyddio neu ddyfeisio ffynonellau a\u2019u nodi fel arfer academaidd gwael neu hyd yn oed yn ymddygiad academaidd annerbyniol, gan effeithio o ddifrif ar eich marciau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Felly, beth ddylech chi ei wneud?<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gwirio, gwirio, gwirio! <\/strong>\u00a0Os yw DA yn rhoi cyfeirnod i chi, gwiriwch ef <em>bob amser<\/em> ar sail ffynhonnell ddibynadwy &#8211; yn y <a href=\"http:\/\/www.primo.aber.ac.uk\">catalog llyfrgell<\/a>, Google Scholar, neu gronfa ddata pwnc.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gofynnwch i&#8217;ch llyfrgellydd.<\/strong> Dyna pam rydyn ni yma.\u00a0 Gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau dilys y gallwch eu dyfynnu, gallwn ddangos i chi sut i chwilio cronfeydd data yn effeithiol, a&#8217;ch tywys trwy\u2019r dulliau cyfeirio priodol fel nad oes rhaid i chi ymgodymu \u00e2 fformatio am 2 o\u2019r gloch y bore.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae gan DA lawer o ddefnyddiau, ond nid yw&#8217;n ddi-ffael, ac yn bendant nid yw&#8217;n disodli meddwl beirniadol (neu chwiliad llyfrgell da).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, y tro nesaf y byddwch chi&#8217;n cael eich temtio i gynnwys y dyfyniadau hynny a gynhyrchir gan DA a\u2019u rhoi yn syth yn eich llyfryddiaeth, arhoswch, gwiriwch ddwywaith, ac os oes angen help arnoch, trowch at eich llyfrgellydd, ond os 2 o\u2019r gloch y bore yw hi, mae\u2019n debyg mai\u2019r <a href=\"http:\/\/www.primo.aber.ac.uk\">catalog llyfrgell<\/a> yw eich dewis gorau!<\/p>\n\n\n\n<p>Cewch ragor o fanylion yma:<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Clywch, rydw i wedi bod yn y sefyllfa hon.&nbsp; Mae&#8217;n 2 o\u2019r gloch y bore ac mae gennych aseiniad i\u2019w gyflwyno yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.&nbsp; Mae\u2019ch rhestr gyfeirnodi yn edrych braidd yn denau, ac mae\u2019n gallu bod yn amhosib gwrthsefyll y demtasiwn i ofyn i offeryn DA gael gafael ar ambell ddyfyniad i chi.&nbsp; [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":31644,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[136,140,138],"tags":[268,270,40],"class_list":["post-1691","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymorth-a-chyngor","category-addysgu","category-sgiliau-gwybodaeth","tag-da","tag-deallusrwydd-artiffisial","tag-sgiliau-gwybodaeth"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_likes_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1691","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/31644"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1691"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1691\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1692,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1691\/revisions\/1692"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1691"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=1691"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=1691"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}