{"id":162,"date":"2024-09-27T10:00:00","date_gmt":"2024-09-27T09:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=162"},"modified":"2024-10-10T12:50:56","modified_gmt":"2024-10-10T11:50:56","slug":"dewch-i-nabod-eich-llyfrgellwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=162&lang=cy","title":{"rendered":"Dewch i nabod eich llyfrgellwyr"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth ac yn cynnig cymorth a chyngor ar ddefnyddio\u2019r llyfrgelloedd, dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau a chyfeirnodi. Maen nhw hefyd yn edrych ar \u00f4l eich&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/aber.rl.talis.com\/index.html?lang=cy\" target=\"_blank\">rhestrau darllen<\/a>&nbsp;a\u2019ch&nbsp;<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660471\" target=\"_blank\">canllawiau pwnc.<\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>7 Llyfrgellydd Pwnc sy\u2019n gweithio i Lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, pob un a\u2019i faes arbenigedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae croeso mawr ichi drefnu cyfarfod MS Teams gyda\u2019ch Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio\u2019r Llyfrgell neu os hoffech gyngor \u2013 <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/library-services\/librarians\/\" target=\"_blank\">cewch wneud hyn ar-lein yma<\/a>, neu drwy e-bost. Anfonnwch neges atyn nhw i ddweud helo!<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:69px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1206\" height=\"1600\" class=\"wp-image-719\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone.jpg 1206w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone-226x300.jpg 226w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone-772x1024.jpg 772w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone-768x1019.jpg 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone-1158x1536.jpg 1158w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/10\/Simone-712x945.jpg 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1206px) 100vw, 1206px\" \/><strong> Simone Anthony<\/strong> &#8211; <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"mailto:sia1@aber.ac.uk\" target=\"_blank\"><strong>sia1@aber.ac.uk<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Simone yw ein Llyfrgellydd Pwnc newydd sbon ar gyfer <strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/gofaliechyd\" target=\"_blank\">Addysg Gofal Iechyd<\/a>. <\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Pan oeddwn i&#8217;n bedair ar ddeg oed, gwirfoddolais yn fy llyfrgell leol i gael profiad gwaith. Mwynheais dreulio oriau yn didoli&#8217;r cardiau llyfrgell cardbord i&#8217;r dr\u00f4r derw hardd yn nhrefn yr wyddor. Mi wnaeth yr awydd i deithio yn ddiweddarach fy arwain i ddilyn gyrfa ym myd dawns. Dychwelais i fyd llyfrgelloedd trwy raddio gyda gradd Addysg ac Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell, yn dri deg tri oed, ar \u00f4l astudio&#8217;n rhan-amser o amgylch swydd amser-llawn fel hyfforddwr dawns yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. <\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf wedi cael fy nghyflogi yn Llyfrgell Hugh Owen ers 2017, ac mae\u2019n anrhydedd o\u2019r mwyaf mai fi yw llyfrgellydd pwnc cyntaf Aberystwyth ar gyfer Gofal Iechyd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"146\" height=\"208\" class=\"wp-image-1075\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2022\/10\/joy-summer-cr-2024-Copy.jpg\" alt=\"\"> <strong>Joy Cadwallader \u2013 <a href=\"mailto:jrc@aber.ac.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">jrc@aber.ac.uk<\/a> <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer <strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660394\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu<\/a><\/strong>, <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660393\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Ieithoedd Modern<\/strong> <\/a>a <strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660392\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol<\/a><\/strong> yw Joy.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roeddwn yn llyfrgellydd ysgol ac ro&#8217;n i&#8217;n gweithio yn llyfrgell gyhoeddus Aberystwyth yn yr 1980au fel rhan o gynllun creu swyddi. Ers hynny rwyf wedi cael rolau yn y Brifysgol fel gweithredwr cyfrifiaduron ac ymgynghorydd desg gymorth TG cyn dod yn llyfrgellydd pwnc. Yn fy amser hamdden, rwyf wrth fy modd yn ymweld \u00e2 phrosiectau bywyd gwyllt lleol, gwrando ar e-lyfrau llafar, cadw&#8217;n heini a gwylio beicio ffordd proffesiynol ar y teledu.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"162\" height=\"242\" class=\"wp-image-144\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/07\/SimonFrench.jpg\" alt=\"Simon French sif4\"> <strong>Simon French \u2013 <a href=\"mailto:sif4@aber.ac.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">sif4@aber.ac.uk<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660371\" target=\"_blank\"><strong>Cyfrifiadureg<\/strong><\/a><strong>, <\/strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660386\" target=\"_blank\"><strong>Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear<\/strong><\/a><strong>, <\/strong><a href=\"http:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660373\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Gwleidyddiaeth Ryngwladol, <\/strong><\/a><strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660376\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mathemateg a Ffiseg <\/a><\/strong>yw meysydd arbenigedd Simon.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Yn blentyn, roeddwn i&#8217;n ddarllenydd ac yn gasglwr llyfrau brwd. Fel oedolyn, bues i&#8217;n gweithio am lawer o flynyddoedd anhapus yn y fasnach lyfrau ail-law a phrin cyn dod yn llyfrgellydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gallai hyn oll eich arwain i feddwl fy mod yn dipyn o ferlod un tric, ond hoffwn ei gwneud yn gwbl glir fy mod <em>yn<\/em> mwynhau pethau ar wah\u00e2n i lyfrau, fel&#8230; yym&#8230;<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1349\" height=\"1799\" class=\"wp-image-159\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/07\/IMG_20190414_183639_aiv.jpg\" alt=\"Anita Saycell aiv\"> <strong>Anita Saycell &#8211; <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"mailto:aiv@aber.ac.uk\" target=\"_blank\">aiv@aber.ac.uk<\/a><\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Edrycha Anita ar \u00f4l&nbsp;<strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660395\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Busnes<\/a>, <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660383\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff <\/a>ac&nbsp;<\/strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660400\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Astudiaethau Gwybodaeth<\/strong>.<\/a><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Dechreuais wirfoddoli mewn llyfrgelloedd yn 14 oed, yna cefais fy swydd llyfrgell \u00e2 th\u00e2l gyntaf yn 16 oed yn gweithio ar ddyddiau Sadwrn \u2013 a dyna fy rhoi i ar ben ffordd.&nbsp; Pan nad ydw i allan yn beicio ar fryniau tonnog Ceredigion, rwy&#8217;n mwynhau addysgu a helpu pobl, felly cysylltwch ag unrhyw gwestiwn waeth pa mor fawr neu fach!&nbsp;<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2729\" height=\"3943\" class=\"wp-image-168\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/07\/nrb-bio-1.jpg\" alt=\"Non Jones nrb\"><strong> Non Jones &#8211; <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"mailto:nrb@aber.ac.uk\" target=\"_blank\">nrb@aber.ac.uk<\/a> <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/ysgolmilfeddygol\"><strong>YGFA: Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth,<\/strong><\/a> <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/gwyddoraubywyd\"><strong>Gwyddorau Bywyd<\/strong>,<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/dysgugydoloes\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Dysgu Gydol Oes<\/strong><\/a> yw meysydd pwnc Non.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ers i mi gael profiad gwaith yn fy llyfrgell gyhoeddus leol yma yn Aberystwyth pan yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd (\u2026a dwi&#8217;n mynd n\u00f4l sawl blwyddyn nawr!), roeddwn yn gwybod mai ym myd y llyfrau yr hoffwn fod. Ymunais \u00e2 Gwasanaethau Gwybodaeth yn 2001 a sawl blwyddyn yn ddiweddarach enillais radd \u00f4l-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell yma yn y Brifysgol fel dysgwr o bell.\u00a0 Yn fy amser sb\u00e2r &#8211; rhwng edrych ar \u00f4l y teulu, cathod, ieir a bochdewion &#8211; rwy\u2019n mwynhau darllen a bod yn greadigol gyda chelf, crefft a chaligraffi.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"402\" height=\"546\" class=\"wp-image-145\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/07\/my-photo-small.jpg\" alt=\"Sarah Gwenlan ssg\"> <strong>Sarah Gwenlan \u2013 <a href=\"mailto:ssg@aber.ac.uk\">ssg@aber.ac.uk<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Sarah yn Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer <strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/addysg\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Addysg<\/a><\/strong>, y <strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660202\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ganolfan Saesneg Ryngwladol<\/a><\/strong> a <strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660370\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Seicoleg<\/a><\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Cyn dod i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, bues i&#8217;n dysgu Saesneg yn Sbaen, y Weriniaeth Tsiec, yr Eidal a Gwlad Pwyl. Rwyf hefyd wedi gweithio yn y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn SOAS a Chasnewydd, felly gallech ddweud fy mod yn gyfarwydd \u00e2 gweithio gyda myfyrwyr! Cysylltwch os oes angen help arnoch, dyna pam rwyf yma!<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1974\" height=\"2679\" class=\"wp-image-146\" style=\"width: 150px\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2021\/07\/Roderick-Lloyd-August-2015-1.jpg\" alt=\"Lloyd Roderick glr9\"><strong>Lloyd Roderick &#8211; <a href=\"mailto:glr9@aber.ac.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">glr9@aber.ac.uk<\/a><\/strong><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae Lloyd yn gyfrifol am y pynciau&nbsp;<a href=\"http:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660308\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Celf a Hanes Celf<\/strong><\/a><strong>,&nbsp;<\/strong><a href=\"http:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660333&amp;p=4663109\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Cyfraith a Throseddeg<\/strong><\/a><strong>,&nbsp;<\/strong><a href=\"http:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=660508\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd<\/strong><\/a><strong>&nbsp;<\/strong>a&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/subject\/history\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Hanes a Hanes Cymru<\/strong><\/a><strong>.<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn i eisiau gweithio mewn llyfrgelloedd ar \u00f4l treulio llawer o amser yn hongian o gwmpas y casgliad cerddoriaeth yn Llyfrgell Gyhoeddus Llanelli ar \u00f4l sylweddoli bod \u00f4l-gatalog&nbsp;Sonic&nbsp;Youth&nbsp;ar gael i&#8217;w fenthyg.&nbsp;Ar \u00f4l y brifysgol, bues i\u2019n gweithio yn Llyfrgell y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch, Prifysgol Llundain, yna astudiais&nbsp;MSc&nbsp;mewn Gwyddor Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth.&nbsp; Yn ddiweddarach, gweithiais yn llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd a Llyfrgell Sefydliad Celf&nbsp;Courtauld.&nbsp;&nbsp;Yn ddiweddarach, ymgymerais \u00e2 PhD yn astudio casgliadau celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru&#8230;. mae hyn i gyd wedi gosod sylfaen dda i mi gefnogi myfyrwyr a staff yn yr adrannau rwy&#8217;n gweithio gyda nhw fel Llyfrgellydd Pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy amser hamdden rwy&#8217;n asesydd ar Banel Cofrestru Proffesiynol CILIP (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth&nbsp;Proffesiynol) ac rwyf wedi&nbsp;curadu&nbsp;arddangosfeydd ar foderniaeth a chelf gyfoes yng Nghymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:59px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth ac yn cynnig cymorth a chyngor ar ddefnyddio\u2019r llyfrgelloedd, dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau a chyfeirnodi. Maen nhw hefyd yn edrych ar \u00f4l eich&nbsp;rhestrau darllen&nbsp;a\u2019ch&nbsp;canllawiau pwnc.&nbsp; 7 Llyfrgellydd Pwnc sy\u2019n gweithio i Lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, pob un a\u2019i faes arbenigedd.&nbsp; Mae croeso [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":64048,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":true,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[136],"tags":[155],"class_list":["post-162","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymorth-a-chyngor","tag-llyfrgellwyr-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_likes_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/162","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/64048"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=162"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/162\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1082,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/162\/revisions\/1082"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=162"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=162"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=162"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}