{"id":1305,"date":"2025-01-08T09:29:25","date_gmt":"2025-01-08T09:29:25","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1305"},"modified":"2025-01-08T09:29:27","modified_gmt":"2025-01-08T09:29:27","slug":"deallusrwydd-artiffisial-ar-llyfrgell-wythnos-pedwar-perplexity-ai-adolygiad-o-offeryn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1305&lang=cy","title":{"rendered":"Deallusrwydd Artiffisial a&#8217;r Llyfrgell. Wythnos Pedwar. Perplexity AI \u2013 Adolygiad o offeryn."},"content":{"rendered":"\n<p>Does dim angen inni eich atgoffa chi mae&#8217;n si\u0175r\u2014mae yna <em>lawer<\/em> o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (DA) mas yna. Er taw ChatGPT sydd wedi bachu&#8217;r penawdau yn gynnar, mae <a href=\"https:\/\/www.perplexity.ai\/\">Perplexity AI<\/a> yn prysur ddatblygu\u2019n un o&#8217;n ffefrynnau ni yma yn y llyfrgell.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1280\" height=\"854\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2025\/01\/library-922998_1280-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1309\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Perplexity AI yn ennill ei blwyf ym myd adfer gwybodaeth, ac am reswm da. Yn wahanol i&#8217;w gymar mwy sgyrsiol, ChatGPT, sy&#8217;n aml yn mwynhau deialogau hir, mae Perplexity yn mabwysiadu dull uniongyrchol ac effeithlon o ateb ymholiadau. Mae hyn yn ei wneud yn offeryn delfrydol ar gyfer y rhai sydd angen ffeithiau cyflym, ymchwil trylwyr, neu wybodaeth am bynciau penodol. Ar ben hynny, mae&#8217;n darparu dyfyniadau ar gyfer ei holl ymatebion.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><u>Pam dewis Perplexity?<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma&#8217;r nodweddion amlwg sy&#8217;n gwneud Perplexity yn ddewis da:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gwybodaeth amser real:<\/strong> Mae Perplexity yn tynnu data newydd yn uniongyrchol o&#8217;r we, gan sicrhau eich bod bob amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Crynodebau clir<\/strong>: Yn hytrach na&#8217;ch boddi mewn dolenni diddiwedd, mae&#8217;n darparu atebion cryno, uniongyrchol er mwyn arbed amser i chi.<\/li>\n\n\n\n<li>[A dyma&#8217;r enillydd clir i ni] <strong>Gwirio ffeithiau<\/strong>: Daw pob ymateb gyda dyfyniadau, fel y gallwch wirio hygrededd yr wybodaeth yn hawdd ac archwilio ymhellach os oes angen.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong><u>Sut gall Perplexity eich helpu chi?<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Darganfod adnoddau<\/strong>.&nbsp; Gall awgrymu geiriau allweddol neu ymadroddion effeithiol i fireinio&#8217;ch gwaith chwilio yng nghatalog y llyfrgell neu gronfeydd data ar-lein eraill. (Cadwch lygad ar ein blogbost nesaf am sut i fod yn glyfar wrth chwilio am eiriau allweddol)<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cymorth astudio<\/strong>: Gall egluro pynciau\u2019n gyflym, darparu esboniadau cryno, neu archwilio pynciau ymhellach er mwyn i chi eu deall yn well, a gall pob un o\u2019r pethau hyn arbed amser yn ystod sesiynau astudio.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwirio ffeithiau<\/strong>: Gall Perplexity wirio hawliadau neu ystadegau ar gyfer traethodau neu gyflwyniadau \u2013 a hynny\u2019n gyflym, gan sicrhau bod eich gwaith yn gywir ac yn gredadwy.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong><u>Ambell i beth i\u2019w gofio am Perplexity<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Prinder dyfnder sgwrsio<\/strong> Dyw Perplexity ddim mor dda \u00e2 ChatGPT wrth gynnal dilyniant cyd-destunol neu sgwrs estynedig.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dibyniaeth ar ffynonellau allanol<\/strong>: Er bod dyfyniadau yn elfen gref, mae cywirdeb yr offeryn yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau mae\u2019n cyfeirio atyn nhw. Cofiwch wirio gwybodaeth hanfodol bob amser lle bo hynny&#8217;n bosibl.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dim allbynnau creadigol neu agored<\/strong>: Dyw Perplexity ddim wedi&#8217;i gynllunio ar gyfer tasgau fel ysgrifennu creadigol, taflu syniadau, neu drafodaethau archwiliadol\u2014mae ChatGPT yn llawer mwy addas i&#8217;r tasgau hyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong><u>I gloi<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Perplexity AI yn offeryn pwerus i fyfyrwyr ac ymchwilwyr, gan gynnig mynediad cyflym at wybodaeth gyfredol a dyfyniadau defnyddiol ar gyfer gwirio ffeithiau ac astudio ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn wahanol i ChatGPT, sy&#8217;n rhagori ar sgyrsiau, mae Perplexity yn darparu atebion cryno, sy&#8217;n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer gwaith academaidd. Mae hefyd yn eich helpu i ddarganfod rhagor o adnoddau drwy awgrymu geiriau allweddol ar gyfer chwilio effeithiol. Fodd bynnag, does dim cymaint o ddyfnder sgwrsio ganddo \u00e2 ChatGPT, ac mae ei gywirdeb yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau y mae&#8217;n eu dyfynnu. Drwy gyfuno&#8217;r ddau offeryn, gallwch wneud y gorau o&#8217;ch amser astudio a rhoi mwy o ganolbwynt effeithiol i&#8217;c<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Does dim angen inni eich atgoffa chi mae&#8217;n si\u0175r\u2014mae yna lawer o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (DA) mas yna. Er taw ChatGPT sydd wedi bachu&#8217;r penawdau yn gynnar, mae Perplexity AI yn prysur ddatblygu\u2019n un o&#8217;n ffefrynnau ni yma yn y llyfrgell. Mae Perplexity AI yn ennill ei blwyf ym myd adfer gwybodaeth, ac am reswm [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":31644,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[140,138,142],"tags":[268,270],"class_list":["post-1305","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysgu","category-sgiliau-gwybodaeth","category-ymchwil","tag-da","tag-deallusrwydd-artiffisial"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_likes_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1305","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/31644"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1305"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1305\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1310,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1305\/revisions\/1310"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1305"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=1305"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=1305"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}