{"id":1093,"date":"2024-10-14T10:00:00","date_gmt":"2024-10-14T09:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1093"},"modified":"2024-10-14T11:19:07","modified_gmt":"2024-10-14T10:19:07","slug":"da-ar-llyfrgell-rhan-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/?p=1093&lang=cy","title":{"rendered":"DA a&#8217;r Llyfrgell &#8211; Wythnos dau. Adolygiad Offeryn: ChatGPT"},"content":{"rendered":"\n<p>Y dyddiau hyn mae\u2019n teimlo fel na all munud basio heb i rywun s\u00f4n am Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae fel pe bai wedi bod yn rhan o&#8217;n bywydau bob dydd erioed! Ond credwch neu beidio, dim ond ers tua 18 mis y mae ChatGPT OpenAI wedi ymddangos a chychwyn y chwyldro DA (neu&#8217;r holl chwiw DA, gan ddibynnu ar eich safbwynt!)<\/p>\n\n\n\n<p>Pa bynnag derm sydd orau gennych, ni fydd DA yn diflannu yn fuan, felly yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ystyried rhai o&#8217;r offer DA cynhyrchiol mwyaf poblogaidd. Byddwn yn adolygu rhai o&#8217;u nodweddion, yn trafod eu cyfyngiadau, ac yn darparu ychydig o awgrymiadau cyflym ar sut i&#8217;w defnyddio&#8217;n effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan mai <a href=\"https:\/\/openai.com\/\">ChatGPT<\/a> oedd yr offer DA cynhyrchiol cyntaf i ddal dychymyg pobl, beth am edrych yn agosach ar yr hyn y gall ei wneud, a sut y gallwch chi fanteisio i\u2019r eithaf arno.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1280\" height=\"915\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/files\/2024\/09\/service-6929022_1280-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1094\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Fel y mae&#8217;r enw&#8217;n awgrymu, mae ChatGPT (yn yr un modd \u00e2 nifer o&#8217;r offer DA y byddwn yn edrych arnynt yn y gyfres hon) wedi&#8217;i gynllunio ar gyfer sgwrsio. Mae ei ryngwyneb syml yn galluogi defnyddwyr i ryngweithio ag offer DA sydd wedi&#8217;i hyfforddi ar lawer iawn o ddata. Mae&#8217;r hyfforddiant hwn yn caniat\u00e1u iddo gynhyrchu ymatebion tebyg i ymatebion pobl i ysgogiadau (gall ysgogiad fod yn gwestiwn, yn ddatganiad, neu\u2019n orchymyn sy&#8217;n llywio&#8217;r DA i gynhyrchu ymateb.) Am fwy o wybodaeth, ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=718526&amp;p=5210018\">Canllaw DA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma edrych yn agosach ar yr hyn y gall ChatGPT (ac offer DA eraill) ei wneud:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Ateb cwestiynau:<\/strong>\u00a0Gall ChatGPT ddarparu gwybodaeth ac esboniadau ar amrywiaeth o bynciau, gan ei wneud yn adnodd defnyddiol ar gyfer dysgu.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynhyrchu Cynnwys Ysgrifenedig:<\/strong>\u00a0Mae ChatGPT yn wych ar gyfer goresgyn rhwystrau awdur (writer\u2019s block) ac ar gyfer gwirio eich ysgrifennu o ran gramadeg, sillafu, eglurder, ac arddull.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Crynhoi Gwybodaeth:<\/strong>\u00a0Gall gymryd testunau hir a&#8217;u cyddwyso i grynodebau byrrach, gan eich helpu i amgyffred y prif bwyntiau\u2019n gyflym.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfieithu Ieithoedd:<\/strong>\u00a0Gall ChatGPT gyfieithu testun o un iaith i&#8217;r llall, gan ei gwneud hi&#8217;n haws i bobl gyfathrebu a deall ei gilydd.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cymryd rhan mewn sgyrsiau:<\/strong>\u00a0Gall yr offer efelychu sgyrsiau, gan ei gwneud hi\u2019n ffordd hwyliog o ymarfer sgiliau iaith, paratoi ar gyfer cyfweliad swydd, neu gael sgwrs gyfeillgar.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall offer DA megis ChatGPT ei wneud, ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=718526&amp;p=5210018\">Canllaw DA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall defnyddio ChatGPT fod yn ddefnyddiol (ac yn hwyl!) ond cofiwch fod yna anfanteision i\u2019w ddefnyddio hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gwybodaeth gamarweiniol:<\/strong>\u00a0Gall ChatGPT weithiau ddarparu atebion anghywir, hen neu ragfarnllyd, a allai effeithio ar ansawdd eich gwaith neu eich dealltwriaeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gor-ddibyniaeth ar dechnoleg:<\/strong>\u00a0Gall dibynnu gormod ar ChatGPT lesteirio meddwl beirniadol a chreadigrwydd, gan y gallai defnyddwyr ddibynnu arno am atebion yn hytrach na datblygu eu syniadau eu hunain.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Risgiau Ll\u00ean-ladrad<\/strong>: Gall myfyrwyr ddefnyddio DA i gynhyrchu cynnwys nad yw&#8217;n eiddo iddynt hwy, gan arwain at broblemau ll\u00ean-ladrad.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am anfanteision defnyddio offer DA megis ChatGPT, ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=718526&amp;p=5210018\">Canllaw DA.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=718526&amp;p=5210018\">&nbsp;<\/a><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong><a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=718526&amp;p=5210018\">A<\/a><\/strong><strong>wgrymiadau Da ar gyfer Defnyddio Chat GPT:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Byddwch yn glir ac yn benodol:<\/strong>\u00a0Pan fyddwch chi&#8217;n gofyn cwestiwn i ChatGPT neu\u2019n rhoi tasg iddo, byddwch mor glir a manwl \u00e2 phosibl. Po fwyaf penodol ydych chi, gorau oll y gall y DA ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch a darparu ymateb perthnasol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dechreuwch yn syml:<\/strong>\u00a0Dechreuwch gyda cheisiadau syml. Os oes gennych gwestiwn neu dasg gymhleth, torrwch hwy i lawr i rannau llai. Mae hyn yn helpu ChatGPT i ganolbwyntio ar un peth ar y tro, gan arwain at atebion gwell.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Defnyddiwch gwestiynau dilynol:<\/strong>\u00a0Gall ChatGPT gynnal cyd-destun sgwrs felly peidiwch ag oedi cyn gofyn cwestiynau dilynol neu roi manylion ychwanegol ar \u00f4l yr ymateb cychwynnol. Mae hyn yn eich galluogi i fireinio&#8217;r sgwrs a chael gwybodaeth fwy cywir neu wedi&#8217;i theilwra.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am y ddefnyddio ChatGPT yn effeithiol, ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=718526&amp;p=5210018\">Canllaw DA<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ychydig o gafeatau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cymeradwyo unrhyw un o&#8217;r offer DA hyn ar hyn o bryd.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle b\u00f4nt ar gael)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Yn ein blog nesaf: <\/strong>byddwn yn edrych ar beirianneg ysgogiadau, a byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau gwerthfawr ar sut y gall dylunio ysgogiadau effeithiol wella cywirdeb a pherthnasedd allbynnau DA.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y dyddiau hyn mae\u2019n teimlo fel na all munud basio heb i rywun s\u00f4n am Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae fel pe bai wedi bod yn rhan o&#8217;n bywydau bob dydd erioed! Ond credwch neu beidio, dim ond ers tua 18 mis y mae ChatGPT OpenAI wedi ymddangos a chychwyn y chwyldro DA (neu&#8217;r holl chwiw DA, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":64048,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[136,140,138],"tags":[268,270],"class_list":["post-1093","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymorth-a-chyngor","category-addysgu","category-sgiliau-gwybodaeth","tag-da","tag-deallusrwydd-artiffisial"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_likes_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1093","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/64048"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=1093"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1093\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1149,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/posts\/1093\/revisions\/1149"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=1093"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=1093"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/librarian\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=1093"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}