{"id":9521,"date":"2025-07-11T10:51:28","date_gmt":"2025-07-11T09:51:28","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=9521"},"modified":"2025-07-11T10:51:30","modified_gmt":"2025-07-11T09:51:30","slug":"ai-cynhyrchiol-mewn-dysgu-ac-addysgu-cyfres-o-astudiaethau-achos","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/07\/11\/ai-cynhyrchiol-mewn-dysgu-ac-addysgu-cyfres-o-astudiaethau-achos\/","title":{"rendered":"AI cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu: Cyfres o Astudiaethau Achos"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1925\" height=\"496\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2025\/06\/Blog-Banners-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-9433\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydyn ni wrthi\u2019n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos er mwyn rhannu arferion wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y gyfres yma o flogiadau, bydd cydweithwyr sy&#8217;n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth addysgu yn rhannu sut yr aethon nhw ati i ddylunio&#8217;r gweithgareddau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bleser croesawu Dr Gareth Hoskins (<a href=\"mailto:tgh@aber.ac.uk\">tgh@aber.ac.uk<\/a>) o\u2019r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn y blogiad yma.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Astudiaeth Achos # 3: Gwerthusiad Ystafell Ddosbarth o AI Cynhyrchiol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear<\/h1>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw&#8217;r gweithgaredd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Gwerthusiad yn y dosbarth oedd hwn, o grynodeb a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) o&#8217;r cysyniad gwyddonol &#8216;cof bylb fflachio&#8217; fel rhan o ddarlith ar &#8216;gof unigol&#8217; yn y modiwl daearyddiaeth ddynol\/cymdeithaseg yn y drydedd flwyddyn GS37920 Diwylliannau\u2019r Cof: treftadaeth, hunaniaeth a ph\u0175er.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ysgoges i ChatGPT gyda&#8217;r cyfarwyddyd: &#8220;Create 200 word summary of the concept flashbulb memory&#8221;, creu sgrinlun o&#8217;r testun a ddeilliodd o hynny a\u2019i ymgorffori yn fy sleidiau darlith gan roi tair munud i&#8217;r dosbarth ei ddarllen a&#8217;i drafod wrth eu byrddau gan ofyn yn benodol am ymatebion i&#8217;r cwestiynau hyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa ragfarnau y mae&#8217;r cynnwys yn eu creu?<\/li>\n\n\n\n<li>Buddiannau pwy sy&#8217;n cael eu gwasanaethu?<\/li>\n\n\n\n<li>O ble mae&#8217;r ffynonellau&#8217;n dod?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"435\" height=\"403\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2025\/07\/Chatgpt.png\" alt=\"Chat GPT summary of the prompt: Create 200 word summary of the concept flashbulb memory\" class=\"wp-image-9519\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd canlyniadau&#8217;r gweithgaredd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Wnaeth y drafodaeth ddim cyffwrdd yn ormodol \u00e2&#8217;r cwestiynau ofynnes i ond canolbwyntio\u2019n fwy ar gynnwys ChatGPT lle roedd y myfyrwyr yn llawer mwy beirniadol o&#8217;r cynnwys nag roeddwn i wedi&#8217;i ddisgwyl. Nodwyd y d\u00f4n ddiflas, yr ailadrodd, yr ansicrwydd ynghylch ffeithiau, yr ymagwedd amwys a&#8217;r diffyg pendantrwydd yn gyffredinol. Dangosodd y myfyrwyr hynny fesur annisgwyl o lythrennedd AI cynhyrchiol a gafodd ei gyfleu i&#8217;r dosbarth yn ei gyfanrwydd. Yn ystod y trafod, daeth y myfyrwyr yn fwy ymwybodol o ddefnyddioldeb offer AI cynhyrchiol, yn fwy cyffyrddus yn siarad am sut maen nhw&#8217;n ei ddefnyddio a sut y gallen nhw o bosibl fynd ymlaen i&#8217;w ddefnyddio, a sut y gallai ei gyfyngiadau a&#8217;i wendidau effeithio ar y cynnwys y mae&#8217;n ei gynhyrchu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Datblyges i\u2019r ymarfer drwy ddefnyddio tudalen gwe canllawiau UCL &#8216;Designing Assessments for an AI-enabled world&#8217; <a href=\"https:\/\/www.ucl.ac.uk\/teaching-learning\/generative-ai-hub\/designing-assessments-ai-enabled-world\">https:\/\/www.ucl.ac.uk\/teaching-learning\/generative-ai-hub\/designing-assessments-ai-enabled-world<\/a> ac ail-lunies i fy nghwestiynau arholiad ar y modiwl i gael gwared ar arfarniadau generig o gyfraniadau academyddion enwog at wahanol drafodaethau yn y ddisgyblaeth gan eu disodli \u00e2 chwestiynau damcaniaethol wedi\u2019u seilio ar senarios oedd yn llawer mwy cymhwysol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i&#8217;r myfyrwyr?<\/h2>\n\n\n\n<p>Y bwriad oedd cydnabod ein bod yn bodoli mewn byd sydd wedi&#8217;i alluogi gan AI sy&#8217;n creu cyfleoedd ond hefyd problemau ar gyfer dysgu. Defnyddies i\u2019r ymarfer i gyflwyno&#8217;r risgiau sy&#8217;n ymwneud ag asesu, ac amlinellu fy strategaeth fy hun ar gyfer asesu ar y modiwl yma drwy ddefnyddio cwestiynau arholiad sydd wedi\u2019i seilio ar broblemau mewn bywyd go iawn ac sy&#8217;n gofyn am ddefnyddio sgiliau lefel uwch mewn gwerthuso a meddwl yn feirniadol wedi&#8217;u cymhwyso at gynnwys &#8220;modiwl-yn-unig&#8221; a chyhoeddiadau academaidd diweddar y mae offer ysgrifennu traethodau AI cynhyrchiol yn ei chael yn anodd i\u2019w cyrchu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut helpodd hyn gyda&#8217;u gwaith dysgu nhw?<\/h2>\n\n\n\n<p>Helpodd y gweithgaredd y myfyrwyr i ddod yn fwy cyfarwydd \u00e2 defnyddio AI cynhyrchiol fel &#8220;cynorthwyydd ymchwil&#8221; (at greu amlinelliadau a dod o hyd i ffynonellau) a chreodd amgylchedd ar gyfer trafodaeth agored am gyfyngiadau cynnwys sy\u2019n cael ei gynhyrchu gan AI o ran amwysedd, rhithwelediadau, diffyg dealltwriaeth, a diffyg mynediad at gynnwys modiwlau mewnol ar Blackboard neu ymchwil gyfredol (erthyglau a gyhoeddwyd yn y ddwy flynedd diwethaf).<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut byddwch chi&#8217;n datblygu&#8217;r gweithgaredd yma yn y dyfodol?<\/h2>\n\n\n\n<p>Byddwn i\u2019n cyfeirio at systemau eraill gan gynnwys DeepSeek, Gemini, Microsoft Co-Pilot a Claude AI yn ogystal \u00e2 thrafod eu tarddiad, eu manteision a\u2019u hanfanteision, ac yn hanfodol ddigon fe fyddwn i\u2019n rhybuddio am y canlyniadau amgylcheddol a\u2019r canlyniadau o ran eiddo deallusol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwch lygad am ein blogiad nesaf ar AI cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydyn ni wrthi\u2019n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos er mwyn rhannu arferion wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Yn y gyfres yma o flogiadau, bydd cydweithwyr sy&#8217;n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth addysgu yn rhannu sut yr aethon nhw ati i ddylunio&#8217;r gweithgareddau hyn. Mae&#8217;n bleser croesawu Dr Gareth Hoskins [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1403,1048],"tags":[],"class_list":["post-9521","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-astudiaetha-achos","category-cynhyrchu-deallusrwydd-artiffisial"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2tz","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9521","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9521"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9521\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9522,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9521\/revisions\/9522"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9521"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9521"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9521"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}