{"id":9446,"date":"2025-06-19T10:28:02","date_gmt":"2025-06-19T09:28:02","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=9446"},"modified":"2025-06-19T10:28:03","modified_gmt":"2025-06-19T09:28:03","slug":"deallusrwydd-artiffisial-ai-cynhyrchiol-mewn-dysgu-ac-addysgu-cyfres-astudiaethau-achos-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/06\/19\/deallusrwydd-artiffisial-ai-cynhyrchiol-mewn-dysgu-ac-addysgu-cyfres-astudiaethau-achos-2\/","title":{"rendered":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu: Cyfres Astudiaethau Achos"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1925\" height=\"496\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2025\/06\/Blog-Banners-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-9433\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym ni\u2019n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.<br>Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy\u2019n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu\u2019n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio\u2019r gweithgareddau.<br>Rydym ni\u2019n hapus iawn i groesawu Dr Megan Talbot (met32@aber.ac.uk) o Adran y Gyfraith a Throseddeg gyda\u2019r blog hwn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Astudiaeth Achos #2: Traethawd y Gyfraith a Throseddeg<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw\u2019r gweithgaredd?<\/h3>\n\n\n\n<p>Aethon ni ati i gynllunio asesiad i wella sgiliau llythrennedd AI yn y modiwl cyfraith teulu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd cwestiwn traethawd normal i\u2019r myfyrwyr: \u201cI ba raddau y dylai cyfraith Prydain gydnabod cytundebau cynbriodasol?\u201d.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cyflwynwyd ymateb ChatGPTo1 i\u2019r un cwestiwn iddyn nhw hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Hysbyswyd y myfyrwyr mai\u2019r amcan oedd ysgrifennu traethawd yn ymateb i\u2019r cwestiwn. Roedd croeso iddyn nhw ddefnyddio\u2019r ymateb AI mewn unrhyw ffordd roedden nhw\u2019n ei dewis, gallen nhw adeiladu arno, ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer ymchwil neu ei anwybyddu\u2019n llwyr, beth bynnag oedd orau ganddyn nhw. Dywedwyd wrthyn nhw na fyddem ni\u2019n dweud sut y byddai\u2019r traethawd AI yn sgorio pe baen nhw\u2019n ei gyflwyno heb unrhyw addasiad, ond roedd croeso iddyn nhw wneud hynny os mai dyna eu dymuniad (ni wnaeth neb).<\/p>\n\n\n\n<p>Yn wyneb y defnydd cynyddol o declynnau AI esboniwyd nid yn unig y byddai angen iddyn nhw allu defnyddio allbynnau AI yn fedrus ac yn gyfrifol, ond hefyd y byddai angen dangos eu bod yn gallu ychwanegu gwerth na allai AI ei wneud. Felly dylen nhw ystyried y dasg fel un sy\u2019n dangos eu bod yn gallu perfformio\u2019n well nag AI.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i\u2019r myfyrwyr?<\/h3>\n\n\n\n<p>Cyflwynwyd taflen briffio aseiniad arferol, yn ogystal \u00e2 sesiwn ddarlith ar sut i ymdrin \u00e2\u2019r asesiad. Roedd y ddogfen briffio\u2019n cynnwys mwy o arweiniad nag arfer i\u2019w helpu i oresgyn unrhyw ansicrwydd yngl\u0177n \u00e2\u2019r aseiniad. Roedd hyn yn cynnwys arweiniad penodol ar bethau y gallen nhw eu gwneud i ragori ar yr ateb AI, megis mwy o ddefnydd o gyfraith achosion, tystiolaeth eu bod yn deall cyfraith yr achos, edrych ar fwy o ddadleuon beirniadol a gyflwynwyd gan academyddion ac ar lenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid ac ysgrifennu gan weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith. Cafodd y myfyrwyr eu rhybuddio\u2019n benodol hefyd am rithwelediadau (tueddiad AI i ddarparu gwybodaeth ffug mewn ffordd sy\u2019n ymddangos yn \u201chyderus\u201d) a\u2019r gallu i wirio ffeithiau\u2019r AI os oedden nhw\u2019n bwriadu dibynnu arno.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pa heriau a gafodd eu goresgyn?<\/h3>\n\n\n\n<p>Cafwyd nifer o gwestiynau gan y myfyrwyr oedd yn perfformio\u2019n uwch yn holi \u201coes rhaid i mi ddefnyddio\u2019r ymateb AI\u201d, ac atebon ni \u201cnac oes\u201d. Yn gyffredinol roedd y myfyrwyr yn ymddangos yn ansicr ynghylch yr hyn roedden nhw\u2019n cael ei wneud er gwaethaf yr arweiniad helaeth a roddwyd yn y ddogfen briffio gychwynnol a\u2019r ddarlith ategol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn anffodus, maglwyd nifer sylweddol o fyfyrwyr am iddyn nhw beidio \u00e2 gwirio ffeithiau un o\u2019r disgrifiadau achos a ddefnyddiwyd gan ChatGPT, oedd yn anghywir. Gadawyd adborth ar y traethodau hynny i\u2019w hatgoffa bod angen gwirio ffeithiau adnoddau AI.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut helpodd hyn gyda\u2019u dysgu?<\/h3>\n\n\n\n<p>Ni holwyd y myfyrwyr am yr aseiniad hwn yn benodol, ond yn yr SES nododd nifer o\u2019u plith eu bod wedi\u2019i gael yn ddefnyddiol iawn er mwyn deall cyfyngiadau AI. Mewn sgwrs, nododd nifer o fyfyrwyr ei fod wedi\u2019u helpu i oresgyn gohirio\u2019r gwaith, gan fod man cychwyn wedi\u2019i roi iddyn nhw i adeiladu ohono. Nododd myfyrwyr oedd yn sgorio\u2019n uwch eu bod wedi darllen yr allbwn AI, ond gwneud eu hymchwil eu hunain ac ysgrifennu fel arfer, gan gyfeirio at yr AI dim ond i sicrhau nad oedden nhw\u2019n hepgor unrhyw bwyntiau craidd ar ddamwain.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut fyddwch chi\u2019n datblygu\u2019r gweithgaredd hwn yn y dyfodol?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym ni\u2019n ystyried cwtogi hyd y traethawd a chynnwys myfyrdod cryno ar y defnydd o AI fel rhan o\u2019r aseiniad. Yn ogystal, byddwn yn ehangu\u2019r rhybudd i wirio ffeithiau allbynnau AI gan nodi\u2019n benodol y gallai fod achosion real yn cael eu dyfynnu ond y gellid cael disgrifiadau camarweiniol neu ffug i gefnogi pwyntiau na ystyriwyd yn yr achos.<br>Cadwch olwg am y blog nesaf ar AI Cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym ni\u2019n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy\u2019n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu\u2019n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio\u2019r gweithgareddau.Rydym ni\u2019n hapus iawn i groesawu Dr Megan Talbot (met32@aber.ac.uk) o Adran y Gyfraith [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[1048],"tags":[],"class_list":["post-9446","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhyrchu-deallusrwydd-artiffisial"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2sm","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9446","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9446"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9446\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9447,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9446\/revisions\/9447"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9446"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9446"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9446"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}