{"id":9435,"date":"2025-06-12T14:51:10","date_gmt":"2025-06-12T13:51:10","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=9435"},"modified":"2025-06-19T10:48:00","modified_gmt":"2025-06-19T09:48:00","slug":"deallusrwydd-artiffisial-ai-cynhyrchiol-mewn-dysgu-ac-addysgu-cyfres-astudiaethau-achos","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/06\/12\/deallusrwydd-artiffisial-ai-cynhyrchiol-mewn-dysgu-ac-addysgu-cyfres-astudiaethau-achos\/","title":{"rendered":"Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol mewn Dysgu ac Addysgu: Cyfres Astudiaethau Achos"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1925\" height=\"496\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2025\/06\/Blog-Banners-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-9433\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym ni\u2019n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy\u2019n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu\u2019n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio\u2019r gweithgareddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym ni\u2019n hapus iawn i groesawu Dr Panna Karlinger (<a href=\"mailto:pzk@aber.ac.uk\">pzk@aber.ac.uk<\/a>) o\u2019r Ysgol Addysg gyda\u2019r blog hwn.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Astudiaeth Achos # 1 &#8211; y Gwningen Ymchwil<\/h1>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw\u2019r gweithgaredd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Diben y gweithgaredd yw dod o hyd i ffynonellau academaidd dibynadwy i fyfyrwyr eu defnyddio yn eu gwaith cwrs. Gwahoddir y myfyrwyr i ddefnyddio \u2018papur hadau\u2019 ar gyfer aseiniad arfaethedig i\u2019w fwydo i\u2019r <a>Gwningen Ymchwil<\/a>, sy\u2019n defnyddio dysgu peiriant i fapio llenyddiaeth gysylltiedig yn seiliedig ar awduron, cyfeiriadau, pynciau neu gysyniadau cysylltiedig. Yna ysgogir y myfyrwyr i ddewis ffynonellau ar gyfer eu haseiniadau, a gwerthuso\u2019r rhain yn feirniadol yn defnyddio\u2019r prawf CRAAP sy\u2019n gwirio a yw\u2019r ffynhonnell yn gyfredol, yn berthnasol, yn gywir, ynghyd \u00e2\u2019r awduron a\u2019r pwrpas er mwyn dod i farn ar ddibynadwyedd cyffredinol cyn mynd ati i\u2019w defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth oedd canlyniadau\u2019r gweithgaredd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Nododd y myfyrwyr gynnydd o ran hyder a gallu i ddod o hyd i ffynonellau academaidd a dangos beirniadaeth yn eu gwaith. Er gwaethaf yr adnoddau helaeth a\u2019r arweiniad manwl a ddarparwyd gan y staff addysgu a llyfrgell, yn aml mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd dod o hyd i ffynonellau perthnasol i gefnogi eu gwaith, a datryswyd hyn yn llwyddiannus wrth i\u2019r myfyrwyr ymgysylltu \u00e2\u2019r gweithgaredd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i\u2019r myfyrwyr?<\/h2>\n\n\n\n<p>Roedd y gweithgaredd yn rhan o fodiwl sgiliau allweddol, ac roedd gan y myfyrwyr wybodaeth flaenorol am y prawf CRAAP, dod o hyd i ffynonellau a chafwyd trafodaeth a chyflwyniad i AI Cynhyrchiol, y cyfleoedd a\u2019r risgiau dan sylw yn ogystal \u00e2 defnydd effeithlon a moesegol. Gan gyfuno eu gwybodaeth flaenorol, cyflwynwyd y teclyn fel arddangosiad, ac yna defnyddiodd y myfyrwyr eu dyfeisiau eu hunain i ddod o hyd i ffynonellau ar gyfer aseiniad arfaethedig a ddewiswyd mewn modiwl gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pa heriau a gafodd eu goresgyn?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae rhai myfyrwyr yn dal i fod yn wyliadwrus neu\u2019n amheus ynghylch defnyddio AI, neu\u2019n ofni cael eu cyhuddo o arfer annheg, felly roedd yn bwysig dangos achosion ble gallent ddefnyddio AI yn hyderus i\u2019w helpu i ddatblygu\u2019r sgiliau hyn. Nid oedd gan rai myfyrwyr ddyfeisiau \u00e2 sgrin fawr ac roedd cyflawni\u2019r gweithgaredd ar ff\u00f4n yn heriol. Bydd rhaid ystyried hyn yn y dyfodol, ac mae angen arweiniad a chymorth mwy ymarferol ar rai myfyrwyr gyda\u2019r gweithgaredd. Mae hyn yn bennaf yn gysylltiedig \u00e2 sgiliau a gallu digidol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut helpodd hyn gyda\u2019u dysgu?<\/h2>\n\n\n\n<p>Atgyfnerthodd rai negeseuon am lythrennedd AI beirniadol, gwerthuso allbwn a ffynonellau\u2019n gyffredinol, gan eu hatgoffa am bwysigrwydd beirniadaeth yn eu gwaith, ac roedd dod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ychwanegol a mwy diweddar yn aml yn helpu i lywio\u2019r cynnwys a\u2019r gwerthuso yn eu haseiniadau pan oedd y myfyrwyr yn ymgysylltu\u2019n \u00f4l y disgwyl.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut fyddwch chi\u2019n datblygu\u2019r gweithgaredd yn y dyfodol?<\/h2>\n\n\n\n<p>Gan nad ydym bellach yn dysgu\u2019r modiwl sgiliau allweddol, mae cyfle i wreiddio hwn mewn modiwlau eraill, er enghraifft mewn sesiynau cymorth aseiniadau neu sesiynau galw heibio dewisol. Mae hyn yn hwyluso grwpiau llai o fyfyrwyr a mwy o amser un i un fel bo\u2019r angen, a allai wneud y gweithgaredd yn fwy llwyddiannus; a chymryd bod y myfyrwyr wedi derbyn yr arweiniad angenrheidiol gan yr adran ar ddefnyddio AI. Gallai hefyd fod yn rhan o\u2019r modiwlau neu\u2019r arweiniad ar ddulliau ymchwil rydyn ni\u2019n eu rhoi i ymchwilwyr uwchraddedig, gan fod yr adnodd nid yn unig am ddim, ond fod ganddo hefyd fedrau uwch o\u2019u cymharu \u00e2 theclynnau mapio llenyddiaeth tebyg, oedd yn werthfawr i unrhyw un wrth weithio ar draethawd hir neu draethawd ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwch olwg am y blog nesaf ar AI Cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu. Os ydych chi\u2019n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eich ymarfer addysgu ac yn awyddus i gyflwyno blog, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:eddysgu@aber.ac.uk\">eddysgu@aber.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym ni\u2019n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos i rannu arferion defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Yn y gyfres hon o flogiau, bydd cydweithwyr sy\u2019n defnyddio AI Cynhyrchiol yn eu haddysgu\u2019n rhannu sut yr aethon nhw ati i gynllunio\u2019r gweithgareddau. Rydym ni\u2019n hapus iawn i groesawu Dr Panna Karlinger (pzk@aber.ac.uk) o\u2019r Ysgol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1403,1048],"tags":[],"class_list":["post-9435","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-astudiaetha-achos","category-cynhyrchu-deallusrwydd-artiffisial"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2sb","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9435","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9435"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9435\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9436,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9435\/revisions\/9436"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9435"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9435"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9435"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}