{"id":9254,"date":"2025-06-03T11:35:00","date_gmt":"2025-06-03T10:35:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=9254"},"modified":"2025-06-03T09:50:05","modified_gmt":"2025-06-03T08:50:05","slug":"adolygiad-o-bolisiau-e-ddysgu-2025-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/06\/03\/adolygiad-o-bolisiau-e-ddysgu-2025-26\/","title":{"rendered":"Adolygiad o Bolis\u00efau E-ddysgu (2025-26)"},"content":{"rendered":"\n<p>Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolis\u00efau sy&#8217;n ymwneud ag offer e-ddysgu ac yn eu hadolygu.&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.&nbsp; Mae&#8217;r polis\u00efau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau.&nbsp;Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polis\u00efau newydd, cysylltwch \u00e2 ni gan ddefnyddio\u2019r cyfeiriad e-bost <a href=\"mailto:elearning@aber.ac.uk\">elearning@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/blackboard\/isafswm-presenoldeb-gofynnol-blackboard\/\">IPG<\/a> yn rhoi amlinelliad i staff a myfyrwyr o\u2019r safonau gofynnol ar gyfer Cwrs Blackboard.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dau o&#8217;r newidiadau i\u2019r IPG wedi&#8217;u cynllunio i wella hygyrchedd deunyddiau cwrs:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dylai pob cwrs gael sg\u00f4r Ally o 70% neu uwch (gweler yr wybodaeth am y Sg\u00f4r Ally)&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Y gofyniad i ddeunyddiau gael eu huwchlwytho 1 diwrnod gwaith cyn y sesiwn (gweler yr wybodaeth am Uwchlwytho Deunyddiau Ymlaen Llaw)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I helpu staff i reoli cyrsiau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd y templed Blackboard yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn fwy canolog (gweler ein gwybodaeth ar <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/05\/01\/creu-cyrsiau-blackboard-2025-26-2\/\" data-type=\"page\" data-id=\"2\">Greu Cyrsiau<\/a>)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">\u2060Y Polisi E-gyflwyno<\/h1>\n\n\n\n<p>Amlinellir yn y <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic\/e-submission\/\">Polisi E-gyflwyno<\/a> fod pob darn o waith testun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno, ei farcio, a\u2019r adborth yn cael ei ryddhau&#8217;n electronig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn gwella sut mae myfyrwyr yn cael gafael ar eu marciau a\u2019u hadborth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dylid dychwelyd pob marc ac adborth trwy Blackboard (gweler ein <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2513\">dogfen yn y Cwestiynau Cyffredin ar sut i greu colofn i ddychwelyd marciau ac adborth<\/a>)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er mwyn gwella cysondeb e-gyflwyno ar draws y brifysgol:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ceir gofyniad i gyflwyno gwaith \u00f4l-raddedig ymchwil yn electronig ac mae hyn yn cynnwys aseiniadau Hyfforddiant Ymchwil Ysgol y Graddedigion.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ar gyfer staff sydd am ddefnyddio SafeAssign fel rhan o&#8217;u Haseiniadau Blackboard:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ychwanegu gwybodaeth am SafeAssign<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">\u2060Polisi Cipio Darlithoedd<\/h1>\n\n\n\n<p>Amlinellir yn y <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/regulations\/lecture-capture-policy\/\">Polisi Cipio Darlithoedd<\/a> fod pob cyflwyniad yn y dull trosglwyddo yn cael ei recordio&#8217;n electronig i\u2019w ddefnyddio gan fyfyrwyr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r newid mwyaf arwyddocaol yn y Polisi Cipio Darlithoedd wedi&#8217;i gynllunio i wella hygyrchedd recordiadau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd capsiynau awtomatig yn cael eu troi ymlaen ar gyfer pob recordiad a wneir ar \u00f4l 1 Medi 2025 (gweler ein <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/03\/12\/panopto-capsiynau-adnabod-lleferydd-awtomatig\/\">blog<\/a>)<\/li>\n\n\n\n<li>Argymhellir bod sesiynau nad ydynt wedi&#8217;u recordio yn cael eu crynhoi.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I helpu staff i reoli cyrsiau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd templed Blackboard yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn ganolog am Panopto, gan gynnwys datganiad sy\u2019n dweud y bydd recordio yn digwydd, gwybodaeth am yr hyn sy&#8217;n cael\/ddim yn cael ei recordio, a gwybodaeth am ansawdd y capsiynau (gweler ein gwybodaeth am <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/05\/01\/creu-cyrsiau-blackboard-2025-26-2\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/05\/01\/creu-cyrsiau-blackboard-2025-26-2\/\">Greu Cwrs<\/a>).&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Polisi Mudiadau<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae pob adran yn defnyddio eu <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/blackboard\/polisimudiadau\/\">Mudiadau <\/a>i ddarparu gwybodaeth weinyddol allweddol.&nbsp; Er mwyn sicrhau bod deunyddiau&#8217;n hygyrch ac yn gyfredol, rydym wedi datblygu IPG Mudiadau, yn seiliedig ar IPG Blackboard.&nbsp; Nid yw hyn yn berthnasol i Gyrsiau Ymarfer staff.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai pob Mudiad arall gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Manylion Cyswllt.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Gwybodaeth yngl\u0177n \u00e2 phwrpas y Mudiad a sut y disgwylir i gyfranogwyr ei ddefnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys sydd wedi&#8217;i drefnu&#8217;n glir, a\u2019r holl ddeunyddiau wedi&#8217;u henwi&#8217;n glir ac yn gyson.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys cyfredol.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfarwyddiadau clir i gyfranogwyr ar beth i&#8217;w wneud gyda\u2019r deunyddiau&nbsp;&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i&#8217;r holl ddeunyddiau fod mor hygyrch \u00e2 phosibl.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sg\u00f4r Ally<\/h1>\n\n\n\n<p>Am y tro cyntaf, mae ein Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn cynnwys sg\u00f4r Ally.&nbsp; Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar sail y gwaith y mae staff eisoes wedi&#8217;i wneud i sicrhau bod deunyddiau dysgu mor hygyrch \u00e2 phosibl. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>70% yw\u2019r sg\u00f4r Ally a osodir gan yr IPG &#8211; y newyddion da i staff a myfyrwyr yw bod 87% o holl gyrsiau 2024-25 yn cyrraedd sg\u00f4r o 70%.&nbsp;&nbsp; Ac yn gyffredinol, 72.5% yw sg\u00f4r Ally ar gyfer 2024-25, sydd 3% yn uwch na&#8217;r llynedd. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sicrhau bod cynnwys Blackboard mor hygyrch \u00e2 phosibl o fudd i&#8217;n holl fyfyrwyr.&nbsp; &nbsp; Mae cael deunyddiau mewn fformat hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu dysgu yn hytrach na cheisio ymdopi \u00e2 fformatau anhygyrch.&nbsp; Mae&#8217;r dewisiadau y mae staff yn eu gwneud i ddylunio deunyddiau hygyrch, yn ogystal ag offer Fformatau Amgen Ally, yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan yn eu hastudiaethau. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn arbennig o bwysig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan fod data diweddaraf HERA yn dangos bod dros 28% o&#8217;n myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd (o&#8217;i gymharu \u00e2 16.7% yn genedlaethol). &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>I wirio sg\u00f4r Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar y <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Ally\/Ally_for_LMS\/Instructor\/Course_Accessibility_Report\">tudalen we Blackboard<\/a>. &nbsp;A gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddylunio deunyddiau hygyrch trwy edrych ar ein deunyddiau hyfforddi ar-lein. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Ally yn rhoi help ac arweiniad i chi fynd i&#8217;r afael \u00e2 phroblemau cyffredin.\u00a0 Un o\u2019r problemau mwyaf cyffredin ym Mhrifysgol Aberystwyth yw dogfennau wedi\u2019u hysgrifennu \u00e2 llaw sydd wedi&#8217;u sganio.\u00a0 Rydym wedi ysgrifennu rhai <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2025\/05\/12\/canllaw-llawysgrifen\/\">canllawiau <\/a>i helpu staff sy&#8217;n defnyddio&#8217;r math hwn o ddeunyddiau.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Ac os ydych chi eisiau defnyddio erthyglau wedi&#8217;u sganio yn eich cwrs, cysylltwch \u00e2&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/library-services\/digitisation\/\">Gwasanaeth Digideiddio<\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Uwchlwytho Deunyddiau Ymlaen Llaw<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae darparu deunyddiau dysgu cyn y sesiwn yn eu gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr.&nbsp; Mae&#8217;n rhoi cyfle i fyfyrwyr baratoi o flaen llaw er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar gynnwys y ddarlith pan fyddant yn bresennol yn y sesiwn.&nbsp; Ar gyfer sesiynau sy&#8217;n cynnwys trafodaeth neu waith gr\u0175p, gall roi cyfle i fyfyrwyr ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.&nbsp; Mae <a href=\"https:\/\/www.google.co.uk\/url?sa=t&amp;rct=j&amp;q=&amp;esrc=s&amp;source=web&amp;cd=&amp;cad=rja&amp;uact=8&amp;ved=2ahUKEwjapfn-ip-HAxWaYEEAHaXcCEc4FBAWegQIJxAB&amp;url=https%3A%2F%2Fwww.brookes.ac.uk%2Fgetmedia%2Fbaa90088-6a8f-4f74-90b5-eaeee0939b1c%2FPESE.docx&amp;usg=AOvVaw2ZMR7Ahn0i-hp5x5RHjntk&amp;opi=89978449\">papur ymchwil gan Oxford Brookes<\/a> yn rhoi gwybodaeth am y budd a geir o sicrhau bod deunyddiau ar gael ymlaen llaw.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adborth gan fyfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi gofyn am y newid hwn, a thrafodwyd y mater yn y Bwrdd Academaidd yn yr haf 2024.&nbsp; Ac mae&#8217;n safonol mewn nifer o brifysgolion eraill, er enghraifft ym <a href=\"https:\/\/institute-academic-development.ed.ac.uk\/learning-teaching\/staff\/inclusive\/mainstreaming\/lectures\">Mhrifysgol Caeredin<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.brookes.ac.uk\/getmedia\/72c10ead-0a47-4c05-9c30-eb6c246b0287\/Posting-Lecture-Notes-Policy.pdf\">Oxford Brookes<\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae PA wedi penderfynu y dylid rhyddhau deunyddiau dysgu o leiaf un diwrnod gwaith cyn y digwyddiad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ar gyfer sesiwn a gynhelir ar ddydd Iau, dylai\u2019r deunyddiau fod ar gael erbyn bore Mercher<\/li>\n\n\n\n<li>Ar gyfer sesiwn a gynhelir ar ddydd Llun, dylai\u2019r deunyddiau fod ar gael erbyn y bore Gwener blaenorol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gallwch ddefnyddio <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=582\">Amodau rhyddhau cynnwys Blackboard<\/a> i wneud yn si\u0175r bod deunyddiau ar gael ar yr adeg iawn.&nbsp;Os ydych eisoes yn darparu eich holl ddeunyddiau ar ddechrau&#8217;r tymor, mae croeso i chi barhau \u00e2 hyn.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolis\u00efau sy&#8217;n ymwneud ag offer e-ddysgu ac yn eu hadolygu.&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau.&nbsp; Mae&#8217;r polis\u00efau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau.&nbsp;Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polis\u00efau newydd, cysylltwch \u00e2 ni gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8053,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[630,544,582,626,614,592],"tags":[],"class_list":["post-9254","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-amgylchedd-dysgu-rhithwir-vle","category-blackboard-cy","category-e-gyflwyno","category-hyfforddiant-a-chymorth","category-panopto-cy","category-turnitin-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2pg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9254","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8053"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9254"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9254\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9313,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9254\/revisions\/9313"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9254"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9254"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9254"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}