{"id":7877,"date":"2024-05-24T13:45:07","date_gmt":"2024-05-24T12:45:07","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=7877"},"modified":"2024-07-24T14:26:25","modified_gmt":"2024-07-24T13:26:25","slug":"cyrsiau-blackboard-learn-ultra-ar-gyfer-2024-25","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2024\/05\/24\/cyrsiau-blackboard-learn-ultra-ar-gyfer-2024-25\/","title":{"rendered":"Cyrsiau Blackboard Learn Ultra ar gyfer 2024-25"},"content":{"rendered":"\n<p>Byddwn yn creu cyrsiau yn Blackboard Learn Ultra ar gyfer 2024-25 ddydd Llun 3 Mehefin eleni. Ar \u00f4l y dyddiad hwn, bydd modd i hyfforddwyr ychwanegu cynnwys ac addasu eu cyrsiau newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gan gyrsiau&#8217;r templed diofyn sy&#8217;n cynnwys moiwlau dysgu ar gyfer Gwybodaeth am y Modiwl, Asesu ac Adborth ac Arholwyr Allanol. Ni fydd cynnwys blynyddoedd blaenorol yn cael ei gop\u00efo&#8217;n awtomatig.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau i&#8217;r templed cwrs diofyn yn seiliedig ar adborth staff a myfyrwyr ac wedi galluogi&#8217;r <strong>Cynorthwyydd Dylunio DA<\/strong> (<strong>AI Design Assistant<\/strong>).<\/p>\n\n\n\n<p>I gael cymorth cyffredinol i ddefnyddio Blackboard Learn, gweler ein&nbsp; <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/blackboard\/blackboardcanllawiaustaff\/\">canllawiau Blackboard Ultra i staff.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dod o Hyd i Gyrsiau 2024-25<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall hyfforddwyr gael mynediad at eu cyrsiau 2024-25 ar y dudalen Cyrsiau drwy ddefnyddio&#8217;r ddewislen hidlo <strong>Termau<\/strong> a dewis <strong>Cyrsiau 2024-25 Courses<\/strong>. Bydd cyrsiau o dan 2024-25 yn symud i&#8217;r dudalen Cyrsiau rhagosodedig ar 1 Medi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1555\" height=\"631\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2024\/06\/2024-25-cym.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7979\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Modiwlau Dysgu<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r meysydd Gwybodaeth am Fodiwlau, Asesu ac Adborth ac Arholwyr Allanol yn parhau, ond bellach maent yn fodiwlau dysgu yn hytrach na ffolderi. Mae gan fodiwlau dysgu holl ymarferoldeb ffolderi o ran sut y caiff cynnwys ei ychwanegu a&#8217;i gyrchu, ond maent yn fwy apelgar yn weledol ac yn haws eu llywio, yn enwedig o safbwynt myfyriwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan bob modiwl dysgu ddelwedd ddiofyn, <strong>ond rydym yn annog hyfforddwyr i ddewis delwedd fwy perthnasol ac ystyrlon ar gyfer eu modiwlau dysgu.<\/strong> Mae ychwanegu delwedd at fodiwl dysgu yn rhoi hunaniaeth weledol i gwrs ac yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i&#8217;r modiwl dysgu. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i addasu ymddangosiad modiwlau dysgu yn&nbsp; <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/Create_Containers_for_Content\/Create_Learning_Modules#:~:text=Customize%20your%20learning%20module%27s%20appearance\">yr adran hon o dudalen gymorth Blackboard ar gyfer Modiwlau Dysgu.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1723\" height=\"1633\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2024\/05\/Enghraifft.png\" alt=\"Templed Cwrs Blackboard Ultra gyda Gwybodaeth am Fodiwlau, Asesu ac Adborth a Modiwl Dysgu Arholwyr Allanol cudd\" class=\"wp-image-7887\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gellir ychwanegu cynnwys at fodiwlau dysgu yn yr un modd \u00e2 ffolderi; trwy eu hehangu a chlicio&#8217;r symbol plws. Mae Creu, Cop\u00efo Cynnwys ac Uwchlwytho yn aros yr un fath.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"600\" height=\"406\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2024\/05\/add-content-cym.gif\" alt=\"GIF o ehangu Modiwl Dysgu ac ychwanegu cynnwys\" class=\"wp-image-7888\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r holl osodiadau cudd \/ gweladwy ac amodau rhyddhau arferol hefyd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hyfforddwyr barhau i ddefnyddio ffolderi os hoffent, neu efallai yr hoffent greu modiwlau dysgu ychwanegol a chop\u00efo cynnwys presennol iddynt o ffolderi. Ceir hyd i\u2019r opsiynau i ychwanegu ffolderi a modiwlau dysgu ychwanegol trwy glicio ar y symbol plws a <strong>Creu<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Noder, gellir ychwanegu Modiwlau Dysgu i dudalen lanio Cynnwys yn unig, ac nid o fewn y ffolderi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"725\" height=\"827\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2024\/05\/create-cym.png\" alt=\"Ciplun o ddewislen Eitenau Cynnwys y Cwrs\" class=\"wp-image-7889\" style=\"width:480px;height:auto\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ceir mwy o wybodaeth am fodiwlau dysgu ar <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/Create_Containers_for_Content\/Create_Learning_Modules\">dudalen gymorth Blackboard ar Fodiwlau Dysgu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cofrestr Dosbarth<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cofrestr y dosbarth bellach wedi&#8217;i chuddio oddi wrth fyfyrwyr. Maen nhw&#8217;n dal i allu gweld y staff sydd ar y cwrs o dan Staff y Cwrs, ond ni allant weld myfyrwyr eraill y cwrs mwyach. Mae croeso i chi wneud Cofrestr y Dosbarth yn weladwy eto os hoffech chi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"600\" height=\"273\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2024\/05\/register-change-eng-1.gif\" alt=\"GIF yn dangos sut i wneud cofrestr y dosbarth yn weladwy i fyfyrwyr.\" class=\"wp-image-7890\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Olrhain Cynnydd<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae olrhain cynnydd bellach wedi&#8217;i alluogi yn ddiofyn i fyfyrwyr. Mae olrhain cynnydd yn rhoi ffordd hawdd i fyfyrwyr gadw golwg ar yr hyn maen nhw wedi&#8217;i wneud yn y cwrs.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"345\" height=\"246\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2024\/05\/progresstrackingnewscreencap-1.jpg\" alt=\"Sgrinlun o olrhain cynnydd o safbwynt myfyriwr\" class=\"wp-image-7891\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, ar y dudalen Trosolwg Myfyrwyr gall Hyfforddwyr gael mynediad i&#8217;r tab Cynnydd ar gyfer pob myfyriwr sy&#8217;n olrhain cynnydd mewn cwrs. Gallwch weld tasgau sydd wedi\u2019u cwblhau a thasgau sydd heb eu cwblhau ar gyfer pob myfyriwr. Am fwy o wybodaeth gweler&nbsp; <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Courses\/Progress_Tracking\">tudalen gymorth Blackboard ar Olrhain Cynnydd<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynorthwyydd Dylunio DA (<strong>AI Design Assistant<\/strong>)<\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyd-destun ac Egwyddorion Canllaw<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Anthology, gwerthwr Blackboard Learn, wedi ychwanegu offer DA at Blackboard yn rhan o&#8217;u &#8216;Cynorthwyydd Dylunio DA&#8217;. Dull Anthology yw grymuso staff i ddefnyddio DA i &#8220;hyrwyddo asesiad dilys, profiadau dysgu ysgogol ac uniondeb academaidd, tra hefyd yn darparu effeithlonrwydd i addysgwyr a gwell canlyniadau i fyfyrwyr o ganlyniad.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.anthology.com\/trust-center\/trustworthy-ai-approach\">Mae Anthology wedi cyhoeddi eu dull DA dibynadwy<\/a>, a&#8217;r egwyddorion allweddol yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Tegwch:&nbsp;<\/strong>Lleihau rhagfarn niweidiol mewn systemau DA.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dibynadwyedd:&nbsp;<\/strong>Cymryd mesurau i sicrhau bod allbwn systemau DA yn ddilys ac yn ddibynadwy.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Bodau dynol mewn rheolaeth:&nbsp;<\/strong>Sicrhau bod bodau dynolyn y pen draw yn gwneud penderfyniadau sy&#8217;n cael effaith gyfreithiol neu arwyddocaol arall<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Tryloywder ac Esboniadwyedd:&nbsp;<\/strong>Esbonio i ddefnyddwyr pryd mae systemau DA yn cael eu defnyddio, sut mae systemau DA yn gweithio, a helpu defnyddwyr i ddehongli a defnyddio allbwn y systemau DA yn briodol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Preifatrwydd a Diogelwch:&nbsp;<\/strong>Dylai systemau DA fod yn ddiogel ac yn breifat.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Alinio gwerth:&nbsp;<\/strong>Dylid alinio systemau DA \u00e2 gwerthoedd dynol, yn enwedig gwerthoedd ein defnyddwyr a&#8217;n defnyddwyr.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Atebolrwydd:&nbsp;<\/strong>Sicrhau bod atebolrwydd clir ynghylch defnyddio systemau DA yn ddibynadwy o fewn Anthology yn ogystal \u00e2 rhwng Anthology, ei gleientiaid, a&#8217;i ddarparwyr systemau DA.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os yw Hyfforddwyr yn dewis defnyddio&#8217;r Cynorthwyydd Dylunio DA, rydym yn argymell:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>1. Cynhyrchu a gwirio cynnwys<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw cynnwys a gynhyrchir gan DA byth yn cael ei ychwanegu&#8217;n awtomatig at gwrs. Ni fydd yn cael ei ryddhau i fyfyrwyr heb i hyfforddwyr wneud y penderfyniad hwnnw. Bydd angen i hyfforddwyr bob amser gymeradwyo cynnwys cyn ei fod ar gael i fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hyfforddwyr adolygu a newid cynnwys a gynhyrchir gan DA bob amser. Er enghraifft, os yw hyfforddwr yn creu cwestiynau prawf, mae&#8217;n debygol na fydd rhai yn ddefnyddiol. Dylai&#8217;r hyfforddwr ddewis yr hyn yr hoffent ei ddefnyddio a&#8217;i olygu yn \u00f4l yr angen. Mae&#8217;n bwysig i hyfforddwyr sicrhau bod popeth a gynhyrchir gan DA yn cael ei wirio cyn iddo gael ei ychwanegu at gwrs a bod ar gael i fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>2. Ystyriwch ychwanegu Datganiad Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial at gwrs<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn unol \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/teaching\/gweithdaidpp\/#cynhyrchu-deallusrwydd-artiffisial\">chanllaw deallusrwydd artiffisial<\/a> y brifysgol, os yw&#8217;r cynnwys wedi&#8217;i gynhyrchu&#8217;n sylweddol ddefnyddio offer DA, dylid datgan hyn yn glir i&#8217;r myfyrwyr.&nbsp; Gellir ychwanegu datganiad ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn cwrs Blackboard Learn yn yr ardal <strong>&nbsp;Gwybodaeth am Fodiwl<\/strong> gan ddefnyddio&#8217;r nodwedd Dogfen.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Offer Cynorthwyydd Dylunio DA<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r offer canlynol ar gael i Hyfforddwyr ar gyrsiau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu Modiwlau Dysgu<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r nodwedd hon yn caniat\u00e1u creu strwythur cwrs gan ddefnyddio modiwlau dysgu yn seiliedig ar enw&#8217;r cwrs ac unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd. Mae modiwlau dysgu yn debyg i ffolderi.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall y Cynorthwyydd Dylunio DA gynhyrchu un neu fwy o fodiwlau dysgu a fydd yn cynnwys teitl, delwedd a disgrifiad. Am fwy o wybodaeth gweler yr adran ar <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/AI_Design_Assistant#:~:text=AI%20Module%20Generation-,Course%20structure%20suggestions,-If%20you%20need\">awgrymiadau strwythur cwrs ar dudalen cymorth Cynorthwyydd Dylunio DA.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu Cwestiynau Prawf a Banciau Cwestiynau<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r nodwedd hon yn creu cwestiynau prawf a banciau cwestiynau yn seiliedig ar y cynnwys sydd wedi&#8217;i gynnwys yn y cwrs. Gall hyfforddwyr nodi&#8217;r lefel a&#8217;r mathau o gwestiynau a ofynnir.&nbsp; Gellir addasu&#8217;r cymhlethdod a&#8217;r math o gwestiwn. Am fwy o wybodaeth gweler yr adran ar <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/AI_Design_Assistant#:~:text=select%20Add.-,Test%20question%20generation,-Creating%20test%20questions\">greu cwestiwn prawf ar dudalen cymorth Cynorthwyydd Dylunio DA.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu geiriau allweddol ar gyfer Unsplash<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Unsplash yn llyfrgell ddelweddau heb hawlfraint sy&#8217;n hygyrch o fewn Blackboard. Bydd yr offer DA yn cynhyrchu geiriau allweddol perthnasol yn seiliedig ar enw&#8217;r cwrs a&#8217;r cynnwys i chwilio amdanynt yn Unsplash.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu Cyfnodolion<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn seiliedig ar enw a chynnwys y cwrs, mae gweithgareddau cyfnodolion yn cael eu cynnig a&#8217;u creu. Am fwy o wybodaeth gweler yr adran ar <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/AI_Design_Assistant#:~:text=RTF%2C%20and%20HTML.-,Journal%20generation,-Journals%20will%20be\">greu cyfnodolyn ar dudalen cymorth Cynorthwyydd Dylunio DA.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu Trafodaethau<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn seiliedig ar enw a chynnwys y cwrs, mae gweithgareddau trafodaeth yn cael eu cynnig a&#8217;u creu. Am fwy o wybodaeth gweler yr adran ar <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/AI_Design_Assistant#generatediscussion:~:text=Auto%2Dgenerate%20discussions\">greu trafodaethau yn awtomatig ar dudalen cymorth Cynorthwyydd Dylunio DA.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Creu Aseiniadau<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd y cynhyrchydd aseiniad yn creu awgrymiadau ar gyfer aseiniadau, gan ddefnyddio tacsonomeg Bloom i gynnwys gwahanol lefelau o gymhlethdod. Gellir addasu&#8217;r cymhlethdod hwn. Mae hyn ond yn berthnasol i\u2019r offer aseiniad sydd wedi\u2019i adeiladu yn Blackboard ac nid Turnitin. Am fwy o wybodaeth gweler yr adran ar <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Ultra\/Course_Content\/Create_Content\/AI_Design_Assistant#:~:text=AI%20Rubric%20Generation-,Assignment%20prompt%20generation,-You%20can%20generate\">greu awgrym aseiniad ar dudalen cymorth Cynorthwyydd Dylunio DA.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Noder: Mae gan Gynorthwyydd Dylunio DA Blackboard gynhyrchydd Cyfarwyddyd a Chynhyrchydd delweddau DA nad ydym wedi&#8217;i alluogi.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am y Cynorthwyydd Dylunio DA, <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/blackboard\/blackboardcanllawiaustaff\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/blackboard\/blackboardcanllawiaustaff\/\">gweler Cymorth Blackboard a gweddalennau\u2019r Brifysgol.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Byddwn yn creu cyrsiau yn Blackboard Learn Ultra ar gyfer 2024-25 ddydd Llun 3 Mehefin eleni. Ar \u00f4l y dyddiad hwn, bydd modd i hyfforddwyr ychwanegu cynnwys ac addasu eu cyrsiau newydd. Bydd gan gyrsiau&#8217;r templed diofyn sy&#8217;n cynnwys moiwlau dysgu ar gyfer Gwybodaeth am y Modiwl, Asesu ac Adborth ac Arholwyr Allanol. Ni fydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":12811,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544,229],"tags":[1087],"class_list":["post-7877","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-uncategorized-cy","tag-ultrablackboard"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-233","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7877","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7877"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7877\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8106,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7877\/revisions\/8106"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7877"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7877"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7877"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}