{"id":7751,"date":"2024-04-23T11:47:20","date_gmt":"2024-04-23T10:47:20","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=7751"},"modified":"2024-05-03T08:55:49","modified_gmt":"2024-05-03T07:55:49","slug":"lansiad-llyfr-pedagodzilla-ac-ymosodiad-pod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2024\/04\/23\/lansiad-llyfr-pedagodzilla-ac-ymosodiad-pod\/","title":{"rendered":"Lansiad Llyfr Pedagodzilla ac Ymosodiad Pod"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae&#8217;r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch iawn o groesawu <em>Pedagodzilla<\/em>, y podlediad pedagogaidd \u00e2\u2019i graidd mewn diwylliant pop, i Brifysgol Aberystwyth.&nbsp; Maen nhw\u2019n cynnal cyfres arbennig iawn o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a sesiynau DPP ar 2 a 3 Mai 2024.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>2\/5\/2024 <\/strong>10:00-12:00 Powering professional development with Pedagodzilla<\/li>\n\n\n\n<li><strong>2\/5\/2024 <\/strong>13:30-15:30 The Aber Takeover&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li><strong>3\/5\/2024 <\/strong>10:00-11:00 Pedagodzilla Live<\/li>\n\n\n\n<li><strong>3\/5\/2024 <\/strong>11:05-12:00 Picking Pedagodzilla Panellist Brains<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gall staff archebu lle ar ein <a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\"><strong>System archebu DPP<\/strong><\/a>.&nbsp; Dylai myfyrwyr sydd \u00e2 diddordeb gysylltu \u00e2 th\u00eem &nbsp;<a href=\"mailto:cpdstaff@aber.ac.uk\"><strong>Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu<\/strong><\/a>&nbsp;i ychwanegu eu henwau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymweliad&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.pedagodzilla.com\/\"><strong>Pedagodzilla<\/strong><\/a>&nbsp; ag Aberystwyth yn dechrau gyda chyflwyniad gan y t\u00eem yn s\u00f4n am bwy ydyn ni a beth yw <em>Pedagodzilla <\/em>\u2013 gan gynnwys rhoi cop\u00efau am ddim o&#8217;n llyfr sydd newydd ei lansio,<em>&nbsp;Pedagodzilla:&nbsp; Exploring the Realm of Pedagogy<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod y llyfr yw egluro a datrys maes addysgeg, gan ddefnyddio lens y diwylliant pop mewn ffordd chwareus a hygyrch.&nbsp; Mae&#8217;r llyfr yn deillio o benodau\u2019r Podlediad <em>Pedagodzilla<\/em>, sydd bellach wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd, ac sydd wedi arwain at gydweithio a sgyrsiau ar draws y byd, eitemau mewn cynadleddau a phapurau i gyfnodolion.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n teimlo y bydd y llyfr yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb mewn ymarfer addysg \u2013a sut y gall damcaniaeth lywio ein dull o addysgu.&nbsp; Yn benodol, mae&#8217;r llyfr hwn wedi&#8217;i anelu at ymarferwyr a allai fod yn dioddef o&#8217;r perygl galwedigaethol cyffredin ym maes addysg uwch sef syndrom y ffugiwr \u2013 gan roi iddynt ffordd hygyrch o ddefnyddio iaith addysgeg i drafod a datblygu eu hymarfer eu hunain.&nbsp; Byddwn yn siarad am y llyfr \u2013 yn rhannu cod QR i gael gafael ar y pdf \u2013 ac yn rhannu rhai cop\u00efau print nes eu bod yn rhedeg allan.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn wedyn yn symud i weithdy, gan ddechrau drwy drafod datblygiad a fframwaith Podlediad <em>Pedagodzilla<\/em> fel offeryn datblygu proffesiynol. Yna byddwn yn gwahodd y rhai sy\u2019n bresennol i ffurfio grwpiau lle bydd cyfle, o fewn fframwaith, i lunio syniad o&#8217;u prosiectau datblygu proffesiynol pwerus eu hunain.&nbsp; Byddwn yn crynhoi\u2019r cyfan mewn trafodaeth o&#8217;r addysgeg sylfaenol, ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i bweru eich datblygiad proffesiynol eich hun \u00e2 chreadigrwydd a dilysrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn sesiwn <em>Aber Takeover<\/em>, rydym yn gwahodd y rhai sy\u2019n bresennol i ffurfio t\u00eem (gan ddefnyddio swyddogaethau hunan-ddisgrifiedig i rannu grwpiau) i ddylunio rhan fer o sioe o fewn fframwaith ac iddo strwythur chwareus.&nbsp; Bydd grwpiau&#8217;n recordio eu cyfraniadau, a bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn&nbsp;<strong>pennod arbennig sef Aberystwyth Takeover<\/strong>, i\u2019w chyhoeddi ar ffrwd podlediad <em>Pedagodzilla<\/em>.&nbsp; Os nad ydych chi&#8217;n hyderus yn siarad neu&#8217;n cael eich recordio, peidiwch \u00e2 phoeni!&nbsp; Mae&#8217;r fformat hwn yn cynnwys opsiynau ar gyfer cyfraniadau di-siarad.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr ail ddiwrnod, ymunwch \u00e2 <em>Pedagodzilla<\/em> am sesiwn recordio!&nbsp; Yma rydyn ni\u2019n arbrofi gyda&#8217;n fformat ac yn gwahodd y rhai sy\u2019n bresennol i gyflwyno eu cwestiynau yn null <em>Pedagodzilla<\/em> lle mae &#8216;addysgeg yn cwrdd \u00e2\u2019r diwylliant pop&#8217;, i weld a all ein panelwyr ffwndrus ein hargyhoeddi rhywsut gydag atebion dilys o fewn terfyn amser tynn, mewn podlediad wedi&#8217;i recordio.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y sesiwn olaf, rydyn ni\u2019n gwahodd pobl dda Aberystwyth i fynd ati i holi ac elwa ar wybodaeth t\u00eem <em>Pedagodzilla<\/em> &#8211; gweithwyr proffesiynol addysg uwch o brifysgolion proffil uchel ledled y wlad.&nbsp; Gall y pynciau gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Theori ac ymarfer Dylunio Dysgu (Pawb)<\/li>\n\n\n\n<li>Uchafbwyntiau ac anfanteision dysgu o bell (Pawb)<\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu trwy brofiad mewn bydoedd rhithwir, ac addysgeg (neu beidio) y byd rhithwir (Mark)<\/li>\n\n\n\n<li>Creu podlediadau ar gyfer dechreuwyr (Mike)<\/li>\n\n\n\n<li>Dyfodol addysg, ac arloesi mewn addysgeg (Rebecca)<\/li>\n\n\n\n<li>Ymddygiadau dysgu (Elizabeth Ellis)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Yngl\u0177n \u00e2 <em>Pedagodzilla<\/em><\/h2>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.pedagodzilla.com%2F&amp;data=05%7C02%7C%7C2aa48b72e7db4e2516d708dc57aa60de%7Cd47b090e3f5a4ca084d09f89d269f175%7C0%7C0%7C638481636479261214%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C0%7C%7C%7C&amp;sdata=iyEwTUHfiMIY4%2FaX1ygz3SWKd9YILlq7o45xqKTMbmo%3D&amp;reserved=0\"><strong>Pedagodzilla<\/strong><\/a>&nbsp;Dyma&#8217;r podlediad pedagogaidd \u00e2\u2019i graidd mewn diwylliant pop, sy&#8217;n ceisio deall ac ystyried addysgeg ac ymarfer addysg yn chwareus trwy lens diwylliant pop.&nbsp; Bydd t\u00eem <em>Pedagodzilla <\/em>yn lansio eu llyfr cyntaf yn swyddogol yn Aberystwyth,<em>&nbsp;Pedagodzilla: <\/em>&nbsp;<em>Exploring the Realm of Pedagogy<\/em>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Hwyluswyr<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Mike Collins:<\/strong>&nbsp;Cynhyrchydd a chyflwynydd podlediad <em>Pedagodzilla<\/em>, ac Uwch Ddylunydd Dysgu yn Y Brifysgol Agored.&nbsp; Mike hefyd sydd wedi darparu\u2019r darluniau ar gyfer y llyfr.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dr Mark Childs:<\/strong>&nbsp;Mae Mark yn Uwch Ddylunydd Dysgu ym Mhrifysgol Durham.&nbsp; Mae ganddo PhD mewn Addysg a dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn 2021 am ei ymchwil a&#8217;i addysgu yn defnyddio realiti rhithwir a fideogynadledda.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Yr Athro Rebecca Ferguson:<\/strong>&nbsp;Yr Athro Rebecca Ferguson yw golygydd y&nbsp;<em>Journal of Learning Analytics<\/em>, cydlynydd academaidd y Rhwydwaith Academaidd <em>FutureLearn<\/em> (FLAN).<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Elizabeth Ellis:<\/strong>&nbsp;Yn y Brifysgol Agored, mae Elizabeth yn datblygu profiadau dysgu digidol ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol Agored yn ogystal ag <em>OpenLearn<\/em> a <em>FutureLearn<\/em>.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch iawn o groesawu Pedagodzilla, y podlediad pedagogaidd \u00e2\u2019i graidd mewn diwylliant pop, i Brifysgol Aberystwyth.&nbsp; Maen nhw\u2019n cynnal cyfres arbennig iawn o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a sesiynau DPP ar 2 a 3 Mai 2024.&nbsp; Gall staff archebu lle ar ein System archebu DPP.&nbsp; Dylai myfyrwyr sydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[598],"tags":[],"class_list":["post-7751","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-siaradwyr-allanol"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-211","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7751","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7751"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7751\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7754,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7751\/revisions\/7754"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7751"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7751"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7751"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}