{"id":6842,"date":"2023-09-27T11:16:06","date_gmt":"2023-09-27T10:16:06","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=6842"},"modified":"2023-09-27T11:16:09","modified_gmt":"2023-09-27T10:16:09","slug":"diweddariad-pwysig-ir-staff-am-ddeallusrwydd-artiffisial-cynhyrchiol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2023\/09\/27\/diweddariad-pwysig-ir-staff-am-ddeallusrwydd-artiffisial-cynhyrchiol\/","title":{"rendered":"Diweddariad Pwysig i\u2019r Staff am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol"},"content":{"rendered":"\n<p>Anfonwyd y neges ebost isod at yr holl staff gan yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr, ar 25 Medi.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Annwyl Gyd-weithiwr<\/p>\n\n\n\n<p>Fel y trafodwyd yn y Bwrdd Academaidd ar 13 Medi 2023, mae&#8217;r brifysgol wedi penderfynu diffodd yr adnodd Canfod Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn Turnitin o 30 Medi 2023. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar brofiad o\u2019r adnodd ledled y sector addysg uwch, ac yn enwedig felly ar ystadegau sy&#8217;n ymddangos fel pe baent yn dangos nifer uchel o ganlyniadau cadarnhaol ffug a&#8217;r pryder y mae hyn yn ei achosi i fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae DA Cynhyrchiol eisoes wedi dod yn hollbresennol. Mae&#8217;n cael ei gynnwys fwyfwy yn rhan o\u2019r offer a ddarparwn ar gyfer staff a myfyrwyr megis Office 365 a Blackboard, yn ogystal ag offer fel Google sy&#8217;n cael eu defnyddio&#8217;n eang gan y cyhoedd yn gyffredinol. Nid yw&#8217;n ymarferol gwahardd defnyddio&#8217;r offer hyn, felly mae angen i ni ganfod ffyrdd o helpu myfyrwyr i ddefnyddio DA Cynhyrchiol mewn modd moesegol ac effeithiol er mwyn dysgu go iawn, yn hytrach na thwyllo.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyrwyddo\u2019r gallu i ddefnyddio DA ymhlith staff a myfyrwyr wedi datblygu i fod yn agenda holl bwysig ledled y sector addysg uwch. Un o\u2019r egwyddorion allweddol yw\u2019r angen i staff fod yn agored gyda\u2019u myfyrwyr ynghylch y rhesymau am yr asesiadau, sut maent yn helpu myfyrwyr i ddysgu, a&#8217;r hyn y mae\u2019r staff yn ei ddisgwyl gan eu myfyrwyr. Dylai myfyrwyr, yn eu tro, ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol os ydynt yn defnyddio offer DA, a bod yn agored yn y gwaith cwrs y maent yn ei gyflwyno ynghylch sut ac ymhle y maent wedi defnyddio offer o&#8217;r fath. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer fel Grammarly neu Quillbot sydd, o bosibl, wedi\u2019u hargymell ar gyfer myfyrwyr a chanddynt wahaniaethau dysgu penodol, er enghraifft.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech annog eich myfyrwyr i ddarllen y canllaw LibGuide newydd a gr\u00ebwyd gan y T\u00eem Cysylltiadau Academaidd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth: <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=711623&amp;p=5137689\"><strong>Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr: Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?<\/strong><\/a> Cafodd y dudalen <a href=\"https:\/\/libguides.aber.ac.uk\/c.php?g=711623&amp;p=5153220\"><strong>Deallusrwydd Artiffisial a\u2019ch Astudiaethau<\/strong><\/a> yn y LibGuide ei chreu gan y Gweithgor DA Cynhyrchiol ac mae&#8217;n cynnwys clipiau fideo sy&#8217;n tynnu sylw at ganllawiau ymarferol ar ddefnyddio DA yn foesegol ac effeithiol. Bydd sesiwn ar Ddefnyddio DA er Lles yn cael ei chynnig ar 6 Tachwedd yn rhan o&#8217;r \u0174yl Sgiliau Digidol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer staff ar dudalen deunyddiau gweithdy <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/teaching\/gweithdaidpp\/#cynhyrchu-deallusrwydd-artiffisial\"><strong>Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol<\/strong><\/a>yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, gyda chanllawiau a gr\u00ebwyd gan y Gweithgor DA Cynhyrchiol a dolenni i rai ffynonellau awdurdodol. Bydd y ddogfen i staff yn cael ei diweddaru\u2019n fuan gyda manylion ychwanegol ar ba rybuddion i chwilio amdanynt wrth farcio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mynnwch gip ar y <a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\"><strong>dudalen archebu DPP<\/strong><\/a> i weld y&nbsp; sesiynau hyfforddiant sydd i ddod i\u2019r staff ar DA Cynhyrchiol, a\u2019r fforymau trafod lle mae croeso i\u2019r staff a\u2019r myfyrwyr fel ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeallusrwydd artiffisial o safbwynt marcio neu gynllunio dysgu, cysylltwch \u00e2&#8217;r <\/strong><strong><a href=\"mailto:cpdstaff@aber.ac.uk\">Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu<\/a><\/strong><strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dymuniadau gorau<\/p>\n\n\n\n<p>Tim&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Anfonwyd y neges ebost isod at yr holl staff gan yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr, ar 25 Medi. &#8220;Annwyl Gyd-weithiwr Fel y trafodwyd yn y Bwrdd Academaidd ar 13 Medi 2023, mae&#8217;r brifysgol wedi penderfynu diffodd yr adnodd Canfod Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn Turnitin o 30 Medi 2023. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":55903,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-6842","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-1Mm","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6842","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/55903"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6842"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6842\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6843,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6842\/revisions\/6843"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6842"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6842"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6842"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}