{"id":6336,"date":"2023-06-08T12:19:59","date_gmt":"2023-06-08T11:19:59","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=6336"},"modified":"2024-06-11T07:24:04","modified_gmt":"2024-06-11T06:24:04","slug":"modiwlau-rhiant-a-phlentyn-2023-24","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2023\/06\/08\/modiwlau-rhiant-a-phlentyn-2023-24\/","title":{"rendered":"Cyfuno Cyrsiau 2024-25"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae cyrsiau 2024-25 bellach ar gael i staff yn Blackboard, felly rydym yn barod i gyfuno eich cyrsiau ar gais cydlynydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel <strong>Cyfuno cyrsiau<\/strong> (gelwid gynt yn berthynas rhiant a phlentyn). Mae cysylltu cyrsiau yn ffordd effeithiol o drin cyrsiau unigol gyda\u2019r un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau i ddau neu ragor o gyrsiau gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l y drefn hon, bydd un cwrs yn <strong>gwrs cynradd<\/strong> (gelwid gynt yn <strong>rhiant<\/strong>), a\u2019r cwrs neu gyrsiau eraill yn <strong>gwrs eilaidd <\/strong>(gelwid gynt yn <strong>blentyn<\/strong>). Ni chyfyngir ar nifer y gyrsiau eilaidd ond ni ellir cael mwy nag un cwrs cynradd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n gydlynydd modiwl a hoffech i ni gysylltu eich cyrsiau yn \u00f4l y drefn hon, cysylltwch ag&nbsp;<a href=\"mailto:eddysgu@aber.ac.uk\">eddysgu@aber.ac.uk<\/a>&nbsp;gan nodi\u2019r codau modiwl ar gyfer y cwrs cynradd a phob cwrs eilaidd yr hoffech ei gyfuno.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"block-72fdb896-172d-4c15-ab7d-1f96eaf2dbab\">Enghreifftiau o Aberystwyth<\/h2>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Mae llawer o aelodau staff eisoes wedi cyfuno cyrsiau ar draws y sefydliad. Dyma ambell engraifft:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"1\">\n<li>Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol.<\/li>\n\n\n\n<li>Modiwlau sy\u2019n dod \u00e2 gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth mae\u2019r myfyrwyr yn gweld?<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth fewngofnodi i Blackboard, bydd y myfyrwyr yn gweld enw\u2019r cwrs y maent wedi\u2019u cofrestru arno (hyd yn oed os mai\u2019r cwrs eilaidd yw hwnnw) ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y cwrs cynradd. Ni ddylid gosod na chreu unrhyw gynnwys yn y cwrs eilaidd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pwyntiau i&#8217;w hystyried<\/h2>\n\n\n\n<p>Nawr, cyn dechrau\u2019r tymor ac wrth i chi greu cynnwys eich cyrsiau, yw\u2019r amser perffaith i gysylltu cyrsiau. Er bod cysylltu cyrsiau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, ystyriwch yr isod cyn gwneud cais:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y cyrsiau\u2019n cael eu cyfuno (cyn belled \u00e2 bod y myfyrwyr wedi\u2019u cofrestru ar y cwrs). Gellir gweld sleidiau <strong>PowerPoint<\/strong>, <strong>deunyddiau darlithoedd<\/strong>, a chwynnwys fel <strong>Cyhoeddiadau<\/strong> a <strong>deunyddiau rhyngweithiol<\/strong> eraill ar eich cwrs cynradd.<\/li>\n\n\n\n<li>Ni fydd <strong>rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol<\/strong> ar fodiwl eilaidd (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar \u00f4l i\u2019r cyrsiau gael eu cyfuno.<\/li>\n\n\n\n<li>Ni fydd modd gweld unrhyw <strong>fannau cyflwyno<\/strong> a gr\u00ebwyd ar gwrs eilaidd cyn y cyfuno. Fe\u2019ch cynghorir i\u2019w creu o\u2019r newydd yn y cwrs cynradd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf reoli\u2019r cynnwys i sicrhau mai myfyrwyr y modiwl yn unig fydd yn ei weld?<\/h2>\n\n\n\n<p>Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar \u00f4l i\u2019r cyrsiau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau ac \u2018amodau rhyddhau\u2019 (gynt \u2018rhyddhau\u2019n ymaddasol\u2019 yn Blackboard Original) os dymunwch i\u2019r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno cwrs ail a thrydedd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol gyrsiau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau \u2013 1 ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn ac 1 ar gyfer myfyrwyr y drydedd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a\u2019r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar\u00a0<a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=534\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">greu\u00a0gr\u0175p<\/a>\u00a0ac\u00a0<a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=582\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">amodau rhyddhau<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Llyfr Graddau a Chyfuno Cyrsiau<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yn Llyfr Graddau\u2019r cwrs cynradd. Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi\u2019u cofrestru ar y cwrs eilaidd gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw\u2019r myfyriwr yng ngholofnau\u2019r Llyfr Graddau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch \u00e2 ni ar <a href=\"mailto:eddysgu@aber.ac.uk\">eddysgu@aber.ac.uk<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyrsiau 2024-25 bellach ar gael i staff yn Blackboard, felly rydym yn barod i gyfuno eich cyrsiau ar gais cydlynydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel Cyfuno cyrsiau (gelwid gynt yn berthynas rhiant a phlentyn). Mae cysylltu cyrsiau yn ffordd effeithiol o drin cyrsiau unigol gyda\u2019r un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":91396,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544],"tags":[],"class_list":["post-6336","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-1Ec","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6336","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/91396"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6336"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6336\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8000,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6336\/revisions\/8000"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6336"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6336"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6336"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}