{"id":6157,"date":"2023-05-05T10:02:53","date_gmt":"2023-05-05T09:02:53","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=6157"},"modified":"2023-05-05T10:02:54","modified_gmt":"2023-05-05T09:02:54","slug":"ystyriaethau-ar-gyfer-canfod-deallusrwydd-artiffisial-cynhyrchiol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2023\/05\/05\/ystyriaethau-ar-gyfer-canfod-deallusrwydd-artiffisial-cynhyrchiol\/","title":{"rendered":"Ystyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol"},"content":{"rendered":"\n<p>Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau\u2019r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu&#8217;n gyflym. Fel y mae\u2019r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic-registry\/handbook\/regulations\/uap\/\"> <strong>Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol<\/strong> &nbsp;<\/a>er mwyn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a&#8217;r tabl cosbau i gynnwys \u2018Cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel eich gwaith eich hun\u2019 (a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd ym mis Mawrth 2023).<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic-registry\/handbook\/regulations\/uap\/\"><strong>Rheoliad ynghylch Ymddygiad Annerbyniol<\/strong><\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic-registry\/handbook\/taught-schemes\/\"><strong>Ffurflen Dempled<\/strong><\/a>: Gweler adran 3.13<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Cr\u00ebwyd y gweithgor Deallusrwydd Artiffisial, dan gadeiryddiaeth Mary Jacob, ym mis Ionawr 2023 i gydlynu ymdrechion y prifysgolion. Gweler<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/teaching\/teaching-cpd-workshops\/#generative-ai\"> <strong>Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol<\/strong><\/a> i gael canllawiau ac adnoddau cyfredol. Rydym wrthi\u2019n cynllunio deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a myfyrwyr a fydd ar gael ymhell cyn y flwyddyn academaidd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cyngor ar farcio<\/h1>\n\n\n\n<p>Ar 3\/4\/2023, daeth offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial Turnitin yn weithredol. Ar hyn o bryd, mae&#8217;r Sg\u00f4r Deallusrwydd Artiffisial (<em>AI Score<\/em>) yn weladwy i staff ond nid i fyfyrwyr. Gallai hyn newid os bydd Turnitin yn diweddaru&#8217;r adnodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gweler <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2023\/03\/27\/lansio-adnodd-turnitin-i-ddatgelu-ysgrifennu-drwy-ddeallusrwydd-artiffisial-a-chatgpt\/\"><strong>Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT | (aber.ac.uk)<\/strong><\/a> ar flog UDDA&nbsp;a <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2023\/03\/AI-writing-detection-How-to-use-guide.pdf\"><strong>Turnitin\u2019s AI Writing Detection<\/strong><\/a> (Cynnwys allanol) gan Turnitin (sylwer y gall yr un darn gael ei adnabod fel cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial ac fel darn sy&#8217;n cyfateb i ffynhonnell allanol).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr yn y sector na all <strong>unrhyw offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial roi tystiolaeth bendant<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<p>Daw hyn gan y QAA, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Drydyddol (a noddir gan Jisc), ac eraill. Cewch hyd i ddolenni i&#8217;r dystiolaeth hon ar dudalen<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/teaching\/teaching-cpd-workshops\/#generative-ai\"> <strong>Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol<\/strong><\/a>, gan gynnwys y recordiad QAA lle mae Michael Webb o&#8217;r Ganolfan Genedlaethol yn esbonio pam fod hyn yn wir.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n wynebu achos posib o ymddygiad academaidd annerbyniol, mae eich barn broffesiynol yn allweddol er mwyn gwneud y penderfyniad cywir. Dyma&#8217;r cyngor gorau y gallwn ei roi i adrannau:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\">\n<li><strong>Defnyddiwch offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin ar y cyd \u00e2 dangosyddion eraill \u2013 <\/strong>Gall offeryn Turnitin roi arwydd bod angen ymchwiliad pellach ond nid yw\u2019n dystiolaeth ynddo&#8217;i hun.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwiriwch y ffynnonellau \u2013 <\/strong>Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml, ond nid bob amser, yn cynhyrchu dyfyniadau ffug. Gall y rhain ymddangos yn gredadwy ar yr olwg gyntaf \u2013 awduron go iawn a chyfnodolion go iawn, ond nid yw&#8217;r erthygl yn bodoli. Gwiriwch y ffynonellau a nodwyd er mwyn gweld a ydynt yn 1) rhai go iawn a 2) wedi eu dewis yn briodol ar gyfer yr aseiniad. A yw&#8217;r ffynhonnell yn berthnasol i&#8217;r pwnc? Ai dyma&#8217;r math o ffynhonnell y byddai myfyriwr wedi&#8217;i darllen wrth ysgrifennu&#8217;r aseiniad (e.e. nid llyfr plant yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ar gyfer astudiaeth achos busnes)? Nid yw hyn yn brawf pendant o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae&#8217;n dystiolaeth gadarn nad yw&#8217;r myfyriwr wedi gwneud pethau\u2019n gywir.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwiriwch y ffeithiau \u2013<\/strong> Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml yn cynhyrchu celwyddau credadwy. Gallai&#8217;r testun swnio&#8217;n rhesymol ond mae&#8217;n cynnwys rhai \u2018ffeithiau\u2018 sydd wedi eu creu. Nid yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn ddeallus mewn gwirionedd, mae&#8217;n gweithio fel peiriant rhagfynegi testun soffistigedig, felly os byddwch chi&#8217;n sylwi ar rywbeth sy&#8217;n ymddangos o&#8217;i le, gwnewch yn si\u0175r nad yw&#8217;n gelwydd credadwy.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ystyriwch lefel y manylder \u2013<\/strong> Mae deallusrwydd artiffisial yn tueddu i gynhyrchu allbwn rhy generig, e.e. defnyddio termau haniaethol heb unrhyw ddiffiniadau nac enghreifftiau pendant. A yw&#8217;r traethawd neu&#8217;r adroddiad wedi&#8217;i ysgrifennu yn or-gyffredinol ynteu a yw&#8217;n cynnwys enghreifftiau pendant sy&#8217;n ddigon manwl i gefnogi&#8217;r casgliad ei fod wedi ei ysgrifennu gan fyfyriwr? Unwaith eto, nid yw diffyg manylder yn dystiolaeth bendant bod myfyriwr wedi twyllo ond gall fod yn rhybudd ar y cyd \u00e2 ffactorau eraill.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynhaliwch gyfweliad i benderfynu a yw&#8217;r gwaith yn ddilys &#8211; <\/strong>Os gwelwch arwyddion cryf o ymddygiad academaidd annerbyniol, gallai cyfweliad neu banel lle gofynnir cwestiynau i&#8217;r myfyriwr am ei aseiniad fod yn ffordd o gael tystiolaeth bendant. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol ar raddfa eang. Mae hon yn broblem gymhleth, nid i&#8217;n prifysgol ni yn unig ond ar draws y sector.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gweler y<a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/category\/crynodeb-wythnosol-o-adnoddau\/\"> <strong>Crynodeb Wythnosol o Adnoddau<\/strong> <\/a>i ddysgu am ddigwyddiadau a deunyddiau, e.e. yr erthygl hon yn benodol am astudiaeth ar offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin: Fowler, G. A. (3\/4\/2023),&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.washingtonpost.com%2Ftechnology%2F2023%2F04%2F01%2Fchatgpt-cheating-detection-turnitin%2F&amp;data=05%7C01%7C%7C33a3ede90e764cf1493f08db424aac8f%7Cd47b090e3f5a4ca084d09f89d269f175%7C0%7C0%7C638176660709194889%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&amp;sdata=vlr%2BPysShZprUKUznauOmXvL4e2w6r2LGLciVOJXapg%3D&amp;reserved=0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>We tested a new ChatGPT-detector for teachers. It flagged an innocent student<\/strong><\/a>,&nbsp;<em>Washington Post. <\/em>Mae Fowler yn egluro sut yr aethant ati i&#8217;w brofi, yr hyn a ganfuwyd, a pham y cynhyrchodd ganlyniadau ffug.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fyr, os mai sg\u00f4r deallusrwydd artiffisial Turnitin yw&#8217;r unig beth amheus y mae staff yn sylwi arno, byddem yn argymell yn erbyn dwyn achos Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Mae gormod o bosibilrwydd o niwed os nad yw&#8217;r myfyriwr wedi twyllo mewn gwirionedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau\u2019r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu&#8217;n gyflym. Fel y mae\u2019r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol &nbsp;er mwyn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":55903,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-6157","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-1Bj","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6157","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/55903"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6157"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6157\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6161,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6157\/revisions\/6161"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6157"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6157"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6157"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}