{"id":4930,"date":"2022-08-22T11:42:29","date_gmt":"2022-08-22T10:42:29","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=4930"},"modified":"2022-08-22T11:42:29","modified_gmt":"2022-08-22T10:42:29","slug":"fforymau-academi-2022-23","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2022\/08\/22\/fforymau-academi-2022-23\/","title":{"rendered":"Fforymau Academi 2022-23"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"177\" height=\"167\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/05\/Academy-Forum-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2809\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae\u2019n gyffrous gallu cyhoeddi ein Fforymau Academi arfaethedig ar gyfer 2022-23. Gan adeiladu ar lwyddiant sesiynau\u2019r llynedd, ac ar sail adborth, rydym ni wedi cynyddu\u2019r nifer o Fforymau Academi sydd ar gael gyda chyfanswm o 10 dros y flwyddyn academaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>I\u2019r rheini yn eich plith sy\u2019n anghyfarwydd \u00e2 Fforymau Academi, maen nhw\u2019n drafodaethau anffurfiol sy\u2019n dod \u00e2 chydweithwyr ynghyd o bob rhan o\u2019r Brifysgol. Ym mhob sesiwn, byddwn yn edrych ar bwnc penodol yn gysylltiedig \u00e2 Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn hwyluso\u2019r drafodaeth ac yn darparu adnoddau ac arweiniad yn dilyn y Fforwm Academi. Yna bydd y rhain ar gael ar ein tudalennau gwe. Cymerwch olwg ar bynciau Fforwm Academi y llynedd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/cdsap\/cpdmaterials\/Academy-Forum-2-Handout-and-notes.docx\">Cynllunio<\/a> Dysgu Cyfunol<\/li><li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/cdsap\/cpdmaterials\/Handout.docx\">Cynllunio<\/a> Asesiadau Dilys<\/li><li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/cdsap\/cpdmaterials\/Academy-Forum-4-Handout.docx\">Creu Cyfleoedd ar gyfer Adborth Cymheiriaid<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/cdsap\/cpdmaterials\/Academy-Forum-5-Handout.docx\">Gweithio<\/a> gyda Myfyrwyr fel Partneriaid<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Eleni, bydd rhai Fforymau Academi yn dychwelyd wyneb yn wyneb yn ogystal \u00e2\u2019r rhai a gynhelir ar-lein drwy Teams. Gallwch weld y dyddiadau, disgrifiadau o\u2019r sesiynau, a chadw lle ar y <a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\">dudalen archebu ar gyfer y tair sesiwn gyntaf&nbsp; a chadwch olwg am sesiynau\u2019r dyfodol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn dechrau\u2019r Fforymau Academi gyda thrafodaeth ar Gynefino Myfyrwyr. Byddwn yn meddwl am sut rydych chi\u2019n paratoi myfyrwyr i astudio. Pa fath o weithgareddau ydych chi\u2019n eu rhedeg yn wythnos 1 eich modiwl er mwyn i\u2019ch myfyrwyr gyfarwyddo \u00e2\u2019r cynnwys? Hefyd, byddwn yn gofyn i gydweithwyr rannu gyda ni sut y gallech chi ddefnyddio technoleg yn y rhyngweithiadau hyn.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Bydd yr ail Fforwm Academi, Sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?, yn seiliedig ar ganfyddiadau\u2019r Arolwg Profiad Digidol a gydlynir gan LTEU. Byddwn yn rhannu rhai o\u2019r negeseuon allweddol gyda chi a chewch gyfle i\u2019w cymhwyso i\u2019ch cyd-destun eich hun.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf rydym ni wedi gweld cynnydd yn y gwaith yn ymwneud \u00e2 Lles yn y Cwricwlwm a dyma bwnc y trydydd Fforwm Academi. Ddeunaw mis yn \u00f4l, trefnon ni <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/academy-mini-conference\/-2021\/\">gynhadledd fach<\/a> ar y pwnc ac rydym ni\u2019n defnyddio hwn fel cyfle i weld pa mor bell rydym ni wedi dod a myfyrio ar y gwaith sydd ar \u00f4l i\u2019w wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y pedwerydd Fforwm Academi mewn dwy ran am y tro cyntaf. Byddwn yn edrych ar Fewnwelediad Digidol mewn sesiwn a hwylusir gan ein cydweithiwr, Dr Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol. Byddwch eisoes wedi clywed am rai o\u2019r mentrau mae Sioned yn ymwneud \u00e2 nhw gan gynnwys LinkedIn Learning a\u2019r JISC Discovery Tool. Bydd ein nawfed Fforwm Academi yn ddilyniant i hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn bwrw iddi gyda Strategaethau ar gyfer Ymgysylltu ag Adborth, ein pumed Fforwm Academi. Rydym ni i gyd yn treulio llawer o amser yn rhoi adborth i fyfyrwyr ar eu haseiniadau a byddwn yn edrych ar ffyrdd gwahanol i fanteisio ar yr adborth hwn a sicrhau ymgysylltiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan adeiladu ar Ymgysylltu ag Adborth, byddwn yn defnyddio\u2019r chweched Fforwm Academi i edrych yn benodol ar Asesu Ffurfiannol a sut y gallem ddefnyddio rhai o\u2019r offerynnau sydd ar gael i ni yn ein technolegau E-ddysgu i gynllunio\u2019r rhain, gan dynnu ar asesu cymheiriaid hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae meithrin sgiliau myfyrio\u2019n hanfodol ar gyfer datblygu myfyrwyr sy\u2019n hunan-reoleiddio. Bydd Fforwm Academi 7 yn edrych yn benodol ar sut y gallem ddefnyddio technolegau, fel blogiau, byrddau trafod, a dyddiaduron ar gyfer gweithgareddau myfyriol fydd yn helpu i adeiladu\u2019r sgiliau hyn. Byddwn yn rhannu astudiaethau achos gyda chi o bob rhan o PA sydd wedi helpu i ddatblygu hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r cwestiynau cyffredin a ofynnir i ni yw sut y gallem ddefnyddio technolegau ar gyfer asesiadau gr\u0175p. Mae asesiadau gr\u0175p yn ddiarhebol o anodd eu creu a\u2019u cefnogi. Byddwn yn edrych ar feini prawf marcio aseiniadau ac yn tynnu ar gysyniadau o drafodaeth Asesu Dilys i helpu i ystyried sut y gallwn integreiddio technoleg yn well yn y math hwn o weithgaredd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn olaf, fel dilyniant i\u2019n Galluoedd Digidol, bydd y degfed Fforwm Academi yn edrych ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Cwricwlwm, pwnc sydd wedi derbyn sylw helaeth dros y blynyddoedd diweddar. Byddwn yn ystyried sut y gallwn helpu i ddatblygu cynhwysiant ac yn rhannu strategaethau gyda\u2019n gilydd ar ymyriadau addysgu llwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p>Anfonwch e-bost atom (udda@aber.ac.uk) os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Fforymau Academi ac edrychwn ymlaen at eich gweld mewn sesiwn neu ddwy y flwyddyn nesaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n gyffrous gallu cyhoeddi ein Fforymau Academi arfaethedig ar gyfer 2022-23. Gan adeiladu ar lwyddiant sesiynau\u2019r llynedd, ac ar sail adborth, rydym ni wedi cynyddu\u2019r nifer o Fforymau Academi sydd ar gael gyda chyfanswm o 10 dros y flwyddyn academaidd. I\u2019r rheini yn eich plith sy\u2019n anghyfarwydd \u00e2 Fforymau Academi, maen nhw\u2019n drafodaethau anffurfiol sy\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[594,624,542,626],"tags":[],"class_list":["post-4930","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-digwyddiadau-a-rhwydweithiau","category-diweddariadau-technegol","category-fforwm-academi","category-hyfforddiant-a-chymorth"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-1hw","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4930","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4930"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4930\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4932,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4930\/revisions\/4932"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4930"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4930"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4930"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}