{"id":4669,"date":"2022-06-15T09:10:03","date_gmt":"2022-06-15T08:10:03","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=4669"},"modified":"2022-06-15T09:10:04","modified_gmt":"2022-06-15T08:10:04","slug":"cyhoeddiad-am-brif-siaradwyr-gwadd-y-gynhadledd-dysgu-ac-addysgu-flynyddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2022\/06\/15\/cyhoeddiad-am-brif-siaradwyr-gwadd-y-gynhadledd-dysgu-ac-addysgu-flynyddol\/","title":{"rendered":"Cyhoeddiad am Brif Siaradwyr Gwadd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1440\" height=\"200\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/02\/050.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-812\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bleser gennym gyhoeddi enwau\u2019r prif siaradwyr gwadd i\u2019r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno \u00e2 ni&#8217;n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, <strong>Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Crynodeb o&#8217;r Sesiwn<\/h2>\n\n\n\n<p>I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i\u2019r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy\u2019n gallu bod yn gymhleth. Mae&#8217;r ffordd yr ydym yn \u2018byw\u2019 addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda&#8217;r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a\u2019r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn <em>Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances<\/em> mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn \u2018Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?\u2019 (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin \u00e2&#8217;r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi\u2019i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy&#8217;n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o&#8217;n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn \u00e2&#8217;r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a\u2019u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy&#8217;n ein cysylltu \u00e2 chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https:\/\/blog.westminster.ac.uk\/psj\/). Mae&#8217;r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a&#8217;i brofiadau, ac i ddefnyddio&#8217;r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau&#8217;n hanfodol i&#8217;r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd \u00e2 chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw\u2019r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau\u2019ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfeiriadau:<\/h3>\n\n\n\n<p>Bell, Deanne. (2018). A pedagogical response to decoloniality: Decolonial atmospheres and rising subjectivity. <em>American journal of community psychology<\/em>, 62 (3-4), 250-260.<\/p>\n\n\n\n<p>Carrillo Rowe, Aimee. (2008). <em>Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances<\/em>. Duke University Press: Durham, NC.<\/p>\n\n\n\n<p>hooks, bell. 1994. <em>Teaching to Transgress: Education as the Practice of Freedom<\/em>. Routledge: Efrog Newydd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bywgraffiadau\u2019r Siaradwyr<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Kyra Araneta:<\/h3>\n\n\n\n<p>A hithau wedi cwblhau ei gradd israddedig mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol San Steffan yn ddiweddar, mae Kyra yn parhau \u00e2&#8217;i hastudiaethau ar gyfer Gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. O dras gymysg Affricanaidd-Asiaidd, mae gwaith ar hunaniaeth wedi bod yn dasg gymhleth i Kyra, ond serch hynny mae&#8217;n broses sydd wedi ysbrydoli ei hymdrechion i greu offer a mannau dad-drefedigaethol a gwrth-hiliol yn yr academi. Yn ystod ei blynyddoedd nesaf ym myd addysg, mae&#8217;n gobeithio y gall ei gwaith ar y prosiect Pedagogies for Social Justice helpu i drawsnewid sut rydym yn meddwl am addysgeg ac yn ymdrin \u00e2 hi ar lefel addysg uwch.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Jennifer Fraser:<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Jennifer yn academydd cwiar anneuaidd ym Mhrifysgol San Steffan, ac mae wedi treulio&#8217;r 20 mlynedd diwethaf ym Mhrydain yn dysgu ac ymchwilio yn y mannau hynny lle y mae llenyddiaeth, astudiaethau rhywedd, damcaniaeth gwiar ac addysgeg feirniadol yn gorgyffwrdd. Mae eu hymagweddau tuag at addysg hefyd wedi\u2019u llunio gan y profiadau a gafodd fel mudwr gwyn a symudodd i Ganada a\u2019u magwraeth rhwng gwahanol fannau\u2019r \u2018cartref\u2019, yn ieithyddol ac yn ddaearyddol. Mae wedi dysgu, drwy&#8217;r rhain a\u2019r profiadau o ffurfio hunaniaeth, i roi lle canolog i feithrin cydberthnasau a rhannu straeon er mwyn datblygu dadansoddiadau beirniadol cydweithredol. Swyddogaethau ffurfiol Jennifer yw Prif Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Partneriaeth Myfyrwyr y Brifysgol yn y Ganolfan Arloesedd Addysg ac Addysgu. Yr agwedd ar y swyddi hyn sy\u2019n rhoi\u2019r pleser mwyaf i Jennifer yw\u2019r cyswllt \u00e2 breuddwydwyr a chyd-gynllwynwyr eraill dros newid.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Moonisah Usman:<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Moonisah yn fenyw Fwslimaidd sy&#8217;n arddel yr hijab, yn academydd ac yn fam newydd, gyda PhD yn y Gwyddorau Biofeddygol. A hithau wedi\u2019i magu\u2019n Bacistani yn Llundain, cafodd Moonisah ei herio gan y disgwyliadau i lwyddo, a chan y pethau a\u2019i rhwystrai rhag gwneud hynny. Roedd y pwysau a brofai wrth gael addysg, a oedd yn fwy byth oherwydd ei bod hi\u2019n fyfyrwraig genhedlaeth-gyntaf, wedi\u2019i hysbrydoli i ddewis bod yn ddarlithydd prifysgol ar gyfer y rhaglen Sylfaen yn y Ganolfan Arloesedd Addysg ac Addysgu ym Mhrifysgol San Steffan. Yno mae&#8217;n arwain modiwl craidd ar draws y brifysgol mewn sgiliau meddwl yn feirniadol ac mae hefyd yn cyfrannu at ddysgu sgiliau academaidd, ffisioleg ddynol a geneteg feddygol. Mae gan Moonisah gefndir ymchwil mewn Iechyd Trefol. Ar yr un pryd, mae gan Moonisah ymrwymiad i ymchwil addysgeg ac i&nbsp; hybu diwylliant sy\u2019n meithrin partneriaeth \u00e2 myfyrwyr mewn addysg uwch. Mae ei phrofiad o bartneriaeth \u00e2 myfyrwyr wedi agor drws iddi allu meithrin cydberthnasau gwirioneddol \u00e2 myfyrwyr a rhoi ar waith ddysgu sy\u2019n&nbsp; gymdeithasol-gyfiawn ac yn uniaethu \u00e2\u2019r myfyrwyr. Yn fwy penodol, mae ei hymchwil yn y maes hwn yn ymwneud \u00e2 datblygu cydberthnasau partneriaethol ystyrlon i gefnogi myfyrwyr sydd mewn lleiafrifoedd hil ac ymdrin ag anghydraddoldebau yn y graddau a ddyfernir. Gallwch gysylltu \u00e2 Moonisah trwy Twitter @Moonisah_wmin.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"361\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2022\/06\/Keynote-for-Blog-1024x361.png\" alt=\"Picture of Jennifer Fraser, Moonisah Usman and Kyra Araneta\" class=\"wp-image-4671\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2022\/06\/Keynote-for-Blog-1024x361.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2022\/06\/Keynote-for-Blog-300x106.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2022\/06\/Keynote-for-Blog-768x271.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2022\/06\/Keynote-for-Blog-712x251.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2022\/06\/Keynote-for-Blog.png 1123w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cewch archebu\u2019ch lle ar y gynhadledd yn nawr.<\/h2>\n\n\n\n<p>Nodyn i&#8217;ch atgoffa bod <a href=\"https:\/\/aber.onlinesurveys.ac.uk\/10gda-archebu\">modd archebu ar gyfer y gynhadledd naw<\/a>r ac fe\u2019i cynhelir drwy gymysgedd o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, ar 12-14 Medi.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwch lygad ar ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/networks-and-events-learning-teaching-conference\/\">gwefan <\/a>a&#8217;n blog am ddiweddariadau pellach.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;n bleser gennym gyhoeddi enwau\u2019r prif siaradwyr gwadd i\u2019r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022). Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno \u00e2 ni&#8217;n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[867,560],"tags":[],"class_list":["post-4669","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-dysgu-ac-addysgu-flynyddol-2022","category-gynhadledd"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-1dj","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4669","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4669"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4669\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4677,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4669\/revisions\/4677"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4669"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4669"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4669"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}