{"id":4279,"date":"2022-02-25T12:03:00","date_gmt":"2022-02-25T12:03:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=4279"},"modified":"2022-02-25T12:03:01","modified_gmt":"2022-02-25T12:03:01","slug":"siaradwr-allanol-mynd-ir-afael-ag-adborth-dr-robert-nash","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2022\/02\/25\/siaradwr-allanol-mynd-ir-afael-ag-adborth-dr-robert-nash\/","title":{"rendered":"Siaradwr Allanol: Mynd i\u2019r Afael ag Adborth, Dr Robert Nash"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1440\" height=\"200\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/11\/Audio-Feedback.png\" alt=\"Banner for Audio Feedback\" class=\"wp-image-762\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein siaradwr allanol nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Ddydd Gwener 11 Mawrth, 10yb-12yp, bydd Robert Nash yn cynnal dosbarth meistr yngl\u0177n \u00e2 strategaethau i fynd i\u2019r afael ag adborth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong><a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\">tudalen archebu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)<\/a><\/strong> ar agor a gallwch sicrhau eich lle yno.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gweithdy\u2019n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gweler isod ddisgrifiad o\u2019r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Disgrifiad o\u2019r sesiwn<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Pam nad ydyn nhw\u2019n gwrando ar fy adborth?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio\u2019n dda yn hytrach na pherfformio\u2019n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad.&nbsp; Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn?&nbsp; Er mwyn rhoi\u2019r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae\u2019r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy\u2019n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw\u2019r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i\u2019r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy\u2019n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I\u2019r afael \u00e2\u2019u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i\u2019r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain.&nbsp; Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Bywgraffiad y siaradwr<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae\u2019n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw\u2019r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a\u2019u ffugio.&nbsp; Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda\u2019r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid <em>Legal &amp; Criminological Psychology<\/em>, ac mae\u2019n un o awduron <em>Developing Engagement with Feedback Toolkit<\/em> (Higher Education Academy, 2016).<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni (<a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">lteu@aber.ac.uk<\/a>).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein siaradwr allanol nesaf. Ddydd Gwener 11 Mawrth, 10yb-12yp, bydd Robert Nash yn cynnal dosbarth meistr yngl\u0177n \u00e2 strategaethau i fynd i\u2019r afael ag adborth. Mae tudalen archebu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar agor a gallwch sicrhau eich lle yno. Bydd y gweithdy\u2019n cael ei [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[584,582,542,598,592],"tags":[],"class_list":["post-4279","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-adborth","category-e-gyflwyno","category-fforwm-academi","category-siaradwyr-allanol","category-turnitin-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-171","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4279","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4279"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4279\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4281,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4279\/revisions\/4281"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4279"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4279"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4279"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}