{"id":4042,"date":"2021-12-08T12:01:12","date_gmt":"2021-12-08T12:01:12","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=4042"},"modified":"2021-12-08T12:01:13","modified_gmt":"2021-12-08T12:01:13","slug":"prosiect-beth-yw-modiwl-blackboard-wedii-gynllunion-dda","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/12\/08\/prosiect-beth-yw-modiwl-blackboard-wedii-gynllunion-dda\/","title":{"rendered":"Prosiect: Beth yw modiwl Blackboard wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda?"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\" class=\"wp-image-675\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Ania Udalowska<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Gall modiwl Blackboard wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gofynnon ni i\u2019n gr\u0175p o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr drafod beth mae modiwl wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda\u2019n ei olygu iddyn nhw. Rhennir canfyddiadau\u2019r drafodaeth hon yn gategor\u00efau fel y gwelir isod.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwybodaeth Modiwl<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p><strong>Amserlen addysgu \u2013<\/strong> dangos yr hyn sy\u2019n ddisgwyliedig drwy gydol y semester (a gynhelir drwy gydol cynllun y modiwl mewn ffolderi). Nid oes angen rhyddhau\u2019r holl gynnwys ar ddechrau\u2019r modiwl o reidrwydd ond yn hytrach map yn dangos i fyfyrwyr yr hyn sydd angen iddynt gynllunio ar ei gyfer. Lawrlwythwch y templed amserlen addysgu:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-file\"><a href=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/12\/Teaching-schedule-example.pdf\">Teaching-schedule-example<\/a><a href=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/12\/Teaching-schedule-example.pdf\" class=\"wp-block-file__button\" download>Download<\/a><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Llawlyfr modiwl<\/strong> \u2013 esboniodd un o\u2019r myfyrwyr fod y llawlyfr bron fel contract rhwng myfyriwr a chydlynydd modiwl. Dylai gynnwys yr holl wybodaeth hanfodol (a all fod, ac mewn rhai achosion, a ddylai fod hefyd yn gynwysedig mewn gwahanol adrannau e.e. yr holl wybodaeth yn ymwneud ag asesu yn Asesu ac Adborth). <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/12\/01\/pwysigrwydd-llawlyfrau-modiwl-cynhwysfawr-llysgenhadon-dysgu\/\">Edrychwch ar y blog hwn<\/a> ar lawlyfrau cynhwysfawr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cwestiynau Cyffredin ar y modiwl<\/strong> \u2013 Gellid cynhyrchu cwestiynau cyffredin drwy gydol y modiwl yn seiliedig ar ymholiadau a ddaw i law y cydlynydd modiwl ac yna eu defnyddio i helpu myfyrwyr y dyfodol e.e. pa werslyfr yw\u2019r gorau \/ sut ydych chi\u2019n trefnu\u2019r aseiniad \/ awgrymiadau am adnoddau i helpu gyda chysyniad anodd ac ati. Gallech ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i holi myfyrwyr am gwestiynau yr hoffent gael atebion iddynt.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Fideo cyflwyno byr \u2013<\/strong> byddai\u2019n braf cynnwys fideo sy\u2019n croesawu myfyrwyr i\u2019r modiwl, egluro sut i lywio drwyddo ac amlinellu\u2019n fyr sut fydd yr amserlen addysgu\u2019n edrych. Does dim rhaid iddo fod yn hir nag yn ffurfiol!<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Deunyddiau Dysgu<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Ffolderi \u2013 dylai\u2019r cynnwys fod wedi\u2019i rannu\u2019n wythnosau (neu bynciau). Dylai gyd-fynd \u00e2\u2019r amserlen addysgu. Mae cysondeb o fewn ffolderi\u2019r un mor bwysig, ceisiwch gynnwys yr un math o ddeunyddiau dysgu ym mhob ffolder (gallwch ddefnyddio eiconau bach i nodi\u2019r math o weithgaredd) a\u2019u cadw mewn trefn gyson:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Tasgau paratoi sesiwn fyw \u2013 eglurwch yr hyn sydd angen ei wneud.<\/li><li>Dolenni Teams at sesiynau byw.<\/li><li>Darlithoedd wedi\u2019u recordio ymlaen llaw (darnau clir\/bach a dim s\u0175n cefndir)<\/li><li>Sleidiau darlith a thaflenni darlith gyda lle i wneud nodiadau (<a href=\"https:\/\/support.microsoft.com\/en-us\/office\/create-or-change-a-presentation-s-handout-c86f1231-abfd-48de-8d76-807f668512d2\">sut i drosi sleisiau PowerPoint yn daflenni)<\/a><\/li><li>Gweithgareddau i\u2019w cwblhau sy\u2019n rhoi canlyniadau\/adborth ar unwaith i brofi gwybodaeth. Gallech ddefnyddio profion Blackboard neu gwisiau Panopto.<\/li><li>Enghreifftiau, sy\u2019n cysylltu damcaniaeth \u00e2\u2019r byd real cymaint \u00e2 phosibl.<\/li><li>Darllen \u2013 pa eitemau o\u2019r rhestr ddarllen sy\u2019n cyfeirio at gynnwys yr wythnos honno.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Nodwch: <\/strong>Lle bo\u2019n bosibl defnyddiwch \u2018<a href=\"https:\/\/utlv.screenstepslive.com\/s\/faculty\/m\/BlackboardLearn\/l\/210139-setting-up-advanced-adaptive-release-rules#creating-a-review-status-criterion\">review status and adaptive release<\/a>\u2019 \u2013 mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ar gyflymder gwahanol, mae\u2019n well gan rai bod y cynnwys i gyd yn cael ei ryddhau ar unwaith, eraill mewn camau. Mae gweithredu fel hyn yn rhoi rheolaeth i\u2019r myfyrwyr dros faint o gynnwys maen nhw\u2019n ei weld ar yr un pryd a gall eu helpu i gadw trefn.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Asesu ac Adborth<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Amlinelliad<\/strong> o bob aseiniad yn y modiwl gan gynnwys eu pwysau ar farc cyffredinol y modiwl.<\/li><li><strong>Pwyntiau cyflwyno<\/strong> (ynghyd \u00e2 chanllaw ar sut i gyflwyno) \u2013 dylai\u2019r rhain fod ar frig yr adran, er mwyn bod yn hawdd dod hyd iddynt.<\/li><li><strong>Cyfeireb marcio<\/strong> i bob aseiniad.<\/li><li><strong>Hen bapurau neu enghreifftiau<\/strong> o aseiniadau<\/li><li>Canllaw <strong>cyfeirnodi<\/strong> cynhwysfawr a chanllaw <strong>arddull<\/strong> yr adran.<\/li><li>Arweiniad a thempledi ar <strong>strwythur<\/strong> asesiad ynghyd ag awgrymiadau ar arddull ysgrifennu.<\/li><li><strong>Cwestiynau cyffredin<\/strong> ar aseiniadau \u2013 unwaith eto gellid eu cynhyrchu gan fyfyrwyr. Gallech hefyd ychwanegu adran \u2018gwallau cyffredin\u2019 i\u2019r myfyrwyr allu eu hosgoi.<\/li><li>Esboniad ar sut i gael marciau ac <strong>adborth<\/strong> a sut i geisio eglurhad ar yr adborth.<\/li><li>Dolen at <strong>Fy Marciau<\/strong> (sydd ar hyn o bryd wedi\u2019i gynnwys yn yr Offer).<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhestr Ddarllen<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Fel y nodwyd uchod mae\u2019n well gan fyfyrwyr bod darllen yn cael ei gynnwys gyda\u2019r deunyddiau dysgu, er mwyn iddynt wybod pa adnodd sy\u2019n cyfeirio at ba ran o\u2019r modiwl. Maen nhw\u2019n hoffi i\u2019w rhestrau darllen gael eu categoreiddio yn \u00f4l wythnosau neu bynciau (sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r amserlen addysgu) a nodi pa fath o adnodd yw pob eitem e.e. llyfr ffisegol, e-lyfr, erthygl ac ati. Maen nhw\u2019n gwerthfawrogi os yw staff yn ychwanegu dim ond eitemau hygyrch i\u2019r rhestr ac yn amrywio\u2019r mathau o adnoddau a gynhwysir, gyda mwy na llyfrau ac erthyglau cyfnodolion yn unig.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfathrebu<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r<strong> adran Cysylltiadau <\/strong>gynnwys yr holl staff sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r modiwl gan egluro beth yw eu r\u00f4l er mwyn i\u2019r myfyrwyr wybod at bwy y dylid anfon unrhyw ymholiad. Mae oriau swyddfa cyfredol ynghyd \u00e2 gwybodaeth ar sut i drefnu cyfarfod yn hanfodol. Mae myfyrwyr hefyd yn gwerthfawrogi pan fydd staff yn gadael iddynt wybod pan na fyddant ar gael i ateb eu hymholiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellid defnyddio<strong> byrddau trafod <\/strong>i gyfathrebu gyda myfyrwyr a chasglu eu cwestiynau. Byddai\u2019n werth troi\u2019r hysbysiadau bwrdd trafod ymlaen er mwyn i fyfyrwyr wybod pan fydd eu cwestiwn wedi\u2019i ateb.<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Help a Chefnogaeth &#8211;<\/strong> roedd myfyrwyr hefyd yn meddwl ei fod yn werth darparu cysylltiadau ag adrannau eraill y gallent fod angen cysylltu \u00e2 nhw e.e. eu Llyfrgellydd Pwnc, y Cynrychiolydd Myfyrwyr a Swyddog Materion Academaidd Undeb y Myfyrwyr yn ogystal \u00e2\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar gyfer unrhyw ymholiadau e-ddysgu. Mae\u2019r modiwl Cefnogi eich Dysgu i fyfyrwyr yn cynnwys <a href=\"https:\/\/blackboard.aber.ac.uk\/webapps\/blackboard\/execute\/displayLearningUnit?course_id=_30227_1&amp;content_id=_1832842_1\">tudalen Gymorth<\/a> gyda rhestr gynhwysfawr o gysylltiadau y gallech ddymuno cysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Awgrymiadau eraill<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p><strong>Labelu\u2019n glir &#8211; <\/strong>gwnewch yn si\u0175r eich bod yn labelu eitemau\u2019n glir e.e. yn lle \u2018Tasg Paratoi\u2019 &gt; \u2018Mawrth, 20\/07 Seminar &#8211; tasg paratoi\u2019 a defnyddiwch iaith sy\u2019n ddealladwy i\u2019r myfyrwyr e.e. wyneb yn wyneb yn lle cyfamserol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diweddaru \u2013<\/strong> gwiriwch fod y wybodaeth yn gyfredol \u2013 yn enwedig manylion cyswllt a therfynau amser asesiadau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Prydlondeb \u2013<\/strong> byddwch yn gyson wrth uwchlwytho deunyddiau ar amser. Pan nad yw hyn yn bosibl, rhowch wybod i\u2019r myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hygyrch &#8211;<\/strong> rhowch y deunyddiau mewn gwahanol fformatau e.e. pdf, Word a gwnewch yn si\u0175r eu bod yn <a href=\"\/www.aber.ac.uk\/en\/accessibility\/guidance-staff\/%3e\">hygyrch<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyswllt \u2013<\/strong> byddwch yn bresennol yn y modiwl (yn enwedig os yw oriau cyswllt yn gyfyngedig) \u2013 dywedodd un o\u2019r myfyrwyr oedd yn gweithio ar y prosiect: \u2018<em>roedd y darlithydd yn gwneud fideo byr bob wythnos i gyflwyno\u2019r wythnos \u2013 roedd hyn yn ddifyr ac yn cymell gan fod brwdfrydedd y darlithydd yn amlwg ac yn cadw lefel y diddordeb yn uchel\u2019<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd gan Ania Udalowska Gall modiwl Blackboard wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Gofynnon ni i\u2019n gr\u0175p o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr drafod beth mae modiwl wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda\u2019n ei olygu iddyn nhw. Rhennir canfyddiadau\u2019r drafodaeth hon yn gategor\u00efau fel y gwelir isod. Gwybodaeth Modiwl Amserlen addysgu \u2013 dangos yr hyn sy\u2019n ddisgwyliedig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544,229],"tags":[],"class_list":["post-4042","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-13c","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4042","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4042"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4042\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4044,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4042\/revisions\/4044"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4042"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4042"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4042"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}