{"id":3895,"date":"2021-11-02T13:32:02","date_gmt":"2021-11-02T13:32:02","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3895"},"modified":"2021-11-02T13:32:04","modified_gmt":"2021-11-02T13:32:04","slug":"awgrymiadau-da-ar-gyfer-trefnu-cynadleddau-ar-lein","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/11\/02\/awgrymiadau-da-ar-gyfer-trefnu-cynadleddau-ar-lein\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau Da ar gyfer trefnu Cynadleddau Ar-lein"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"939\" height=\"150\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/04\/Keynote-announcement.png\" alt=\"Keynote announcement banner\" class=\"wp-image-2103\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ers y pandemig, mae cynadleddau yn aml yn ddigwyddiadau a gynhelir ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Mae&#8217;r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi cynnal dwy gynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu ar-lein, yn ogystal \u00e2 rhai m\u00e2n gynadleddau a Fforymau Academaidd. Yn y blog-bost hwn, byddwn yn cynnig rhai awgrymiadau da i chi ar gyfer trefnu digwyddiad o&#8217;r fath.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">1.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Dewiswch y llwyfan iawn<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae sawl meddalwedd fideo-gynadledda y gallech eu dewis, ond yma ym Mhrifysgol Aberystwyth y dewis diofyn a ddefnyddiwn yw Teams. Mae gennym nifer cyfyngedig o drwyddedau i Zoom, ond cedwir y rhain ar gyfer swyddogaethau na ellir eu cael yn Teams. Er enghraifft, os oes angen cyfieithu ar y pryd, neu i sesiynau lle bydd dros 250 o gynadleddwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch drefnu cyfarfodydd Teams i&#8217;r sesiynau hyn trwy galendr Teams. Neu, gallwch greu safle Teams, ond bydd hyn yn eich cyfyngu i barthau <strong>.ac.uk<\/strong>, felly cadwch hynny mewn cof, yn enwedig os oes gennych Siaradwyr Allanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni&#8217;n hoffi rhoi ein dolenni ar we-ddalen er mwyn gallu anfon y sesiynau ymlaen yn sydyn at unrhyw un sy&#8217;n cofrestru&#8217;n hwyr. Neu, gallwch ddefnyddio dogfen Word neu e-bost sydd \u00e2&#8217;r dolenni wedi&#8217;u hymgorffori ynddynt.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">2.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Galw am Gynigion<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth Alw am Gynigion, esboniwch yn glir pa dechnoleg y bwriadwch ei defnyddio a pha gyfyngiadau y gallai hynny ei olygu i fformat y sesiwn. Er enghraifft, ydych chi am geisio cynnal gweithdai ar-lein, neu ydych chi&#8217;n mynd i gyfyngu&#8217;r alwad am gynigion i gyflwyniadau&#8217;n unig?<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn anfon yr alwad, gwnewch yn sicr y gall y dechnoleg ddarparu&#8217;r mathau o sesiynau y dymunwch eu cynnal yn rhan o&#8217;r rhaglen, a bod gennych yr arbenigedd technegol neu gyfarwyddiadau angenrheidiol i&#8217;r cyflwynwyr.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">3.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Trefnu&#8217;r rhaglen<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth drefnu&#8217;r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol rydyn ni&#8217;n hoffi trefnu apwyntiadau ar wah\u00e2n ar gyfer pob sesiwn. O wneud hyn, mae&#8217;r cyflwynwyr yn gallu bod yno cyn i&#8217;r sesiwn ddechrau a sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen a bod y dechnoleg yn gweithio fel y dylai.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi gweld bod angen cymryd seibiannau hirach wrth gynnal cynhadledd ar-lein. Mewn cynhadledd a gynhelir wyneb yn wyneb, mae diodydd a bwyd yn cael eu darparu, ond gan fod pobl yn ymuno o bell mae angen iddynt drefnu eu lluniaeth eu hunain. Ar ben hyn, mae edrych ar sgrin am gyfran helaeth o&#8217;r dydd yn gallu bod yn flinedig iawn. Efallai yr hoffech ystyried cynnal sesiynau lles yn rhan o&#8217;r gynhadledd. Wrth baratoi rhaglen i gynhadledd ar-lein, ein profiad ni yw bod llai o eitemau yn fwy effeithiol. Ceisiwch hefyd osgoi cael sesiynau gwahanol yn digwydd ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">4.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Cadeirio<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gwaith y Cadeirydd yn anoddach mewn cynhadledd ar-lein. Mae angen cyfathrebu \u00e2&#8217;r siaradwyr pan ddaw eu hamser i ben, ond fe allech hefyd orfod ymdrin \u00e2 thrafferthion technegol eich cyflwynwyr a&#8217;r cynadleddwyr. Yn ein cynadleddau ni, rydym wedi datrys hyn trwy gael cadeirydd a chadeirydd wrth gefn, sydd \u00e2 swyddogaethau wedi&#8217;u diffinio&#8217;n glir. Y cadeirydd sy&#8217;n cyflwyno&#8217;r siaradwr a holi cwestiynau, a gall y cadeirydd wrth gefn ymdrin ag anawsterau technegol a diffodd meicroffonau cynadleddwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch drefnu ymlaen llaw sut y byddwch yn rhoi gwybod i&#8217;r siaradwyr eu bod yn dod yn agos i ddiwedd eu hamser traddodi. Gallech ddefnyddio&#8217;r nodwedd &#8216;codi llaw&#8217; ar Teams i roi gwybod iddynt fod y sesiwn bron ar ben. Hefyd, mae gan gyfarfod Teams rybudd mewnol 5 munud cyn diwedd y sesiwn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">5.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Paratoi am y gynhadledd<\/h2>\n\n\n\n<p>Erbyn hyn mae llawer ohonom yn gyfarwydd \u00e2 mynd i gynadleddau ar-lein, naill ai i roi cyflwyniad neu i wrando&#8230; ond ddylen ni ddim cymryd hynny&#8217;n ganiataol. Ystyriwch gynnig cyfarfod ar-lein neu sesiwn hyfforddi i&#8217;ch cyflwynwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiwn ichi a gwneud yn sicr eu bod yn hapus \u00e2&#8217;r dechnoleg y byddant yn ei defnyddio. Yn ogystal \u00e2 hynny, rhowch ganllawiau a chyfarwyddiadau ysgrifenedig iddynt am gynllun y gynhadledd fel y gallant gyfeirio atynt wrth baratoi eu sesiynau eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch ofyn i&#8217;r cynadleddwyr gofrestru ymlaen llaw er mwyn gallu e-bostio cyfarwyddiadau atynt. Dylai&#8217;r cyfarwyddiadau gynnwys sut i ymuno \u00e2&#8217;r sesiwn, unrhyw beth sydd angen ei wneud cyn y gynhadledd, a sut i gysylltu \u00e2 th\u00eem y gynhadledd yn ystod y gynhadledd ei hun. Mae&#8217;r canllawiau hyn gennym yn ysgrifenedig, felly os hoffech i ni eu rhannu \u00e2 chi, e-bostiwch <a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">udda@aber.ac.uk<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">6.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Cynnal Cynadleddau Cymysg<\/h2>\n\n\n\n<p>Hyd yma nid ydym wedi cynnal cynhadledd gymysg i gynadleddwyr ar-lein ac wyneb yn wyneb ond mae &#8216;na rai pethau y gallech efallai eu hystyried mewn sefyllfa o&#8217;r fath. Os oes modd, trefnwch fod y siaradwyr wyneb yn wyneb yn dod ar yr un dydd, a gwnewch yr un peth \u00e2&#8217;r siaradwyr ar-lein. Felly, ni fydd angen ichi gadw trefn ar ormod o sefyllfaoedd gwahanol ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriwch sut y dymunwch i&#8217;r rhai sy&#8217;n cymryd rhan ar-lein ryngweithio \u00e2&#8217;r gynhadledd a gofyn cwestiynau. A cysylltwch \u00e2 hwy ymlaen llaw. Ystyriwch brofiad y gynhadledd o&#8217;r ddwy ochr.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn ystyried cael elfen wyneb yn wyneb, cofiwch eich bod yn ymwybodol o&#8217;r holl wybodaeth ddiweddaraf yngl\u0177n ag <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/hse\/covid\/\"><strong>iechyd a diogelwch<\/strong><\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl\u0177n \u00e2 threfnu cynhadledd ar-lein, byddem yn fwy na pharod i gyfarfod \u00e2 chi i sgwrsio am y gwahanol ddewisiadau &#8211; anfonwch air atom &#8211; <a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">udda@aber.ac.uk.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ers y pandemig, mae cynadleddau yn aml yn ddigwyddiadau a gynhelir ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Mae&#8217;r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi cynnal dwy gynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu ar-lein, yn ogystal \u00e2 rhai m\u00e2n gynadleddau a Fforymau Academaidd. Yn y blog-bost hwn, byddwn yn cynnig rhai awgrymiadau da i chi ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[560],"tags":[],"class_list":["post-3895","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gynhadledd"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-10P","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3895","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3895"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3895\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3896,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3895\/revisions\/3896"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3895"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3895"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3895"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}