{"id":3765,"date":"2021-09-27T15:01:08","date_gmt":"2021-09-27T14:01:08","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3765"},"modified":"2021-09-27T15:01:10","modified_gmt":"2021-09-27T14:01:10","slug":"gwneud-addysgu-yn-yr-ystafell-ddosbarth-yn-rhyngweithiol-gyda-thechnoleg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/09\/27\/gwneud-addysgu-yn-yr-ystafell-ddosbarth-yn-rhyngweithiol-gyda-thechnoleg\/","title":{"rendered":"Gwneud addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn rhyngweithiol gyda thechnoleg"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio\u2019n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i&#8217;r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith gr\u0175p yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn argymell eich bod yn annog myfyrwyr i ddod \u00e2&#8217;u dyfeisiau eu hunain. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i chi adeiladu&#8217;r drafodaeth gr\u0175p honno. Os nad oes gan eich myfyrwyr fynediad at ddyfais, yna cyfeiriwch nhw at <a href=\"mailto:is@aber.ac.uk\">gg@aber.ac.uk.<\/a> Os ydych chi am i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Defnyddiwch Vevox i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o&#8217;u trafodaethau<\/h2>\n\n\n\n<p>Offer pleidleisio yw Vevox. Dyma rai gweithgareddau dysgu y gallech eu hystyried, neu gallwch ddyfeisio rhai eich hun:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Meddwl a rhannu unigol<\/strong> &#8211; Rhowch dasg taflu syniadau neu ddatrys problemau fer i fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw feddwl am funud neu ddwy ac yna defnyddio Vevox i rannu eu syniadau. Mae hyn yn gweithio&#8217;n dda yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu mewn amgylchedd HyFlex.<\/li><li><strong>Pwynt aneglur neu bwyntiau cofio allweddol &#8211; <\/strong>Ar ddiwedd y ddarlith, gofynnwch i&#8217;r myfyrwyr bostio naill ai eu pwynt mwyaf aneglur neu eu pwyntiau cofio allweddol o&#8217;r ddarlith. Os ydych chi&#8217;n defnyddio pwyntiau cofio allweddol, mae hyn nid yn unig yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ba mor dda roedden nhw&#8217;n deall y cynnwys, ond hefyd yn atgyfnerthu dysgu\u2019r myfyrwyr trwy ymarfer adalw. Da i athrawon a myfyrwyr!<\/li><li><strong>Trafodaeth gr\u0175p ac adborth &#8211;<\/strong> Os ydych chi&#8217;n defnyddio grwpiau o chwech lle mae myfyrwyr yn llwyddo i drafod cwestiwn wrth wynebu ymlaen (ie, rydyn ni&#8217;n gwybod bod hyn yn her!), gallwch ofyn i bob gr\u0175p gyflwyno eu prif negeseuon trwy Vevox i&#8217;r dosbarth cyfan eu gweld. Mae hyn yn caniat\u00e1u ichi gyfuno&#8217;r dysgu gan bob gr\u0175p yn ystod yr amser yn y dosbarth.<\/li><li><strong>Gwirio dealltwriaeth cyn ac ar \u00f4l addysgu<\/strong> &#8211; Mae myfyrwyr yn dysgu orau os gallant gysylltu gwybodaeth newydd \u00e2 gwybodaeth flaenorol. Gofynnwch gwestiynau i\u2019r myfyrwyr ar ddechrau&#8217;r ddarlith i ysgogi&#8217;r wybodaeth honno, ac yna gofynnwch gwestiynau ar y diwedd i&#8217;w hatgyfnerthu. Gall hyn helpu myfyrwyr i gydnabod cymaint y maent wedi&#8217;i ddysgu o&#8217;r ddarlith ac atgyfnerthu eu dysgu ar yr un pryd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/it-services\/elearning\/polling-tool\/\"><strong>canllaw ar ddefnyddio Vevox<\/strong>.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch ddefnyddio&#8217;r swyddogaeth Cwestiwn ac Ateb yn Vevox i roi digon o le i fyfyrwyr roi eu hadborth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae myfyrwyr yn nodi eu hymatebion ar eu dyfeisiau symudol wrth i chi daflunio&#8217;r sgrin adborth i&#8217;r gr\u0175p:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"480\" height=\"227\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-27.png\" alt=\"Sgrinlun o b\u00f4l Vevox fel y'i dangosir ar y sgrin lawn i'r cyfranogwyr ei weld. \" class=\"wp-image-3766\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"223\" height=\"480\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-28.png\" alt=\"Sgrinlun o'r hyn y bydd y myfyriwr yn ei weld trwy gymryd rhan mewn p\u00f4l. \" class=\"wp-image-3767\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gall myfyrwyr hefyd uwchbleidleisio&#8217;r ymatebion sydd fwyaf defnyddiol yn eu barn hwy. Ar \u00f4l y sesiwn, gallwch allforio\u2019r holl ymatebion a sicrhau eu bod ar gael i fyfyrwyr trwy Blackboard mewn ffeil Excel.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r swyddogaeth Cwestiwn ac Ateb, fe allech chi ddefnyddio&#8217;r nodweddion pleidleisio i roi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i ateb cwestiynau am rai senarios.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Defnyddiwch y nodweddion rhyngweithiol yn Teams<\/h2>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;r ffaith bod yr addysgu&#8217;n digwydd yn fyw yn golygu na allwch sefydlu cyfarfod Teams i redeg ar yr un pryd a gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio rhai o&#8217;r tasgau rhyngweithiol neu gydweithredol yn Teams.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gweld rhai syniadau gwych ar gyfer gwaith gr\u0175p cydamserol, felly beth am eu cyflwyno i&#8217;r ystafell ddosbarth?<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai syniadau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Dogfennau cydweithredol fel sail ar gyfer trafodaeth <\/strong>&#8211; Rydym yn defnyddio&#8217;r fformat hwn ein hunain yn yr UDDA, a gellir ei addasu&#8217;n hawdd i addysgu deunydd pwnc. Cyn y wers, rhowch dasg baratoi i fyfyrwyr megis darllen gyda chwestiynau meddwl. Yn ystod y sesiwn Teams, uwchlwythwch ddogfen Word gyda&#8217;r cwestiynau meddwl mewn fformat addas. Rhowch rai munudau i fyfyrwyr a gwahodd pawb i deipio eu hymatebion i&#8217;r ddogfen a rennir. Gallwch arddangos hwn ar y sgrin yn eich ystafell ddosbarth i bawb ei weld. Ar \u00f4l i&#8217;r myfyrwyr orffen teipio, rhowch eich ymatebion i&#8217;w cyfraniadau a strwythuro&#8217;ch trafodaeth o amgylch hynny. Gallwch atgyfnerthu eu dysgu trwy ofyn am enghreifftiau pendant, ymhelaethu, neu gysylltu \u00e2 chysyniadau eraill a gyflwynwyd yn y dosbarth. Gall myfyrwyr naill ai gyfrannu trwy siarad neu drwy ysgrifennu i&#8217;r ddogfen. Ar \u00f4l y sesiwn, gall myfyrwyr lawrlwytho&#8217;r ddogfen gyda&#8217;r nodiadau llawn.<strong><\/strong><\/li><li><strong>Byrddau gwyn <\/strong>&#8211; Mae byrddau gwyn rhyngweithiol ar gael yn Teams. Gallwch rag-lwytho delweddau neu ddiagramau i&#8217;r bwrdd gwyn a gofyn i&#8217;r myfyrwyr gymryd rhan gan ddefnyddio&#8217;r bwrdd gwyn pan f\u00f4nt yn y dosbarth. Mae gan y byrddau gwyn hefyd nodiadau gludiog rhithwir y gallwch eu defnyddio i ofyn i fyfyrwyr drefnu syniadau mewn trefn benodol. I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio Byrddau Gwyn wrth Addysgu, edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2020\/06\/22\/using-the-whiteboard-feature-in-microsoft-teams\/\">blogbost.<\/a><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Os yw Teams yn anghyfarwydd i chi, edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/MS-Teams-Teaching-Tips.docx\">Awgrymiadau ar gyfer Addysgu gyda Teams<\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch hefyd ddefnyddio Teams i addasu rhai Technegau Asesu yn y Dosbarth &#8211; gofynnwch i&#8217;r myfyrwyr sut maen nhw&#8217;n teimlo am bwnc penodol gan ddefnyddio&#8217;r emojis yn y sgwrs, neu gofynnwch iddyn nhw bostio eu pwynt mwyaf aneglur o&#8217;r sesiwn, neu ei ddefnyddio fel fforwm i annog myfyrwyr i ofyn cwestiynau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Annog Gwaith Gr\u0175p y tu allan i Sesiynau Addysgu<\/h2>\n\n\n\n<p>Anogwch eich myfyrwyr i weithio gyda&#8217;i gilydd y tu allan i&#8217;r sesiwn. Mae dau ddull o sefydlu grwpiau astudio: clustnodi myfyrwyr i grwpiau, neu adael i fyfyrwyr ddewis eu grwpiau eu hunain. Y broblem bosibl o adael i fyfyrwyr drefnu\u2019r grwpiau eu hunain yw bod rhai myfyrwyr yn fwy cymdeithasol nag eraill, felly gallai rhai myfyrwyr gael eu heithrio. Gall clustnodi myfyrwyr i grwpiau atal y broblem honno, ond gallai beri problemau ychwanegol os oes gennych fyfyrwyr sydd ar y sbectrwm awtistig neu sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl sy&#8217;n gwneud gwaith gr\u0175p yn anodd. Mae rhoi opsiwn arall iddynt yn arfer da. Pa bynnag ffordd yr ydych yn ei ddewis, gallwch adael i fyfyrwyr drefnu\u2019r cyfarfodydd o hyd a defnyddio&#8217;r llwyfan o&#8217;u dewis.<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnwch iddyn nhw ddod \u00e2 rhywbeth maen nhw wedi gweithio arno i&#8217;r ystafell addysgu. Gall hyn fod yn rhithwir (megis dogfen neu PowerPoint) neu&#8217;n gorfforol (megis gwrthrych celf neu boster). Gallwch ofyn i fyfyrwyr anfon yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno neu ei drafod cyn y dosbarth ac yna defnyddio&#8217;r wers i&#8217;w gyflwyno i weddill y myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gosod p\u00f4l gan ddefnyddio Vevox i ofyn i fyfyrwyr raddio&#8217;r syniadau hyn neu bostio cwestiynau.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl\u0177n \u00e2 hyn neu os oes arnoch angen rhai syniadau, e-bostiwch <a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">udda@aber.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio\u2019n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i&#8217;r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith gr\u0175p yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[620,616,628],"tags":[],"class_list":["post-3765","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cysondeb-addysgu","category-meddalwedd-pleidleisio-cy","category-vevox-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-YJ","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3765","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3765"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3765\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3770,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3765\/revisions\/3770"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3765"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3765"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3765"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}