{"id":3715,"date":"2021-09-17T14:19:56","date_gmt":"2021-09-17T13:19:56","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3715"},"modified":"2021-09-17T14:19:58","modified_gmt":"2021-09-17T13:19:58","slug":"trefnu-cynnwys-blackboard-cyngor-defnyddiol-gan-fyfyrwyr-llysgenhadon-dysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/09\/17\/trefnu-cynnwys-blackboard-cyngor-defnyddiol-gan-fyfyrwyr-llysgenhadon-dysgu\/","title":{"rendered":"Trefnu cynnwys Blackboard &#8211; Cyngor Defnyddiol gan Fyfyrwyr (Llysgenhadon Dysgu)"},"content":{"rendered":"\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar \u00f4l gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o&#8217;r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai&#8217;r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle\u2019r oedd y wybodaeth a&#8217;r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn \u00f4l wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn \u00f4l rhif y seminar benodol honno; h.y. &#8216;Seminar: Wythnos 2 &#8211; Dysgu am Benodoldeb &#8216;&gt;&#8217; Seminar 2 &#8216;. Roedd labelu\u2019r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i\u2019r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a\u2019r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a&#8217;r seminar a&#8217;r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai &#8216;Deunyddiau Dysgu&#8217; yn fy marn i. Byddai&#8217;n lle da hefyd i&#8217;r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wah\u00e2n o dan y teitl &#8216;Darlithoedd\/ Seminarau&#8217; yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd \u00e2 chopi o&#8217;r Rhestr Ddarllen Aspire.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Katie Henslowe,<\/em> &nbsp;&nbsp;<em>Seicoleg<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Pan ddechreuais fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, un o&#8217;r cyflwyniadau cyntaf a gefais oedd cyflwyniad i ddefnyddio Blackboard. Fodd bynnag, ro&#8217;n i&#8217;n teimlo&#8217;n fwy dryslyd yn dod allan nac oeddwn i\u2019n mynd i mewn! Felly, es yn \u00f4l i&#8217;m hystafell a phenderfynu astudio\u2019r dudalen. Roedd mewngofnodi a dewis modiwl yn iawn. Fodd bynnag, roedd yn rhaid archwilio gryn dipyn cyn dod i arfer \u00e2&#8217;r cynllun a chymerodd amser i weld pa dasgau roedd angen eu cwblhau. Roedd dod o hyd i lawlyfr y modiwl a manylion cyswllt staff yn arbennig o anodd, ond cysondeb oedd y prif anhawster. Roedd cynllun gwahanol i bob modiwl ac roedd hynny&#8217;n ddryslyd, gan fod angen amser i ddod o hyd i ddeunyddiau. Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf, roeddwn i&#8217;n gweld y broses yn un lethol!<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fy mod yn fy nhrydedd flwyddyn bellach, rydw i wedi arfer gyda Blackboard. Felly mae bod yn Llysgennad Dysgu wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn ac yn gyfle gwych i roi fy marn ar ddefnyddio Blackboard. Yn ystod y gweithgaredd profi defnyddioldeb oedd yn rhan o&#8217;r prosiect Llysgenhadon Dysgu, adolygais ddau fodiwl, y naill na&#8217;r llall yn rhai o fy adran i. Roedd yn fy synnu bod y cynllun a&#8217;r deunyddiau dysgu yn edrych mor wahanol. Roedd gweld wythnos 1 ar waelod y dudalen yn bendant yn rhywbeth oedd yn ddieithr i mi. Roedd yn eithaf hawdd dod o hyd i&#8217;r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau ond roedd yn anodd dod o hyd i&#8217;r llawlyfr modiwl, manylion cyswllt cydlynydd y modiwl a&#8217;r cynllun marcio, ac roedd hynny&#8217;n rhwystredig. Fy nghyngor i yw y dylid gwneud Blackboard yn glir ac yn hawdd i\u2019w ddefnyddio. Gellid gwneud hyn trwy sicrhau cysondeb rhwng y deunyddiau, gan ddilyn cynllun safonol ar gyfer bob modiwl o bosib, er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i&#8217;r wybodaeth gywir heb lawer o straen. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Charlotte Coleman, Ysgol Addysg<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth am dair blynedd mae&#8217;n deg dweud fy mod i wedi cael fy si\u00e2r o broblemau gyda Blackboard fel nifer o fyfyrwyr eraill rwy&#8217;n si\u0175r. Cyn cymryd rhan yn y prosiect, &#8216;doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod gwahaniaeth yng nghynllun modiwlau gwahanol adrannau&#8217;r Brifysgol. Ar \u00f4l cymryd rhan yng ngweithgaredd profi defnyddwyr Blackboard, sylwais ar lawer o wahaniaethau ond yr amlycaf i mi oedd y dull o gyrraedd at gynnwys wythnosol. Yn fy mhrofiad i, mae ffolder ar wah\u00e2n i bob un o fy modiwlau yn yr adran Deunyddiau Dysgu, lle mae cynnwys bob wythnos wedi&#8217;i storio. Mae hyn wedi bod yn help mawr i mi er mwyn aros yn drefnus, gan fod pob tasg a deunydd sy&#8217;n berthnasol i wythnos benodol yn hawdd cyrraedd atynt o fewn ffolder yr wythnos honno. Yn ystod y gweithgaredd profi, canf\u00fbm fod ffolderi rhai modiwlau yn anos i\u2019w defnyddio o ganlyniad i\u2019r ffordd roedd y cynnwys wedi&#8217;i drefnu.<\/p>\n\n\n\n<p>Fy un awgrym ar gynlllunio modiwl Blackboard fyddai rhoi amser i drefnu cynnwys bob wythnos a chynnwys ffolder ar wah\u00e2n i bob wythnos neu bwnc. Yn fy mhrofiad i, mae&#8217;n arbed llawer o amser ac mae&#8217;n sicrhau bod popeth yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer bob wythnos. Isod mae rhai enghreifftiau o un o fy modiwlau trydedd flwyddyn lle\u2019r oedd y deunyddiau wedi eu trefnu yn y modd hwn. Roedd cynllun y modiwl hefyd yn cynnwys y botwm adolygu. Golygai hyn y byddai deunyddiau&#8217;r wythnos ganlynol yn ymddangos pan fyddai popeth wedi cael ei gwblhau a&#8217;r botwm yn cael ei dicio. Unwaith eto, o safbwynt myfyriwr, mae hyn yn ddefnyddiol iawn er mwyn aros yn drefnus. \u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"317\" height=\"201\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-23.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3716\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"367\" height=\"190\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-24.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3717\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar \u00f4l gwneud fy ffordd trwy [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[544,786],"tags":[],"class_list":["post-3715","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-students-as-partners"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-XV","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3715","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3715"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3715\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3718,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3715\/revisions\/3718"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3715"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3715"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3715"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}