{"id":3679,"date":"2021-09-15T17:01:28","date_gmt":"2021-09-15T16:01:28","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3679"},"modified":"2021-09-20T16:38:03","modified_gmt":"2021-09-20T15:38:03","slug":"ydy-eich-modiwlau-blackboard-yn-siarad-iaith-y-myfyriwr-llysgenhadon-dysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/09\/15\/ydy-eich-modiwlau-blackboard-yn-siarad-iaith-y-myfyriwr-llysgenhadon-dysgu\/","title":{"rendered":"Ydy eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith y myfyriwr? &#8211; Llysgenhadon Dysgu"},"content":{"rendered":"\n<p><em>Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Fe wn y gallai swnio\u2019n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud \u201cWrth gwrs eu bod nhw\u201d. Yn amlwg, rydych chi\u2019n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy\u2019n s\u00f4n. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr \u00e2 phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a\u2019r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw\u2019r deunyddiau wedi\u2019u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau\u2019n rhwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i\u2019r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso\u2019r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi\u2019r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae\u2019r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a\u2019r myfyriwr, a\u2019r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu\u2019n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a\u2019r hyn sy\u2019n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno\u2019n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a\u2019u gwneud yn gyfarwydd \u00e2\u2019r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau \u201ccydamserol\u201d ac \u201canghydamserol\u201d a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw\u2019n ddealledig, a oedden nhw\u2019n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Felly meddyliwch am fyfyrwyr sy\u2019n niwroamrywiol, dyslecsig, sydd ag ADHD, rhai sy\u2019n gadael gofal ac ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf, myfyrwyr h\u0177n sy\u2019n aml yn jyglo gwaith a chyfrifoldebau gofal, a myfyrwyr anrhydedd cyfun sydd \u00e2 dwy adran a\u2019u gwahanol bwyslais i weithio gyda nhw. Os yw dyluniad eich modiwlau yn glir, bydd yn gymorth aruthrol i\u2019r grwpiau hyn ym mhoblogaeth y myfyrwyr, a llawer o rai eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>I bwysleisio rhai pwyntiau, byddaf yn defnyddio enghreifftiau o fodiwlau Blackboard Dr Victoria Wright a Dr Alexander Taylor, y ddau o\u2019r Adran Seicoleg, a diolch iddynt am eu caniat\u00e2d i wneud hynny. Dewiswyd y modiwlau oherwydd eglurder, dyfeisgarwch, brwdfrydedd, cymhelliant, a\u2019r ffaith eu bod yn rhwydd eu defnyddio. Fel myfyriwr blwyddyn olaf roedd dyluniad y modiwlau hyn, a\u2019r adnoddau a ddarparwyd, yn gymorth mawr i mi weithio trwyddynt i gyflawni fy mhotensial yn llawn. Wel, potensial digonol, oherwydd gyda phandemig ar waith, mae\u2019n debyg i mi gael fy llesteirio rhywfaint.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, meddyliwch sut y bydd eich modiwl yn edrych i fyfyrwyr y tro cyntaf y byddant yn eu gweld. Ydy\u2019r modiwl yn gyfeillgar ac yn groesawgar, yn eu cyffroi a\u2019u cymell ar gyfer y semester arfaethedig? Ydy hi\u2019n glir beth sydd i\u2019w ddisgwyl? Gellir gwneud hyn gyda fideo rhagarweiniol byr a chyffyrddiadau personol sy\u2019n caniat\u00e1u i fyfyrwyr greu cyswllt \u00e2\u2019r darlithydd, a\u2019r brifysgol yn ehangach. Efallai ei bod yn bwysicach fyth ar hyn o bryd mewn cyfnod o ryngweithio cyfyngedig. Mae\u2019r fideo rhagarweiniol hefyd yn egluro amcanion sylfaenol y modiwl. Gwnaeth Victoria ac Alex hyn ac roedd eu tudalennau hafan (gweler un Victoria isod) a\/neu wybodaeth am y modiwl yn cynnwys popeth oedd ei angen ar y myfyrwyr, a dyma\u2019r dudalen bwrpasol i fyfyrwyr oedd yn chwilio am gyfeiriad a gwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"466\" height=\"310\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-14.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3680\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Peidiwch \u00e2 dibrisio pwysigrwydd amserlen.<\/p>\n\n\n\n<p>Isod gwelir adran wych o fodiwl gan Chris Loftus a aeth ati i fewnosod dolenni yn yr amserlen. Felly, y cyfan oedd angen i fyfyrwyr ei wneud oedd dod yno, gwirio\u2019r dyddiad a byddai\u2019r ddolen yn mynd \u00e2 nhw i ble\u2019r oedd angen iddyn nhw fod yn y deunyddiau dysgu, <strong>ac<\/strong> mewn tab newydd fel bod modd iddynt fynd yn \u00f4l i\u2019r hafan yn rhwydd. Offeryn gwych.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"562\" height=\"386\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-15.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3681\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae amserlenni\u2019n ddefnyddiol i fyfyrwyr sy\u2019n dymuno bod ar y blaen er mwyn gwybod pa bynciau arfaethedig i ddarllen ar eu cyfer. Mae amserlenni hefyd yn ddefnyddiol i\u2019r rheini sydd angen cymorth ar gyfer trefnu gan fod yr eglurder yn eu cadw ar y trywydd iawn. Yn gyffredinol, mae llawer o gysur i\u2019w gael o allu gweld yn glir ble\u2019r ydych chi o fewn modiwl, ble\u2019r ydych chi\u2019n mynd ac, yr un mor bwysig, pa mor bell ydych chi wedi dod.<\/p>\n\n\n\n<p>Un peth arall, gwiriwch fod y dyddiadau\u2019n gywir os ydych chi\u2019n eu defnyddio mewn amserlenni oherwydd gall gwallau arwain at ddryswch. Rwy\u2019n si\u0175r bod un Chris yn berffaith ond os ydych chi\u2019n poeni am gamgymeriadau, mae rhifo\u2019r wythnosau fel y gwnaeth Alex (isod) yn helpu i leihau problemau a lleddfu straen, yn enwedig i\u2019r myfyrwyr hynny sydd \u00e2 chymhlethdodau ychwanegol wrth astudio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"480\" height=\"419\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-16.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3682\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae cysondeb a dyluniad clir yn allweddol ar gyfer modiwl Blackboard sy\u2019n hawdd llywio drwyddo a bydd yn lleddfu straen dod o hyd i ddeunyddiau angenrheidiol, a chyflymu\u2019r broses. Mae ffyrdd gwahanol o gyflawni hyn e.e. dull wythnos ar y tro, fel ym modiwl Seicoleg Iaith Victoria (isod). Roedd popeth oedd ei angen ar gyfer pob wythnos mewn un lle, gan gadw myfyrwyr ar y trywydd cywir ar gyfer pob tasg, un darn ar y tro.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"513\" height=\"344\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-17.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3683\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"480\" height=\"468\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-18.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3684\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Neu, trwy rannu deunyddiau dysgu\u2019n elfennau penodol e.e. darlithoedd, seminarau, gweithgareddau dysgu ac ati, fel ym modiwl Niwrowyddoniaeth Ymddygiadol Alex. Roedd ffolder pob darlith neu seminar yn cynnwys popeth oedd ei angen ar fyfyrwyr i\u2019r wythnos neu\u2019r sesiwn honno, gyda fideos darlithoedd wedi\u2019u recordio, deunyddiau darllen, a phob math o adnoddau eraill i gefnogi dysgu\u2019r myfyrwyr. Oherwydd ei sylfaen wyddonol gall hwn fod yn fodiwl heriol a all fod yn newid cyfeiriad sylweddol i fyfyrwyr Seicoleg. Mae defnyddio amrywiol gyfryngau fel adnoddau yn cefnogi anghenion dysgu amrywiol ystod ehangach o fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"343\" height=\"480\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-19.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3685\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Roedd y darlithoedd wedi\u2019u recordio ar y ddau fodiwl yn gymharol fyr, gan ei gwneud yn haws torri\u2019r dysgu\u2019n ddarnau llai a lleddfu\u2019r teimladau llethol wrth wynebu darlith 2 awr mewn un eisteddiad. Roedd gan ddarlithoedd Victoria ac Alex gapsiynau (rwy\u2019n gwybod bod gan y rhain broblemau weithiau!) ac roedd y ddau i\u2019w gweld ar y sgrin, gyda hyn unwaith eto yn cadw\u2019r cysylltiad rhwng y darlithydd a\u2019r myfyriwr. Mae\u2019r fideos hyn yn wych gan nad ydynt yn cynnwys yr ansawdd sain erchyll a\u2019r toriadau fyddai mewn darlithoedd Panopoto a recordiwyd yn fyw. Mae modd addasu eu cyflymder sy\u2019n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi\u2019n astudio mewn ail iaith (mae\u2019n debyg) a gallwch eu stopio i wneud nodiadau. Er bod recordio\u2019r darlithoedd hyn wedi bod yn dasg enfawr eleni, fe\u2019u gwerthfawrogwyd yn fawr gan fyfyrwyr gan ganiat\u00e1u i\u2019r sesiynau byw ymwneud \u00e2 thrafod pynciau a holi cwestiynau, sy\u2019n rhywbeth nad yw llawer o fyfyrwyr yn gyfforddus yn ei wneud mewn darlithfa yn fy mhrofiad i.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel y gwelwch, dim ond rhai tactegau ar gyfer gwneud modiwl yn hygyrch yw\u2019r rhain, ond heb ymdrechion enfawr mewn amser a gwybodaeth dechnegol, maen nhw\u2019n effeithiol a chlir, sydd mor fuddiol i fyfyrwyr. Cafodd modiwl yn dilyn yr un patrwm \u00e2\u2019r enghreifftiau a welir yma effaith gysurlon iawn arnaf i gan fy mod yn gwybod yn union ble\u2019r oeddwn i gyda\u2019r modiwl a fy nysgu, a gan fod cydlynydd y modiwl mor drefnus, roeddwn yn teimlo mewn dwylo diogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn amlwg, gyda chynifer o ddisgyblaethau\u2019n cael eu dysgu ar draws y brifysgol, mae\u2019n amhosibl cael un dull sy\u2019n addas i bawb. Ond os yw pob adran yn meddwl am eu myfyrwyr <em>nhw<\/em>, a\u2019u cynnwys <em>nhw<\/em>, rwy\u2019n si\u0175r y gallai gosodiadau Blackboard pob adran fod yn gyson ac yn batrwm i ateb gofynion eu myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y darlithoedd wedi\u2019u recordio ar y ddau fodiwl yn gymharol fyr, gan ei gwneud yn haws torri\u2019r dysgu\u2019n ddarnau llai a lleddfu\u2019r teimladau llethol wrth wynebu darlith 2 awr mewn un eisteddiad. Roedd gan ddarlithoedd Victoria ac Alex gapsiynau (rwy\u2019n gwybod bod gan y rhain broblemau weithiau!) ac roedd y ddau i\u2019w gweld ar y sgrin, gyda hyn unwaith eto yn cadw\u2019r cysylltiad rhwng y darlithydd a\u2019r myfyriwr. Mae\u2019r fideos hyn yn wych gan nad ydynt yn cynnwys yr ansawdd sain erchyll a\u2019r toriadau fyddai mewn darlithoedd Panopoto a recordiwyd yn fyw. Mae modd addasu eu cyflymder sy\u2019n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi\u2019n astudio mewn ail iaith (mae\u2019n debyg) a gallwch eu stopio i wneud nodiadau. Er bod recordio\u2019r darlithoedd hyn wedi bod yn dasg enfawr eleni, fe\u2019u gwerthfawrogwyd yn fawr gan fyfyrwyr gan ganiat\u00e1u i\u2019r sesiynau byw ymwneud \u00e2 thrafod pynciau a holi cwestiynau, sy\u2019n rhywbeth nad yw llawer o fyfyrwyr yn gyfforddus yn ei wneud mewn darlithfa yn fy mhrofiad i.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel y gwelwch, dim ond rhai tactegau ar gyfer gwneud modiwl yn hygyrch yw\u2019r rhain, ond heb ymdrechion enfawr mewn amser a gwybodaeth dechnegol, maen nhw\u2019n effeithiol a chlir, sydd mor fuddiol i fyfyrwyr. Cafodd modiwl yn dilyn yr un patrwm \u00e2\u2019r enghreifftiau a welir yma effaith gysurlon iawn arnaf i gan fy mod yn gwybod yn union ble\u2019r oeddwn i gyda\u2019r modiwl a fy nysgu, a gan fod cydlynydd y modiwl mor drefnus, roeddwn yn teimlo mewn dwylo diogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn amlwg, gyda chynifer o ddisgyblaethau\u2019n cael eu dysgu ar draws y brifysgol, mae\u2019n amhosibl cael un dull sy\u2019n addas i bawb. Ond os yw pob adran yn meddwl am eu myfyrwyr <em>nhw<\/em>, a\u2019u cynnwys <em>nhw<\/em>, rwy\u2019n si\u0175r y gallai gosodiadau Blackboard pob adran fod yn gyson ac yn batrwm i ateb gofynion eu myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"624\" height=\"65\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/09\/image-20.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3686\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg Fe wn y gallai swnio\u2019n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud \u201cWrth gwrs eu bod nhw\u201d. Yn amlwg, rydych chi\u2019n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy\u2019n s\u00f4n. I sicrhau bod Blackboard [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544],"tags":[],"class_list":["post-3679","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Xl","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3679","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3679"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3679\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3687,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3679\/revisions\/3687"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3679"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3679"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3679"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}