{"id":3663,"date":"2021-09-15T09:04:30","date_gmt":"2021-09-15T08:04:30","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3663"},"modified":"2021-09-15T09:04:32","modified_gmt":"2021-09-15T08:04:32","slug":"croeso-i-staff-newydd-syn-ymuno-a-phrifysgol-aberystwyth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/09\/15\/croeso-i-staff-newydd-syn-ymuno-a-phrifysgol-aberystwyth\/","title":{"rendered":"Croeso i staff newydd sy\u2019n ymuno \u00e2 Phrifysgol Aberystwyth"},"content":{"rendered":"\n<p>Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni\u2019n rhan o\u2019r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni\u2019n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni\u2019n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar<a href=\"http:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\"><strong> <\/strong><strong>dudalennau gwe\u2019r<\/strong> <strong>Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu<\/strong><\/a>. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio\u2019n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/cysondeb\/\"><strong>Cefnogi eich Addysgu<\/strong><\/a><strong> <\/strong>yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym ni\u2019n ysgrifennu <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/\"><strong>blog<\/strong><\/a> gyda\u2019r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Os bydd angen i chi gysylltu \u00e2 ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">udda@aber.ac.uk<\/a> (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"mailto:elearning@aber.ac.uk\">eddysgu@aber.ac.uk<\/a> (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyflwyniad i\u2019r arlwy e-ddysgu<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/blackboard\/\"><strong>Blackboard<\/strong><\/a>. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma\u2019r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i\u2019ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi\u2019u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/RMP-2022-Cym.pdf\"><strong>Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard<\/strong><\/a><strong> <\/strong>ar gyfer pob modiwl.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cipio Darlithoedd: Panopto<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae\u2019r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/lecture-capture\/\"><strong>Panopto<\/strong><\/a>, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/regulations\/lecture-capture-policy\/\"><strong>Polisi Cipio Darlithoedd.<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment<\/h3>\n\n\n\n<p>Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno\u2019r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/esubmission\/\"><strong>mholisi E-gyflwyno&#8217;r<\/strong><\/a> Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni\u2019n defnyddio\u2019r teclynau e-gyflwyno <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/esubmission\/\"><strong>Turnitin a<\/strong> <strong>Blackboard Assignment<\/strong><\/a>. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adnoddau a rhagor o gymorth<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gennym ni nifer o <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/canllawiauadogfennau\/\"><strong>Ganllawiau<\/strong><\/a> a <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/\"><strong>Chwestiynau Cyffredin<\/strong><\/a><strong> <\/strong>i\u2019ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Hyfforddiant<\/h2>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi\u2019r holl staff gyda\u2019u haddysgu, mae\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo \u00e2 gwahanol elfennau o\u2019r amgylchedd dysgu rhithwir,<\/li><li>yr agenda Dysgu Gweithredol,<\/li><li>asesu ac adborth,<\/li><li>hygyrchedd,<\/li><li>sgiliau cyflwyno, a mwy.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein <a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\"><strong>Tudalen Archebu Cwrs<\/strong><\/a>. Rydym ni\u2019n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu\u2019n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&amp;A) yn nheitl y sesiwn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Digwyddiadau <strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/\"><strong>amrywiaeth o ddigwyddiadau<\/strong><\/a>, gan gynnwys y <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/networks-and-events-learning-teaching-conference\/\"><strong>Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol<\/strong><\/a>, <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/cynhadleddferacademi\/\"><strong>Cynadleddau Bach<\/strong><\/a>, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae\u2019r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod \u00e2 phobl o bob rhan o\u2019r brifysgol i drafod materion a datblygiadau\u2019n ymwneud \u00e2 Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rhaglenni<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/tpau\/\"><strong>Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth<\/strong><\/a> (TPAU) a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/pgcthe\/\"><strong>Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch<\/strong><\/a> (PGCTHE) ar lefel Meistr a <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/lteu\/hea-fellowships\/\"><strong>Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).<\/strong><\/a><strong><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni\u2019n rhan o\u2019r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni\u2019n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni\u2019n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn. Mae\u2019r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[604,630,544,620,594,582,626,614],"tags":[],"class_list":["post-3663","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysgu-ar-lein","category-amgylchedd-dysgu-rhithwir-vle","category-blackboard-cy","category-cysondeb-addysgu","category-digwyddiadau-a-rhwydweithiau","category-e-gyflwyno","category-hyfforddiant-a-chymorth","category-panopto-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-X5","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3663","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3663"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3663\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3666,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3663\/revisions\/3666"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3663"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3663"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3663"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}