{"id":3652,"date":"2021-09-14T17:02:20","date_gmt":"2021-09-14T16:02:20","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3652"},"modified":"2021-09-14T17:02:22","modified_gmt":"2021-09-14T16:02:22","slug":"cefnogaeth-ar-gyfer-dysgu-wyneb-yn-wyneb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/09\/14\/cefnogaeth-ar-gyfer-dysgu-wyneb-yn-wyneb\/","title":{"rendered":"Cefnogaeth ar gyfer Dysgu Wyneb yn Wyneb"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"3000\" height=\"2000\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/07\/OpenDay19-70_61929.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3367\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa\u2019r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran\u00a0ailaddasu\u00a0i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu\u2019r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin \u00e2 disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal \u00e2 chyfeirio\u2019r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu\u00a0<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Teaching-Room-Guide-2020-21-Cymraeg.docx\" target=\"_blank\">c<\/a><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Teaching-Room-Guide-2021-22-Cymraeg.docx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">anllawiau ar ddefnyddio\u2019r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog<\/a>.\u00a0Gallwch wylio\u00a0<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?pid=297b7241-4093-4c8c-a2af-ac4f00935e61\" target=\"_blank\">rhestr o fideos sy\u2019n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu<\/a>.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/important-info\/living-and-learning-in-aberystwyth-2021-22\/staff\/your-safety-and-wellbeing\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">phrotocolau Iechyd a Diogelwch<\/a>&nbsp;yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd\/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae arnom eisiau atgoffa\u2019r staff hefyd o&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/regulations\/lecture-capture-policy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol<\/a>&nbsp;\u2013 fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw.&nbsp;Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd n\u00f4l i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch&nbsp;gallant&nbsp;ddal i fyny \u00e2\u2019r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael,&nbsp;gallant&nbsp;osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo\u2019n hwylus. Mae\u2019r cwbl hyn yn ein cynorthwyo \u00e2\u2019r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol.&nbsp;Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein&nbsp;<a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Sessions\/List.aspx?folderID=1e46332e-f905-43f2-9d14-aca9010ba6b7\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o fideos ar Panopto.<\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i\u2019r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn ymwybodol o\u2019r\u00a0<a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/hse\/proc-prac\/risk-assessment\/\" target=\"_blank\">asesiadau risg perthnasol<\/a>\u00a0ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i\u2019w rhoi ar waith gyda\u2019r person priodol yn eich adran.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Sut y byddwn ni\u2019n ymdrin \u00e2 disgwyliadau\u2019r myfyrwyr?\u00a0<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid yw rheoli disgwyliadau myfyrwyr yn beth rhwydd ar unrhyw adeg, a gallai hynny fod hyd yn oed yn fwy heriol yn ystod y flwyddyn academaidd sydd o\u2019n blaenau. Er mwyn ymdrin \u00e2 disgwyliadau yn effeithiol, mae\u2019n hanfodol cynnal trafodaeth barhaus \u00e2\u2019r myfyrwyr, gan addasu yn \u00f4l y gallu a hefyd yn \u00f4l yr angen. Wedi\u2019r cyfan, mae\u2019r sefyllfa\u2019n dal i ddatblygu a rhaid i\u2019r Llywodraeth ac i brifysgolion barhau i ymateb. Rydym yn atgoffa pawb felly i ddarllen&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/important-info\/living-and-learning-in-aberystwyth-2021-22\/staff\/staff-updates\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">negeseuon<\/a>&nbsp;y Brifysgol ynghylch newidiadau i\u2019r rheoliadau yn ofalus pan g\u00e2nt eu hanfon.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y pen draw, ein nod yw cefnogi ein myfyrwyr ar eu taith i ddod yn ddysgwyr hyderus, annibynnol. Rhan greiddiol o hynny yw trin myfyrwyr fel partneriaid yn y modd y mae eu dysgu\u2019n cael ei gynllunio. Mae hyn yn golygu bod angen esbonio pam yr ydym yn eu dysgu fel y gwnawn, hyd yn oed os nad dyna\u2019r hyn yr oeddent yn ei ddisgwyl. Un ffordd o fesur disgwyliadau\u2019r myfyrwyr yw cynnal&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/offerpleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">pleidlais bwrpasol<\/a>&nbsp;ar ddechrau modiwl ynghylch eu disgwyliadau am y semester, a symud ymlaen wedyn i gael trafodaeth agored \u00e2 hwy yngl\u0177n \u00e2\u2019ch disgwyliadau chi ar gyfer eich myfyrwyr: sut yr ydych yn disgwyl iddynt ymwneud \u00e2\u2019u cwrs a sut y byddant yn ymdrin \u00e2\u2019u gwaith dysgu? Faint o oriau o waith y dylent fod yn ei wneud y tu hwnt i\u2019w sesiynau wyneb yn wyneb? Mae cael sgwrs am ddisgwyliadau ar gam cynnar yn eich galluogi i\u2019w cyfeirio at adnoddau sydd wedi eu cynllunio i&nbsp;&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/student\/study\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gefnogi eu dysgu<\/a>, megis&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/library-services\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gwasanaethau llyfrgell<\/a>, eich oriau swyddfa, ac ati.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai adnoddau eraill:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/create.piktochart.com\/output\/51591015-canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr<\/a>&nbsp;yn fan cychwyn da i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau academaidd megis rheoli eu hamser, strategaethau astudio effeithiol a&#8217;r gallu i\u2019w hysgogi eu hunain.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/blackboard.aber.ac.uk\/webapps\/portal\/execute\/tabs\/tabAction?tab_tab_group_id=_58_1\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">tudalennau SgiliauAber<\/a>&nbsp;(sydd ar gael trwy&nbsp;Blackboard) yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr gydag amrywiol sgiliau hanfodol gan gynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/sscs\/wellbeing\/training-self-development\/students\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Adnoddau Lles y Myfyrwyr<\/a>&nbsp;yn cynnig amrywiol adnoddau i\u2019r myfyrwyr a all eu cynorthwyo i ddatblygu strategaethau ymdopi.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa\u2019r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran\u00a0ailaddasu\u00a0i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu\u2019r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[620,624,626],"tags":[],"class_list":["post-3652","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cysondeb-addysgu","category-diweddariadau-technegol","category-hyfforddiant-a-chymorth"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-WU","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3652","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3652"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3652\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3657,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3652\/revisions\/3657"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3652"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3652"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3652"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}