{"id":3551,"date":"2021-08-12T09:05:41","date_gmt":"2021-08-12T08:05:41","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3551"},"modified":"2021-09-20T16:41:22","modified_gmt":"2021-09-20T15:41:22","slug":"myfyrdod-ar-redeg-prosiect-peilot-llysgenhadon-dysgu-myfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/08\/12\/myfyrdod-ar-redeg-prosiect-peilot-llysgenhadon-dysgu-myfyrwyr\/","title":{"rendered":"Myfyrdod ar redeg Prosiect Peilot Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2755\" height=\"1837\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/993-Meetings_PAU4513_60082.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3113\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><em>Gan Anna Udalowska<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae llenyddiaeth addysgegol yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud gweithredol gan fyfyrwyr ym mhob menter sy\u2019n effeithio ar eu profiad dysgu <em>nhw<\/em>. Gan ein bod ni, yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn gweithio mor agos \u00e2\u2019r staff addysgu yn eu cynghori ar arferion gorau mewn dysgu ac addysgu, roeddem ni\u2019n teimlo y byddai ein darpariaeth yn elwa o gael cyfraniad uniongyrchol gan fyfyrwyr. Penderfynwyd creu partneriaeth gyda gr\u0175p o fyfyrwyr, yn gweithio fel Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, i ganolbwyntio ar un o\u2019r materion a godir yn fwyaf amlwg mewn adborth gan fyfyrwyr &#8211; cynllun modiwlau Blackboard.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaed llawer eisoes i wella llywio a chysondeb modiwlau Blackboard, e.e., cyflwynwyd dewislenni Blackboard adrannol ac Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard. Mae enghreifftiau rhagorol o fodiwlau Blackboard i\u2019w cael, gyda rhai\u2019n cael eu harddangos yn ein Gwobrau Cwrs Nodedig. Fodd bynnag mae sylwadau ar anawsterau o ran llywio a diffyg cysondeb modiwlau Blackboard yn dal i ymddangos yn adborth y myfyrwyr (e.e. Arolwg Digital Insights).<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn dechrau\u2019r prosiect, cafodd yr Uned gyfle i fynd i weithdy ar bartneriaeth myfyrwyr-staff a gyflwynwyd gan Ruth a Mick Healey sy\u2019n ymgynghorwyr blaenllaw ar yr agwedd hon ar ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr. Roedd y sesiwn, yn ogystal ag ymgynghoriad dilynol oedd yn edrych yn benodol ar y prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, yn hynod o werthfawr. Er bod ein prosiect yn canolbwyntio\u2019n bennaf ar ymgynghori \u00e2 myfyrwyr, gwnaethom ein gorau i gyflwyno gwerthoedd sylfaenol partneriaethau myfyrwyr-staff, grymuso myfyrwyr i berchnogi\u2019r prosiect, eu helpu i wireddu effaith eu gwaith a myfyrio ar sut y bu\u2019n fuddiol i\u2019w twf.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Hysbysebwyd prosiect y Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr drwy gynllun GwaithAber a llwyfan GyrfaoeddAber yn ogystal ag ymhlith Cynorthwywyr i Gymheiriaid a Chynrychiolwyr Myfyrwyr. Yn ystod yr wythnos cyn dechrau\u2019r prosiect cwblhaodd myfyrwyr eu hymsefydlu oedd yn cynnwys cyfarwyddo \u00e2 gweithdrefnau gwaith iechyd a diogelwch, canllawiau diogelwch gwybodaeth a diogelu data, a chyflwyniad i\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuon ni ddydd Llun 12 Gorffennaf, gyda sesiwn ddwyawr oedd yn cynnwys gweithgareddau torri\u2019r i\u00e2, sefydlu rheolau sylfaenol, mynd drwy amserlen y prosiect a chyflwyno myfyrwyr i safle Teams y prosiect a ddefnyddiwyd i gyfathrebu fel gr\u0175p y tu allan i\u2019r sesiynau byw. Yn y sesiwn hon, pwysleisiwyd y rheswm y tu \u00f4l i\u2019r prosiect yn ogystal \u00e2\u2019r effaith y bydd yn ei gael. Yn ystod y sesiwn gyntaf, dechreuon ni daflu syniadau am yr hyn mae modiwl Blackboard sydd wedi\u2019i gynllunio\u2019n dda\u2019n ei olygu i ni, gan greu rhestr o eitemau y dylid eu cynnwys mewn modiwl Blackboard a\u2019u categoreiddio. Drwy gydol y sesiwn hon a sesiynau eraill defnyddiwyd cyfuniad o weithgareddau gr\u0175p llawn a gweithgareddau gr\u0175p llai mewn ystafelloedd trafod i ganiat\u00e1u cyfraniad cytbwys. Ar \u00f4l y sesiwn gyntaf, cyfunwyd ein nodiadau a\u2019u gosod ar y safle Teams. Yna gofynnwyd i\u2019r myfyrwyr fwrw golwg ar y ddogfen derfynol a gwneud unrhyw sylwadau a newidiadau oedd eu hangen yn eu barn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Treuliwyd ail a thrydydd diwrnod y prosiect yn profi defnyddioldeb modiwlau Blackboard yr oedd eu cydlynwyr wedi cytuno i wirfoddoli ar gyfer y gweithgareddau. Yn ystod y broses profi defnyddioldeb, buom yn gweithio gyda phob myfyriwr yn unigol gan ofyn yn gyntaf iddynt archwilio tudalen groeso Blackboard ac yna bob un o\u2019r modiwlau. Ar y diwedd, gofynnwyd hefyd iddynt ddangos modiwl o\u2019u h<a><\/a>adran nhw yr oeddent yn ei hoffi ac yn ei gael yn hawdd ei lywio. Gorffennwyd gyda sgwrs fer ar yr hyn yr hoffen nhw ganolbwyntio arno yn eu blog. Dewisodd pob myfyriwr un agwedd ar gynllun modiwlau Blackboard e.e. gwybodaeth asesu, llawlyfr, manylion cyswllt ac ati, gan egluro\u2019r hyn oedd yn ddefnyddiol iddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ddiwrnod pedwar, daethom yn \u00f4l at ein gilydd i gwblhau dau weithgaredd olaf. Yn gyntaf, cr\u00ebwyd bwrdd gyda phroblemau cynllunio cyffredin o fewn Blackboard, eu heffaith, ac argymhellion ar gyfer eu datrys. Yna ar \u00f4l rhoi amser i\u2019r Llysgenhadon gyfarwyddo \u00e2\u2019r RMP, aethom gyda\u2019n gilydd drwy bob adran o\u2019r ddogfen yn gwneud addasiadau\u2019n seiliedig ar eu sylwadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth yr wythnos i ben gyda chynnig gweithdy dewisol ychwanegol i\u2019r Llysgenhadon i\u2019w helpu i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y prosiect, pa sgiliau a ddysgwyd a sut y gallent arddangos yr hyn a wnaethon nhw mewn ceisiadau a chyfweliadau am swyddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaeth ansawdd gwaith y Llysgenhadon argraff dda iawn arnaf i. Erbyn diwedd y prosiect cynhyrchodd y myfyrwyr y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Beth y dylid ei gynnwys mewn modiwl (Diwrnod 1)<\/li><li>Profi Defnyddioldeb \u2013 adborth cyffredinol (Diwrnod 2 a 3)<\/li><li>Profi Defnyddioldeb \u2013 adborth modiwl 1 (i\u2019r cydlynydd modiwl)<\/li><li>Profi Defnyddioldeb \u2013 adborth modiwl 2 (i\u2019r cydlynydd modiwl)<\/li><li>Argymhellion i staff ar broblemau cyffredin Blackboard<\/li><li>Newidiadau arfaethedig i RMP<\/li><li>Myfyrio ar redeg y prosiect SLA<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Blogiau myfyrwyr:<\/p>\n\n\n\n<p>Ydy eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith y myfyriwr? &#8211;<\/p>\n\n\n\n<p>Gan <em>Angela Connor<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Gwybodaeth am Asesiadau \u2013 Awgrymiadau Myfyrwyr \u2013<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gan Elisa Long Perez a Gabriele Sidekerskyte<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Cyflwyno \u2018Offer ar gyfer Ysgrifennu Academaidd\u2019 ar draws pob adran \u2013<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gan Lucie Andrews<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Pwysigrwydd llawlyfrau modiwl cynhwysfawr \u2013<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gan Nathalia Kinsey<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Trefnu cynnwys Blackboard \u2013 Awgrymiadau Myfyrwyr \u2013<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gan Erin Whittaker, Katie Henslowe a Charlotte Coleman<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Pwysigrwydd Rhannu\u2019r Rhestr Ddarllen \u2013<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gan Ammaarah James<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Gan nad yw fy r\u00f4l fel arfer yn cynnwys gweithio\u2019n uniongyrchol gyda myfyrwyr, roedd cael y cyfle i gynnal y prosiect hwn yn foddhaus iawn. Dyma rai argymhellion y gallaf eu cynnig i\u2019r rheini sy\u2019n cynnal mentrau tebyg:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cynhwyswch sesiynau torri\u2019r i\u00e2 a chymerwch amser i ddod i adnabod y myfyrwyr ac iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd.<\/li><li>Ceisiwch beidio \u00e2 bod yn rhy ffurfiol, mwynhewch y prosiect a\u2019i drin \u00e2 chywreinrwydd &#8211; bydd hyn yn trosglwyddo i\u2019r ffordd y bydd eich myfyrwyr yn ei weld.<\/li><li>Gadewch i\u2019r myfyrwyr berchnogi\u2019r prosiect cymaint \u00e2 phosibl e.e. cynhwyswch agweddau o\u2019r prosiect lle mae ganddynt reolaeth i ddewis ffocws.<\/li><li>Gweithiwch gyda nhw\u2019n unigol a gyda\u2019i gilydd, bydd hyn yn eich helpu i wrando ar bob unigolyn, ond hefyd yn gadael i\u2019r gr\u0175p drafod a thaflu syniadau gyda\u2019i gilydd.<\/li><li>Helpwch nhw i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd. Mae\u2019n hawdd cwblhau darn trawiadol o waith ac anghofio\u2019n gyflym yn union beth a wnaed i\u2019w gyflawni. Gallwch ychwanegu gwerth i\u2019ch prosiect drwy gynnig adran ddewisol sy\u2019n helpu myfyrwyr i weld sut y gallant ddefnyddio\u2019r hyn a wnaed ganddynt i ddatblygu eu cynlluniau.<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gan Anna Udalowska Mae llenyddiaeth addysgegol yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud gweithredol gan fyfyrwyr ym mhob menter sy\u2019n effeithio ar eu profiad dysgu nhw. Gan ein bod ni, yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn gweithio mor agos \u00e2\u2019r staff addysgu yn eu cynghori ar arferion gorau mewn dysgu ac addysgu, roeddem ni\u2019n teimlo y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544],"tags":[773],"class_list":["post-3551","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","tag-students-as-partners"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Vh","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3551","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3551"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3551\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3552,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3551\/revisions\/3552"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3551"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3551"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3551"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}