{"id":3486,"date":"2021-07-28T11:35:34","date_gmt":"2021-07-28T10:35:34","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3486"},"modified":"2021-07-28T11:35:35","modified_gmt":"2021-07-28T10:35:35","slug":"astudiaethau-achos-offer-blackboard-rhyngweithiol-wicis","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/07\/28\/astudiaethau-achos-offer-blackboard-rhyngweithiol-wicis\/","title":{"rendered":"Astudiaethau Achos Offer Blackboard Rhyngweithiol \u2013 Wicis"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\" class=\"wp-image-675\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod <em>The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning <\/em>gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn <a href=\"https:\/\/www.routledge.com\/The-Routledge-Handbook-of-Tourism-and-Hospitality-Education\/Dredge-Airey-Gross\/p\/book\/9780415842051\">The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education<\/a>, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pa offeryn ydych chi\u2019n ei ddefnyddio a pham?<\/strong><strong>&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso <em>\u2018prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (\u2026) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (\u2026) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso\u2019r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a\u2019u cymharu \u00e2\u2019r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.\u2019<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pam ddewisoch chi\u2019r offeryn hwn?<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cyn cyflwyno\u2019r wicis <em>\u2018roedd myfyrwyr yn ymgymryd \u00e2\u2019r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint gr\u0175p 15 munud i\u2019r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.\u2019<\/em> Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li><em>\u2018Gwella cydlynrwydd gwaith gr\u0175p y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith\u2019<\/em><\/li><\/ol>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>\u2018Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio \u00e2 gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld \u00e2 chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy\u2019n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.\u2019<\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>\u2018Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe\u2019.<\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p><strong>Pa ganlyniadau dysgu oeddech chi\u2019n awyddus i\u2019w cyflawni \/ beth oeddech chi am i\u2019ch myfyrwyr ei ddysgu?<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Er mwyn datblygu myfyrwyr sy\u2019n gallu llwyddo fel cynllunwyr a rheolwyr effeithiol ym maes twristiaeth, mae Tribe (2002) yn argymell datblygu Ymarferwyr Athronyddol. Mae hyn yn golygu y dylai\u2019r cwricwlwm twristiaeth ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr i\u2019w paratoi am y sector twristiaeth yn ogystal \u00e2\u2019u sgiliau meddwl creadigol ac ymarfer myfyriol er mwyn iddynt allu ymdrin yn effeithiol \u00e2\u2019r heriau a gyflwynir gan y diwydiant. Mae angen i fyfyrwyr gael cyfleoedd dysgu ystyrlon sy\u2019n tynnu ar enghreifftiau o\u2019r byd real er mwyn datblygu\u2019r sgiliau hyn.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><a><\/a><em>Mae gweithle\u2019r byd real yn aml yn galw ar i ymarferwyr twristiaeth gydweithio i gyflawni eu nod. Yn ogystal \u00e2 chynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau gwaith gr\u0175p, mae profiadau dysgu cydweithredol yn gallu gwella eu dysgu. Yn \u00f4l Johnson et al (2008) mae grwpiau bach o fyfyrwyr yn cydweithio ar dasg yn gwneud y gorau neu fwyhau eu dysgu eu hunain a\u2019u dysgu ei gilydd.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Nod cyffredinol yr ymyriad wici a nodir yn y bennod hon oedd darparu profiad dysgu dan arweiniad myfyrwyr fyddai\u2019n cynnig mwy o gyfle ar gyfer cydweithio a rhyngweithio i\u2019r myfyrwyr, annog defnydd o sgiliau meddwl beirniadol \/ uwch (Bloom, 1956) a gwella ansawdd gwaith y myfyrwyr.\u2019<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut aethoch chi ati i gynllunio\u2019r gweithgaredd gyda\u2019r offeryn hwn?<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Er mwyn i weithgareddau sy\u2019n canolbwyntio ar ddysgu\u2019r myfiwyr fod yn effeithiol, rhaid eu cynllunio\u2019n dda. Ar sail canfyddiadau blaenorol yn dango nad oedd myfyrwyr yn gyfarwydd \u00e2 defnyddio wicis at ddibenion addysgol, datblygwyd rhaglen sefydlu strwythuredig ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y sgiliau (hyfforddiant meddalwedd wici a gwaith gr\u0175p), cymorth (enghreifftiau wici, templedi wici a safoni ar-lein) a\u2019r amgylchedd gweithredu (canllawiau ar l\u00ean-ladrad a chwrteisi ar-lein) angenrheidiol i gwblhau\u2019r prosiect yn llwyddiannus.\u2019<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth ydych chi\u2019n meddwl oedd barn eich myfyrwyr am yr offeryn?<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Roedd adborth cyffredinol y myfyrwyr ar yr ymarfer yn gadarnhaol. Roedd 72% o\u2019r myfyrwyr yn teimlo bod edrych ar wicis eraill wedi gwella safon eu gwaith. Er gwaethaf yr heriau o ran meddalwedd, roedd 72% o\u2019r myfyrwyr yn teimlo bod yr ymarfer wedi gwella eu sgiliau technoleg. Fodd bynnag roedd 12% yn anghytuno, gan nodi\u2019r angen am ragor o gymorth TG. Roedd 65% o\u2019r myfyrwyr yn teimlo bod yr ymarfer wedi gwella eu sgiliau gwaith gr\u0175p. Mae gwaith gr\u0175p yn faes mwy anodd ei fesur gan fod unrhyw heriau o ran gweithio yn y gr\u0175p yn gallu dylanwadu ar ganfyddiad pobl o ddatblygiad eu sgiliau yn y maes hwn.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Mae\u2019r canlyniadau\u2019n dangos bod sgoriau gwaith cwrs myfyrwyr ar y modiwl wedi cynyddu ar gyfartaledd 5% ers y flwyddyn academaidd flaenorol o 55% i 60%, a gwelwyd myfyrwyr yn cael sg\u00f4r cyfartalog o 60% am eu cyflwyniadau a\u2019u wicis. Mae\u2019r casgliad hwn yn adlewyrchu canfyddiad y myfyrwyr bod eu gwaith wedi gwella. Mae\u2019n debygol bod cydweithio a rhyngweithio cynyddol y myfyrwyr \u00e2 deunyddiau ei gilydd trwy\u2019r wicis wedi gwella ansawdd eu gwaith ar y safleoedd wici a\u2019u cyflwyniadau yn y dosbarth.\u2019<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Oes gennych chi gyngor i unrhyw un ar gyfer defnyddio\u2019r offeryn hwn?<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Amlygodd y prif adborth gan fyfyrwyr fod angen mwy o gefnogaeth gyda\u2019r dechnoleg wici. Roedd hyn yn cynnwys: meddalwedd wici mwy hylaw, sesiynau ymsefydlu wici mewn labordy TG a gwell cymorth TG. Nodwyd syniadau ar gyfer gwella\u2019r prosiect hefyd gan yr hyfforddwyr. Mae rhai o\u2019r rhain ar gyfer ymarferion penodol tra bo eraill yn ymwneud \u00e2 defnydd mwy cyffredinol o wici. Dyma\u2019r pwyntiau allweddol:<\/em><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>Cytuno ar faint o gynnwys gaiff ei lwytho i fyny cyn i\u2019r safleoedd fynd yn fyw. Doedd pob gr\u0175p ddim yn llwytho cynnwys digonol i fyny i alluogi\u2019r grwpiau eraill i ryngweithio\u2019n effeithiol \u00e2\u2019u safleoedd.<\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>Cynnig arweiniad ar y nifer a\u2019r math o safleoedd wici y dylai myfyrwyr ryngweithio \u00e2 nhw: er enghraifft roedd 10 safle cyrchfan yn y dosbarth a doedd hi ddim yn bosibl i fyfyrwyr ymgysylltu\u2019n effeithiol \u00e2 phob un. Fodd bynnag bydd ymgysylltu\u2019n anodd os nad yw\u2019r safleoedd eraill wedi llwytho cynnwys digonol i fyny, oedd yn wir am rai safleoedd yn y prosiect. Mae adborth yn awgrymu bod hyn oherwydd heriau TG a blaenoriaethu amser y myfyrwyr.<\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>Annog gwell rhyngweithio rhwng safleoedd. Gellir cyflawni hyn trwy roi rheswm i fyfyrwyr wneud hynny. Bydd hyn yn dibynnu ar nod y gweithgaredd. Rhai syniadau: Gosod cwestiynau neu dasgau ehangach i fyfyrwyr i annog rhyngweithio \u2018gweithredol\u2019 rhwng safleoedd wici; Defnyddio dulliau asesu cyfranogol: neilltuo\u2019r dasg o asesu safleoedd ei gilydd i\u2019r myfyrwyr.<\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>Y nifer o ddulliau asesu: Er bod yr ymarfer wici yn ategu\u2019r cyflwyniad yn y gweithgaredd hwn, gallai wici neu gyflwyniad fod yn fwy addas ar ei ben ei hun, gan ddibynnu ar nod yr asesiad.\u2019<\/em><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Diolch yn fawr i Dr Mandy Talbot am rannu\u2019r astudiaeth achos. Os hoffech ddysgu mwy am wicis, edrychwch ar <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2020\/01\/13\/blackboard-tools-for-group-work-blogpost-3-wikis\/\"><strong>Blackboard Tools for Group Work (Blogpost 3): Wicis<\/strong><\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?search=wikis\">Cwestiynau Cyffredin wicis<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni. Pa offeryn ydych chi\u2019n ei ddefnyddio a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544,548,558],"tags":[],"class_list":["post-3486","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-offer-rhyngweithiol","category-wicis-blackboard"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Ue","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3486","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3486"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3486\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3488,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3486\/revisions\/3488"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3486"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3486"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3486"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}