{"id":3360,"date":"2021-07-21T09:12:50","date_gmt":"2021-07-21T08:12:50","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3360"},"modified":"2021-07-21T09:13:54","modified_gmt":"2021-07-21T08:13:54","slug":"gwella-hygyrchedd-gwersi-a-ddysgwyd-o-ymagwedd-gyfunol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/07\/21\/gwella-hygyrchedd-gwersi-a-ddysgwyd-o-ymagwedd-gyfunol\/","title":{"rendered":"Gwella Hygyrchedd \u2013 gwersi a ddysgwyd o ymagwedd gyfunol"},"content":{"rendered":"\n<p>Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i\u2019r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni\u2019n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn darparu dull addysgu cynhwysol. Mae rhai o\u2019r ffyrdd mae ein cyrsiau wedi\u2019u haddasu mewn ymateb i\u2019r amgylchiadau addysgu heriol drwy gydol y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar wella hygyrchedd i\u2019n myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafwyd sgwrs wych gan Neil Taylor o\u2019r Adran Cyfrifiadureg ar ei brofiadau\u2019n creu adnoddau gwe rhyngweithiol hygyrch. Roedd yn ceisio datrys dryswch ynglyn \u00e2 lleoliad dogfennau roedd wedi\u2019u creu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer traethodau hir trydedd flwyddyn. Datblygodd sphinx-doc oedd yn casglu\u2019r holl wybodaeth mewn un lle ac mewn fformat fwy hygyrch. Roedd yn gallu ffurfweddu gwahanol them\u00e2u a ffontiau i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr. Roedd sgwrs Neil yn pwysleisio pwysigrwydd dyluniad rhyngwyneb y dudalen gwe i sicrhau hygyrchedd eang. \u202f<a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=0a65cee3-2cd5-4308-a4d9-ad5c0083a0ab\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad<\/a>.\u202f\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddodd aelodau o\u2019r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyflwyniad oedd yn cyflwyno achos o blaid y model\u202fhyflex. Dr Louise Marshall, Dr Malte Urban a\u2019r Athro Matt Jarvis\u202foedd yn arwain y cyflwyniad oedd yn gwerthuso manteision y model addysgu hyflex. Roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dull addysgu ar-lein, oedd yn golygu os oedden nhw\u2019n absennol oherwydd ynysu, salwch neu amgylchiadau eraill, eu bod yn dal i allu ymgysylltu \u00e2\u2019r cynnwys a mynychu sesiynau. Siaradodd dau fyfyriwr o\u2019r adran, Alex a Louise, am eu profiadau cadarnhaol o\u2019r model hyflex a sut roedd yn gwella hygyrchedd a chynhwysiant. Rhaid cyfaddef mai hwn oedd un o fy hoff gyflwyniadau, felly os cewch chi gyfle, gwrandewch arno.\u202f<a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=0b3a1c31-2c78-4776-95ee-ad5c0084ed39\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad<\/a>.\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cafwyd cyflwyniad gan Dr Tristram Irvine-Flynn o\u2019r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau\u2019r Ddaear ar greu Teithiau Maes 3D i&nbsp;Gadair&nbsp;Idris. Ysbrydolwyd hyn i ategu r\u00f4l gwaith maes mewn modiwlau Daearyddiaeth. Drwy addasu adnoddau mae\u2019r adran wedi creu amgylchedd mwy hygyrch a phrofiad dysgu gweithredol. Mae\u2019n adnodd dysgu gwych gyda llawer o botensial i gynyddu ac ehangu ei ddefnydd.\u202f<a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=5a45a6a7-eddc-48bf-a43d-ad5c008858e0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad<\/a>.\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd cyflwyniad Kittie&nbsp;Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies, a Caroline White o\u2019r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ymwneud ag effeithiau dysgu cyfunol ar fyfyrwyr niwroamrywiol. Nodwyd nad oedd profiad pob myfyriwr o ddysgu cyfunol yn arbennig o fanteisiol a bod rhai myfyrwyr niwroamrywiol yn ei chael yn anodd addasu i\u2019r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu. Yn y cyflwyniad cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth hygyrchedd ar ffyrdd y gall staff gefnogi myfyrwyr niwroamrywiol a helpu i sicrhau bod cynnwys eu modiwlau\u2019n hygyrch. Hefyd cafwyd <a href=\"\/Users\/hecto\/Downloads\/Inclusive%20Teaching%20Guide.docx\">canllaw de<\/a>fnyddiol ar gyfer addysgu cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n credu mai\u2019r hyn mae\u2019r symud cyflym i\u2019r model hyflex wedi\u2019i ddangos yw\u2019r defnydd ehangach posibl o ddulliau gwahanol o addysgu. Mae wedi arwain at ddarlithwyr yn gallu rhoi cais ar gyflwyno dulliau mwy beiddgar o addysgu ac asesu. Mae wedi cynnig cyfle i adrannau fyfyrio ar y ffordd y caiff cynnwys cyrsiau ei gyflwyno ac wedi dysgu rhai gwersi a sgiliau allweddol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynnwys cyrsiau ymhellach.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i\u2019r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni\u2019n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":72187,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[604,606],"tags":[],"class_list":["post-3360","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysgu-ar-lein","category-hyflex-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Sc","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3360","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/72187"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3360"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3360\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3361,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3360\/revisions\/3361"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3360"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3360"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3360"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}