{"id":3350,"date":"2021-07-20T12:38:30","date_gmt":"2021-07-20T11:38:30","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3350"},"modified":"2021-07-20T12:38:32","modified_gmt":"2021-07-20T11:38:32","slug":"astudiaethau-achos-ar-offer-rhyngweithiol-blackboard-profion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/07\/20\/astudiaethau-achos-ar-offer-rhyngweithiol-blackboard-profion\/","title":{"rendered":"Astudiaethau Achos ar Offer Rhyngweithiol Blackboard  \u2013 Profion"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Pa offeryn ydych chi\u2019n ei ddefnyddio a sut?<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o\u2019m modiwlau.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Pam dewis yr offeryn hwn?<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. O ran y profion adolygol, rydw i wedi eu defnyddio mewn modiwl i\u2019r flwyddyn gyntaf ar anatomeg a ffisioleg. Mae\u2019r modiwl hwn yn rhoi llawer o wybodaeth sylfaenol ar fywydeg elfennol a ddefnyddir gan y myfyrwyr ym modiwlau\u2019r dyfodol, felly roedd arna i eisiau cynllunio asesiad a fyddai\u2019n fodd i roi prawf ar amrywiaeth eang o bynciau ar draws y modiwl sy\u2019n bodloni canlyniadau dysgu eithaf eang. Mae profion aml-ddewis wedi gweithio\u2019n dda iawn ar gyfer hyn ac mae\u2019n cyd-fynd yn dda \u00e2\u2019r gwaith rwy\u2019n ei wneud yn y modiwl i geisio annog y myfyrwyr i ddefnyddio cardiau fflach i ddysgu. Mae budd y cardiau fflach yn amlwg i\u2019r myfyrwyr yn y prawf hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer yr asesiadau ffurfiannol, rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i\u2019w defnyddio fel ffordd i fyfyrwyr brofi eu dealltwriaeth ar ddiwedd pwnc. Ond, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i wedi dechrau eu defnyddio i ofyn cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn yn y ddarlith i wneud yn si\u0175r bod pawb yn deall. Mae hyn wedi bod yn wych er mwyn fy helpu i strwythuro\u2019r addysg a gwneud yn si\u0175r nad yw\u2019r myfyrwyr yn brysio ymlaen i adrannau newydd heb ddeall yn iawn beth oedd angen iddynt ei wneud yn yr adran flaenorol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Sut wnaethoch chi gynllunio\u2019r gweithgaredd gyda\u2019r offeryn hwn?<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n cynllunio\u2019r profion Blackboard yn unol \u00e2\u2019u defnydd yn llwyr. Mae\u2019r profion adolygol yn eithaf anhyblyg gyda chwestiynau aml-ddewis yn unig. Rwy\u2019n tueddu i ddefnyddio cwestiynau safonol eu ffurf; dewis yr ateb cywir i gwestiwn, dewis y datganiad cywir neu ofyn at ba strwythur yn y ddelwedd mae saeth yn pwyntio. Yn ystod cyfnod Covid-19 pan oedd y myfyrwyr yn sefyll y profion hyn gartref, rydw i wedi bod yn cynnwys rhywfaint o gwestiynau ateb byr yn y prawf aml-ddewis hefyd. Mae\u2019r cwestiynau hyn wedi gweithio\u2019n dda iawn er mwyn atal myfyrwyr rhag chwilio am yr ateb i bob cwestiwn aml-ddewis ac wedi rhannu\u2019r marciau\u2019n dda.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"198\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/07\/Picture1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3344\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n defnyddio ystod ehangach o opsiynau ar gyfer y profion ffurfiannol er mwyn cyd-fynd \u00e2\u2019r hyn rydw i eisiau i\u2019r myfyrwyr ei ddysgu. Er enghraifft, rydw i wedi defnyddio\u2019r cwestiynau paru ar \u00f4l mynd trwy\u2019r derminoleg, fel bod yn rhaid i\u2019r myfyrwyr baru\u2019r termau \u00e2&#8217;r disgrifiad cywir. Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio\u2019r adborth i\u2019r cwestiynau ffurfiannol hyn i annog y myfyrwyr i lywio eu dysg eu hunain. Felly yn hytrach na dweud wrth y myfyrwyr eu bod wedi ateb cwestiwn yn anghywir a rhoi\u2019r ateb cywir iddynt, rwy\u2019n defnyddio\u2019r adborth i gyfeirio\u2019r myfyrwyr at y sleid neu\u2019r rhan o\u2019r ddarlith lle mae\u2019r ateb i\u2019w gael. Y gobaith yw bod hyn yn eu hannog i strwythuro mwy ar eu gwaith dysgu ac adolygu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"134\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/07\/Picture2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3345\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"222\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/07\/Picture3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3346\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn olaf, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i\u2019n gweld bod <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=582\">rhyddhau deunyddiau\u2019n ymaddasol<\/a> (adaptive release) ar y cyd \u00e2\u2019r profion BB yn fuddiol iawn er mwyn strwythuro pynciau. Byddaf yn aml yn dechrau rhai darlithoedd trwy adolygu rhywfaint o wybodaeth y dylai\u2019r myfyrwyr fod wedi ei astudio yn y modiwlau blaenorol sy\u2019n sail i\u2019r pwnc y byddwn yn ei astudio yn y sesiwn honno. Felly rydw i wedi defnyddio profion BB i wneud y gwaith adolygu hwn. Rwy\u2019n defnyddio\u2019r adborth i gyfeirio\u2019r myfyrwyr at wybodaeth bellach os oes angen iddynt roi sglein ar eu dealltwriaeth ac yna\u2019n defnyddio dull rhyddhau deunyddiau\u2019n ymaddasol i ryddhau\u2019r pwnc iddynt ar \u00f4l iddynt roi cynnig ar y cwis adolygu yn unig. Mae\u2019r myfyrwyr yn cael cyfarwyddiadau clir er mwyn gallu rhoi cynnig ar y cwis a byddant wedyn yn cael mynd ymlaen i bwnc y ddarlith. Roedd hyn i weld yn gweithio\u2019n dda ac felly rwy\u2019n gobeithio dal ati gyda hyn er mwyn rhoi\u2019r gorau i adolygu yn y darlithoedd a threulio mwy o amser yn defnyddio\u2019r wybodaeth a ddysgir yn y darlithoedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"286\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/07\/Picture4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3348\" \/><\/figure>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Beth yw barn eich myfyrwyr am yr offeryn hwn?<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydw i wedi cael adborth eithaf da gan y myfyrwyr ar y profion BB. Mae llawer ohonynt wedi s\u00f4n eu bod yn eu helpu i astudio a mynd dros bynciau er mwyn deall lle mae angen iddynt ymdrechu fwy gyda\u2019u hastudiaeth bellach. Rydw i hefyd wedi helpu i leihau gorbryder myfyrwyr yngl\u0177n \u00e2\u2019r profion adolygol terfynol trwy ddefnyddio profion ffurfiannol trwy gydol y modiwl. Gan fod y prawf adolygol rwy\u2019n ei ddefnyddio yn un ar fodiwl y flwyddyn gyntaf yn semester 1, mae\u2019r myfyrwyr yn aml yn eithaf pryderus yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn i\u2019w ddisgwyl ar lefel prifysgol. Gallaf felly eu cyfeirio at y profion ffurfiannol fel enghreifftiau o lefel y cwestiynau y bydd disgwyl iddynt eu hateb yn yr arholiad.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol i bobl sydd eisiau defnyddio\u2019r offeryn hwn?<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Fy mhrif gyngor fyddai rhoi digon o amser i chi\u2019ch hun i lunio\u2019r profion. Mae\u2019r cam cychwynnol o ysgrifennu cwestiynau ac adborth da i\u2019r myfyrwyr yn cymryd peth amser. Ond ar \u00f4l i chi dreulio\u2019r amser hwnnw, mae\u2019r profion yn barod i\u2019w defnyddio bob blwyddyn. Heb os, mae\u2019n werth yr amser a dreulir er mwyn helpu\u2019r myfyrwyr ac i gael syniad o\u2019u dealltwriaeth, a gweld lle gall fod angen rhoi mwy o eglurhad ar bynciau. Gwnewch yn si\u0175r hefyd eich bod yn sefyll y profion eich hun! Wrth wneud y prawf fy hun, rydw i wedi sylwi ar ambell i gamgymeriad neu gwestiynau sydd angen bod yn fwy eglur ac mae\u2019n ddefnyddiol iawn er mwyn gweld sut bydd fformat terfynol y cwestiynau yn ymddangos i\u2019r myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Hoffem ddiolch i Dr Ruth Wonfor am rannu ei phrofiadau o ddefnyddio profion Blackboard.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech chi ddysgu mwy am brofion, rhowch gip ar yr wybodaeth yn <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2020\/04\/28\/blackboard-tests-creating-online-assessment-activities-for-your-students\/\"><strong>Blackboard Tests \u2013 Creating Online Assessment Activities for your Students<\/strong><\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?search=profion\"><strong>Cwestiynau Cyffredin<\/strong><\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os ydych chi\u2019n bwriadu defnyddio profion Blackboard yn ddull o arholi ar-lein, cysylltwch \u00e2 ni ar <\/strong><a href=\"mailto:eddysgu@aber.ac.uk\"><strong>eddysgu@aber.ac.uk<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS. Pa offeryn ydych chi\u2019n ei ddefnyddio a sut? Rwy\u2019n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o\u2019m modiwlau. Pam [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[548,556],"tags":[],"class_list":["post-3350","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-offer-rhyngweithiol","category-profion-blackboard"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-S2","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3350","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3350"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3350\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3351,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3350\/revisions\/3351"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3350"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3350"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3350"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}