{"id":3304,"date":"2021-07-28T09:00:00","date_gmt":"2021-07-28T08:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3304"},"modified":"2021-07-14T15:42:06","modified_gmt":"2021-07-14T14:42:06","slug":"hwyl-fawr-a-diolch-am-yr-holl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/07\/28\/hwyl-fawr-a-diolch-am-yr-holl\/","title":{"rendered":"Hwyl fawr, a diolch am yr holl\u2026"},"content":{"rendered":"\n<p>\u2026heriau, awgrymiadau, a dealltwriaeth o nifer wahanol adrannau yn y brifysgol! Rwyf wedi cael amser wrth fy modd dros yr 11 mis diwethaf yn gweithio gyda\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l dechrau gyda <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/networks-and-events-learning-teaching-conference\/archifigynhadledd2020\/\">Chynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol 2020<\/a>, roedd hi\u2019n hyfryd bod yn rhan o\u2019r un digwyddiad yn <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/networks-and-events-learning-teaching-conference\/rhaglenygynhadledd\/\">2021<\/a>&nbsp; tuag at ddiwedd fy nghyfnod yn y swydd hon. Y tro hwn, fe wnes i gyflwyniad (er bod hynny yn fy r\u00f4l fel Darlithydd Theatr a Senograffeg gyda ThFfTh) &#8211; cewch hyd i recordiad o\u2019r papur hwnnw <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=8e6ebb57-065d-44fc-8d29-ad5c008a5690\">yma<\/a> (dim ond Saesneg). Mae\u2019r ddau ddigwyddiad yn cyplysu amser prysur o ddysgu ac addysgu i mi: ar y cyd \u00e2\u2019m cydweithwyr hyfryd, fe wnes i gynllunio, datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi ar bopeth o Blackboard i <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/03\/23\/offer-pleidleisio-vevox\/\">Vevox<\/a>. Fe wnes i gefnogi staff o sawl adran wahanol i addasu o ddysgu cymysg wyneb yn wyneb, i ddysgu ar-lein yn unig, ac yn \u00f4l. Nid gor-ddweud yw dweud fy mod wedi fy syfrdanu gan yr ymroddiad, y penderfyniad a\u2019r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan ein cydweithwyr ledled y brifysgol. Rwy\u2019n si\u0175r y bydd yr <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/cysondeb\/\">adnoddau<\/a> a gynhyrchwyd gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn parhau i gefnogi staff wrth i ni wynebu <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/06\/28\/beth-sydd-angen-i-ni-ei-ystyried-wrth-gynllunio-ar-gyfer-addysgu-yn-2021-22\/\">blwyddyn academaidd arall<\/a> a fydd o bosibl yn llawn addasiadau angenrheidiol. Cadwch lygaid ar y <a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\">tudalennau Hyfforddiant Staff<\/a> \u2013 byddaf fi\u2019n sicr yn eu defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i mi a\u2019m cydweithwyr, sy\u2019n arbenigo ym maes Dysgu Ar-lein, symud ymlaen i heriau eraill, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i\u2019r holl gydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth, ac yn arbennig i\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, am fod mor groesawgar a chaniat\u00e1u i mi feithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o\u2019r gwaith amlochrog y mae\u2019r adran yn ei wneud. Diolch o galon i gyd!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u2026heriau, awgrymiadau, a dealltwriaeth o nifer wahanol adrannau yn y brifysgol! Rwyf wedi cael amser wrth fy modd dros yr 11 mis diwethaf yn gweithio gyda\u2019r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein. Ar \u00f4l dechrau gyda Chynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol 2020, roedd hi\u2019n hyfryd bod yn rhan o\u2019r un digwyddiad yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":58742,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[604,229],"tags":[],"class_list":["post-3304","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysgu-ar-lein","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Ri","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3304","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/58742"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3304"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3304\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3307,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3304\/revisions\/3307"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3304"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3304"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3304"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}