{"id":3264,"date":"2021-06-29T08:54:37","date_gmt":"2021-06-29T07:54:37","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3264"},"modified":"2021-06-29T08:54:44","modified_gmt":"2021-06-29T07:54:44","slug":"diweddariadau-i-vevox","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/06\/29\/diweddariadau-i-vevox\/","title":{"rendered":"Diweddariadau i Vevox"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\" class=\"wp-image-675\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Un o fanteision tanysgrifio i Offer Pleidleisio pwrpasol yw cael diweddariadau rheolaidd. Vevox yw Offer Pleidleisio pwrpasol y Brifysgol. Gallwch ei ddefnyddio i ychwanegu elfen o ryngweithio i\u2019ch sesiynau addysgu yn ogystal \u00e2\u2019ch cyfarfodydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein hadnoddau ar gyfer Vevox ar gael ar ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/offerpleidleisio\/\">gweddalennau<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma grynodeb o\u2019r ychwanegiadau sydd ar gael y mis hwn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae defnyddio LaTeX i greu cwestiynau mewn Polau yn golygu y gall cydweithwyr mewn disgyblaethau megis Mathemateg, Ffiseg, a Chyfrifiadureg ddefnyddio fformiwla wrth greu eu polau. Edrychwch ar <a href=\"https:\/\/help.vevox.com\/hc\/en-us\/articles\/4402102257425\">daflen gymorth LaTeX Vevox<\/a> i\u2019ch helpu i osod eich polau. &nbsp;<\/li><li>Gallu rhannu cyfrifoldebau cymedroli ar gyfer Cwestiwn ac Ateb gyda chyflwynydd arall. Gweler eu canllaw ar gyfer <a href=\"https:\/\/help.vevox.com\/hc\/en-us\/articles\/4402143445009\">rhannu bwrdd Cwestiwn ac Ateb gyda chydweithiwr neu gymedrolwr<\/a> i gael rhagor o wybodaeth.<\/li><li>Mae eglurhad ar gyfer atebion cywir yn eich galluogi i roi adborth ychwanegol i fyfyrwyr pan fyddant yn cael cwestiwn yn gywir. Gall hyn eich helpu i arbed amser wrth gynnal eich cwis. I gael crynodeb fideo, edrychwch ar gyfarwyddyd Vevox ar gyfer <a href=\"https:\/\/help.vevox.com\/hc\/en-us\/articles\/360010662278-Run-a-quiz\">Cynnal Cwis.<\/a><\/li><li>Hidlo eich ymatebion ar gymylau geiriau cyn i chi eu cyflwyno\u2019n \u00f4l i\u2019r dosbarth i sicrhau nad oes unrhyw beth nad ydych eisiau iddynt ei weld. Edrychwch ar eu <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=fYWo6BtINyc&amp;t=56s\">fideo hyfforddi ar gyfer creu cymylau geiriau<\/a>.<\/li><li>Gellir dangos canlyniadau o bolau fel rhifau yn ogystal \u00e2 chanrannau nawr, sy\u2019n golygu y gall cyfranogwyr gael syniad faint o bobl sydd wedi ymateb i\u2019r cwestiynau. Erioed wedi defnyddio\u2019r nodwedd bleidleisio yn Vevox o\u2019r blaen? Edrychwch ar eu canllaw ar <a href=\"https:\/\/help.vevox.com\/hc\/en-us\/articles\/360001140938-Create-a-basic-poll\">sut i greu p\u00f4l sylfaenol.<\/a><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae Vevox yn integreiddio\u2019n llawn \u00e2 Teams, sy\u2019n golygu y gallwch gynnal y sesiynau yn eich cyfarfodydd addysgu ar-lein a gall cyfranogwyr ymateb drwy ap Teams heb orfod rhoi cod 9 digid. Cewch ragor o wybodaeth yn ein Cwestiwn Cyffredin <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=3158\">Sut mae defnyddio Vevox gyda Microsoft Teams. <\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym bob amser yn chwilio am astudiaethau achos felly os ydych chi\u2019n defnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox yn eich sesiwn addysgu e-bostiwch ni ar <a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">lteu@aber.ac.uk<\/a> a rhowch wybod i ni sut yr ydych yn ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir gweld yr holl ddiweddariadau hyn ar <a href=\"https:\/\/www.vevox.com\/blog\/vevox-update-june-2021\">flog Vevox Mehefin<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o fanteision tanysgrifio i Offer Pleidleisio pwrpasol yw cael diweddariadau rheolaidd. Vevox yw Offer Pleidleisio pwrpasol y Brifysgol. Gallwch ei ddefnyddio i ychwanegu elfen o ryngweithio i\u2019ch sesiynau addysgu yn ogystal \u00e2\u2019ch cyfarfodydd. Mae ein hadnoddau ar gyfer Vevox ar gael ar ein gweddalennau. Dyma grynodeb o\u2019r ychwanegiadau sydd ar gael y mis hwn: [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-3264","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-QE","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3264","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3264"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3264\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3265,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3264\/revisions\/3265"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3264"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3264"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3264"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}