{"id":3256,"date":"2021-06-28T14:02:35","date_gmt":"2021-06-28T13:02:35","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3256"},"modified":"2021-06-28T14:02:36","modified_gmt":"2021-06-28T13:02:36","slug":"lleoliad-swyddog-cymorth-ac-effaith-cynadleddau-yn-yr-uned-datblygu-dysgu-ac-addysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/06\/28\/lleoliad-swyddog-cymorth-ac-effaith-cynadleddau-yn-yr-uned-datblygu-dysgu-ac-addysgu\/","title":{"rendered":"Lleoliad Swyddog Cymorth ac Effaith Cynadleddau yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu"},"content":{"rendered":"<p>Shwmai bawb, Hector ydw i, myfyriwr ar fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a\u2019r Newid yn yr Hinsawdd. Rwy\u2019n gyffrous i gael ymuno \u00e2 th\u00eem yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (yr Uned) am dair wythnos ar gyfer y Gynhadledd Addysgu Flynyddol 2021.<\/p>\n<p>Cyn dechrau ar gwrs gradd yn Aberystwyth, b\u00fbm yn Weithiwr Cymorth i elusen Leonard Cheshire. Prif feysydd fy niddordebau yw datblygu cynaliadwy, gwleidyddiaeth y newid yn yr hinsawdd, a gwaith elusennol. Rwyf wedi gwirfoddoli deirgwaith gyda\u2019r elusen datblygu cynaliadwy a arweinir gan ieuenctid, sef Raleigh International yn Nepal a Chosta Rica, yn rhan o\u2019r rhaglenni \u2018Expedition\u2019 a\u2019r Gwasanaeth Dinasyddion Rhyngwladol (International Citizen Service) a noddir gan y Llywodraeth. Rydw i\u2019n credu\u2019n gryf yn Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig 2030 ac wastad yn chwilio am ffordd newydd o gyfrannu iddynt a\u2019u cynorthwyo. Fel un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth rwy\u2019n aelod brwd o glwb Cerdded Aber ac fe fydda i\u2019n cymryd hyfforddiant Arweinwyr Mynydd dros yr haf er mwyn gallu arwain teithiau i\u2019r gymdeithas yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar rydw i wedi gweithio fel Stiward Zoom i Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Addysg Wyddonol. Fe wnes i fwynhau hynny\u2019n fawr iawn  felly pan welais i\u2019r cyfle i ennill mwy o brofiad mewn swydd debyg gyda\u2019r Uned, fe wnes gais amdani. Mae\u2019r lleoliad yn rhan o raglen AberYmlaen 2021. Fy ngwaith fydd cynnig golwg o safbwynt myfyriwr ar yr amrywiol sgyrsiau a draddodir yn y gynhadledd. Trwy wneud lleoliad gyda\u2019r Uned, rwy\u2019n gobeithio datblygu fy sgiliau trefnu a dadansoddi ymhellach. Hefyd rydw i eisiau parhau i ennill profiad gwaith ymarferol a pherthnasol, ac mae\u2019r lleoliad hwn yn gymorth gyda hyn.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n teimlo fel myfyriwr nad ydyn ni byth yn sylweddoli\u2019n union faint o waith a meddwl sy\u2019n mynd i mewn i bob agwedd ar ein profiad o ddysgu, ac yn y cyfnod a dreuliais yn yr Uned mae hyn wedi dod yn hynod amlwg wrth weld yr holl waith gwych a wneir ganddynt. Mae gennym ddewis gwych ac eang o sgyrsiau i\u2019w cynnig yn y gynhadledd eleni. Os nad ydych wedi gwneud hynny, cofiwch archebu eich lle, dydy hi ddim yn rhy hwyr! Gobeithio y caf eich gweld yno!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Shwmai bawb, Hector ydw i, myfyriwr ar fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a\u2019r Newid yn yr Hinsawdd. Rwy\u2019n gyffrous i gael ymuno \u00e2 th\u00eem yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (yr Uned) am dair wythnos ar gyfer y Gynhadledd Addysgu Flynyddol 2021. Cyn dechrau ar gwrs gradd yn Aberystwyth, b\u00fbm [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":72187,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-3256","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Qw","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3256","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/72187"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3256"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3256\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3257,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3256\/revisions\/3257"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3256"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3256"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3256"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}