{"id":3251,"date":"2021-06-28T13:05:22","date_gmt":"2021-06-28T12:05:22","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3251"},"modified":"2021-06-28T13:05:24","modified_gmt":"2021-06-28T12:05:24","slug":"beth-sydd-angen-i-ni-ei-ystyried-wrth-gynllunio-ar-gyfer-addysgu-yn-2021-22","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/06\/28\/beth-sydd-angen-i-ni-ei-ystyried-wrth-gynllunio-ar-gyfer-addysgu-yn-2021-22\/","title":{"rendered":"Beth sydd angen i ni ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer addysgu yn 2021\/22?"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae bron yn amser paratoi ar gyfer addysgu yn 2021\/22. Er bod llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn y byddwn yn gallu ei ddarparu, hoffem rannu rai pwyntiau gyda chi sy\u2019n werth eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae\u2019r pwyntiau hyn yn codi o\u2019n myfyrdodau a\u2019n profiadau o gefnogi staff a myfyrwyr dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, yn ogystal ag ystyriaethau gan gydweithwyr ar draws y sector.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2933\" height=\"1956\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/Aber20-106056_62270-Copy.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3249\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut fyddwn ni\u2019n mesur i ba raddau mae myfyrwyr yn ymgysylltu?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r hyn mae ymgysylltiad myfyrwyr yn ei olygu a sut rydym ni\u2019n ei fesur wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf. O\u2019r blaen mae\u2019n bosibl y byddem ni\u2019n mesur ymgysylltiad myfyrwyr drwy edrych ar eu cyfranogiad yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb neu fonitro eu presenoldeb. Ers i ni fod yn addysgu ar-lein, rydym ni efallai\u2019n talu mwy o sylw i ystadegau Panopto, eu cyfranogiad mewn gweithgareddau rhyngweithiol ar Blackboard a sgwrsio yn Teams. Gall egluro\u2019r hyn mae ymgysylltu\u2019n ei olygu i chi a sut rydych chi am ei fesur mewn fformat cyflwyno sy\u2019n debygol o fod yn newydd i chi a\u2019ch myfyrwyr, eich helpu i werthuso eich dulliau a helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt (Love &amp; El Hakim, 2020).<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2020\/03\/27\/monitoring-student-engagement-while-teaching-online\/\"><strong>Cymerwch olwg ar y blogiad Monitro Ymgysylltiad Myfyrwyr wrth addysgu ar-lein.<\/strong><\/a><strong> <\/strong><strong>(gweithgareddau anghydamserol)<\/strong><\/li><li><a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2021\/01\/15\/how-can-i-check-for-understanding-whilst-teaching-online\/\"><strong>Sut allaf i sicrhau dealltwriaeth wrth addysgu ar-lein?<\/strong><\/a><strong> (sesiynau ar-lein cydamserol) <\/strong><strong><\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth fydd ei angen ar ein myfyrwyr?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn ystod y pandemig fe wyddom fod llawer o fyfyrwyr yn dioddef unigedd, yn astudio mewn amrywiol amgylcheddau cartref ac yn brwydro gyda gorbryder a chymhelliad. O hyn ymlaen bydd angen i ni roi ystyriaeth i hyn a chydbwyso\u2019r angen cynyddol am oriau cyswllt a chymdeithasoli gydag arferion addysgegol gorau. Er na allwn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf gyda sicrwydd, mae\u2019n hanfodol ein bod yn darparu ymdeimlad o strwythur i\u2019n myfyrwyr lle bo\u2019n bosibl. Un o\u2019r arferion gorau a bwysleisiwyd dros y misoedd diwethaf yw creu \u2018mapiau\u2019 sy\u2019n dweud wrth y myfyrwyr beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ac erbyn pryd. Thema arall sy\u2019n ymddangos ar draws y sector yw adeiladu cymuned o ddysgwyr i fynd i\u2019r afael ag unigedd.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?pid=f81305e5-31f4-4653-81d5-acf700b322fd\"><strong>Gwyliwch y cyflwyniad Cymunedau Ar-lein a Llesiant Myfyrwyr a gyflwynwyd gan Kate Lister yn ystod y mini-gynhadledd Gwreiddio Llesiant yn y Cwricwlwm.<\/strong><\/a><strong><\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut fyddwn ni\u2019n rheoli disgwyliadau myfyrwyr?<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Dyw rheoli disgwyliadau myfyrwyr byth yn hawdd a gall fod yn fwy heriol fyth dros y flwyddyn nesaf. Un ffordd o reoli disgwyliadau\u2019n effeithiol yw drwy gynnal sgwrs barhaus gyda myfyrwyr a gallu addasu lle bo\u2019n bosibl. Mae trin myfyrwyr fel partneriaid wrth gynllunio eu dysgu hefyd yn cynnwys esbonio pam ein bod yn eu haddysgu yn y ffordd a wnawn, hyd yn oed os nad dyma oedden nhw\u2019n ei ddisgwyl. Yn olaf, mae sgaffaldio eu dysgu ym mha bynnag ffurf mae\u2019n digwydd yn debygol o gynyddu eu boddhad.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"https:\/\/www.gillysalmon.com\/five-stage-model.html\"><strong>Gwylio\u2019r Model Pum Cam ar gyfer sgaffaldio gweithgareddau ar-lein a ddatblygwyd gan Gilly Salmon.<\/strong><\/a><strong><\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut fydd ein r\u00f4l fel addysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol yn newid?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae dull yr ystafell ddosbarth wyneb i waered a hyrwyddwyd gan ein sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn newid dynameg grym yn yr ystafell ddosbarth. Mae\u2019n caniat\u00e1u mwy o ddewis i fyfyrwyr o ran sut a phryd maen nhw\u2019n dysgu. Mae hefyd yn gosod mwy o bwyslais ar diwtoriaid fel mentoriaid a hwyluswyr yn hytrach na darlithwyr. Yn y dyfodol, mae\u2019n debygol y bydd y berthynas rhwng myfyrwyr a staff yn trawsnewid ymhellach. Fel y nodwyd yn gynt, gallai fod yn gyfle i weithio mewn partneriaeth gyda myfyrwyr, gan ganiat\u00e1u iddynt fod yn asiantau eu profiad dysgu eu hunain.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae bron yn amser paratoi ar gyfer addysgu yn 2021\/22. Er bod llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn y byddwn yn gallu ei ddarparu, hoffem rannu rai pwyntiau gyda chi sy\u2019n werth eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae\u2019r pwyntiau hyn yn codi o\u2019n myfyrdodau a\u2019n profiadau o gefnogi staff [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[604,620],"tags":[],"class_list":["post-3251","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-addysgu-ar-lein","category-cysondeb-addysgu"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Qr","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3251","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3251"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3251\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3252,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3251\/revisions\/3252"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3251"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3251"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3251"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}