{"id":3223,"date":"2021-06-23T14:44:49","date_gmt":"2021-06-23T13:44:49","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3223"},"modified":"2021-06-23T14:44:50","modified_gmt":"2021-06-23T13:44:50","slug":"astudiaethau-achos-offer-rhyngweithiol-blackboard-byrddau-trafod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/06\/23\/astudiaethau-achos-offer-rhyngweithiol-blackboard-byrddau-trafod\/","title":{"rendered":"Astudiaethau Achos Offer Rhyngweithiol Blackboard \u2013 Byrddau Trafod"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019n bleser gennym gyflwyno\u2019r astudiaeth achos gyntaf ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard, sef defnyddio byrddau trafod gan Dr Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-style-large is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u2018<strong><em>Roedd byrddau trafod felly yn ffordd o ail-greu\u2019r drafodaeth y gallem fod wedi\u2019i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester<\/em><\/strong>.\u2019<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pa offer ydych chi\u2019n ei ddefnyddio a sut?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n defnyddio byrddau trafod ar fodiwl marchnata craidd blwyddyn 1<sup>af <\/sup>gyda 97 o fyfyrwyr. Caiff y byrddau trafod eu defnyddio mewn ffordd strwythuredig iawn i roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso theori, model neu fframwaith y maen nhw newydd ddysgu amdano. Yn sgil y dull cyfunol y dechreuwyd ei ddefnyddio mewn ymateb i Covid-19, mi sylwais nad oedd myfyrwyr yn astudio\u2019r cynnwys a recordiwyd yn ei drefn addas, ac nid yn yr wythnos y bwriadwyd iddynt astudio\u2019r pwnc. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anodd defnyddio\u2019r sesiynau byw yn MS Teams i wneud ymarferion pwnc-benodol a chreu dadl gan nad oedd llawer o fyfyrwyr wedi astudio\u2019r pwnc eto. Roedd byrddau trafod felly\u2019n ffordd o ail-greu\u2019r drafodaeth y gallem fod wedi\u2019i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"281\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/Picture1-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3224\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pam wnaethoch chi ddefnyddio\u2019r offer hwn?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Dewisais yr offer hwn gan ei fod yn rhwydd iawn ei ymgorffori yn y strwythur dysgu wedi\u2019i recordio a chyfeirio myfyrwyr ato ar yr adeg berthnasol yn eu hastudiaethau. Roedd gan bob darlith a recordiwyd dri \u2018phwynt trafod\u2019 wedi\u2019u cynllunio i gyflawni deilliannau dysgu yn ymwneud \u00e2 chymhwyso dysgu. Ar \u00f4l gweithio trwy gynnwys dysgu ar-lein ar bwnc, gofynnai\u2019r pwynt trafod iddynt rannu eu profiad neu enghraifft berthnasol, a dechrau sgwrs ddyfnach am gymhwyso damcaniaeth i\u2019r byd go iawn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut wnaethoch chi gynllunio\u2019r gweithgarwch hwn yn defnyddio\u2019r offer hwn?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn PowerPoint y ddarlith a recordiwyd, defnyddiais eicon cyson i nodi trafodaeth, yna cynnwys cyfarwyddiadau y dylent oedi\u2019r fideo, gwneud rhai nodiadau, yna pan fyddant wedi gorffen y ddarlith, mynd i\u2019r \u2018gofod trafod\u2019 a rhannu eu meddyliau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"563\" height=\"438\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/Picture2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3219\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"665\" height=\"347\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/Picture3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3220\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mi wnes i hefyd ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i osod a derbyn gweithgareddau \u2018tasg gydweithredol\u2019. Fe allen nhw ddarllen y briff ar frig yr edefyn, ac yna postio allbynnau eu grwpiau yn yr edefyn. Yr enw arno oedd \u2018Safle cydweithredu\u2019 ond defnyddio offer y bwrdd trafod yr oedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"575\" height=\"172\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/Picture4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3221\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth yw barn myfyrwyr am yr offer hwn?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n credu ei fod yn gymysg, wnaeth rhai myfyrwyr ddim cymryd rhan o gwbl, er i\u2019r mwyafrif wneud hynny (cofiwch eu bod yn cael marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu). Cyfeiriodd sawl myfyriwr at y byrddau trafod yn eu hadborth yn yr holiadur gwerthuso modiwl:<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cRoeddwn i wrth fy modd \u00e2\u2019r modiwl hwn. Roedd yr athrawes yn rhagorol, ac roedd hi\u2019n glir ei ffocws trwy gydol y modiwl. Y bwrdd trafod oedd rhan orau\u2019r modiwl gan ei fod yn rhoi lle inni gymhwyso\u2019r damcaniaethau. Drwyddi draw, un o\u2019r modiwlau gorau yn fy mlwyddyn gyntaf.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cGyda phopeth oedd yn digwydd, mae\u2019r modiwl hwn wedi cael ei redeg yn dda iawn y semester hwn. Mae llawer o gynnwys ar-lein i\u2019w wneud ac mae\u2019r fforymau i fyfyrwyr drafod y pynciau dan sylw wedi ei wneud yn fodiwl difyr iawn.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>A oes gennych unrhyw awgrymiadau i bobl sydd eisiau defnyddio\u2019r offer hwn?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Dylech ei gwneud hi\u2019n glir iawn beth rydych chi\u2019n gofyn iddyn nhw ei wneud a ble gallan nhw ddod o hyd iddo. Anogwch y myfyrwyr i lwytho rhith-ffurf (<em>avatar<\/em>) fel nad yw\u2019r drafodaeth mor ddi-wyneb. Yn sicr ar gyfer modiwlau blwyddyn 1, ystyriwch ddyfarnu marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu \u00e2 phethau fel byrddau trafod, wici ac ati. Mae adroddiadau Blackboard yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i chi weld pwy sy\u2019n gwneud beth, ble a phryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Diolch o galon i Dr Martine Garland am rannu\u2019r astudiaeth achos hon. Os hoffech ddysgu rhagor am fwrdd trafod, edrychwch ar bostiad <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2020\/01\/14\/offer-blackboard-ar-gyfer-gwaith-grwp-blogpost-4-trafodaethau\/\"><strong>Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Gr\u0175p (Blog-bost 4): Trafodaethau<\/strong><\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?search=Discussion\">cwestiynau a holir yn aml am fyrddau trafod<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gennym gyflwyno\u2019r astudiaeth achos gyntaf ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard, sef defnyddio byrddau trafod gan Dr Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth. \u2018Roedd byrddau trafod felly yn ffordd o ail-greu\u2019r drafodaeth y gallem fod wedi\u2019i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.\u2019 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[544,552,548],"tags":[],"class_list":["post-3223","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-byrddau-trafod-blackboard","category-offer-rhyngweithiol"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-PZ","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3223","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3223"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3223\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3225,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3223\/revisions\/3225"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3223"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3223"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3223"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}