{"id":3130,"date":"2021-06-02T11:13:26","date_gmt":"2021-06-02T10:13:26","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3130"},"modified":"2021-06-02T11:13:27","modified_gmt":"2021-06-02T10:13:27","slug":"cynllunio-asesiadau-syn-rhydd-o-bryder","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/06\/02\/cynllunio-asesiadau-syn-rhydd-o-bryder\/","title":{"rendered":"Cynllunio Asesiadau sy\u2019n Rhydd o Bryder"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"753\" height=\"147\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/06\/078-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3131\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn ystod yr \u0174yl Fach yr wythnos ddiwethaf, cynhaliom ni sesiwn \u2018Cynllunio Asesiadau sy\u2019n Rhydd o Bryder\u2019. Roedd y sesiwn yn seiliedig ar <em>A review of the literature concerning anxiety for educational assessments<\/em> gan Ofqual sy\u2019n amlinellu\u2019r cysylltiadau rhwng pryder am asesiadau, perfformiad myfyrwyr ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnig ymyriadau posibl ar gyfer pryder am asesiadau y gellir eu cymhwyso i gynllunio yn ogystal \u00e2 gweithredu asesiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar sail yr adolygiad yn ogystal \u00e2 thrafodaethau o\u2019r sesiwn rydym ni wedi paratoi rhestr o gamau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau nad yw asesiadau\u2019n peri cymaint o bryder i\u2019ch myfyrwyr:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li><strong>Defnyddio anogaeth gadarnhaol yn lle apelio at ofn.<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Mae wedi\u2019i ddangos bod apelio at ofn, gyda negeseuon sy\u2019n pwysleisio pwysigrwydd asesiadau arfaethedig, yn cyfrannu at lefelau uwch o bryder am brofion, ymgysylltu dosbarth is a pherfformiad is mewn tasgau (Putwain &amp; Best, 2011; Putwain, Nakhla, Liversidge, Nicholson, Porter &amp; Reece, 2017; Putwain &amp; Symes, 2014). Yn lle symbylu myfyrwyr drwy apelio at ofn, ceisiwch ail-eirio eich negeseuon yn anogaeth gadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Helpu\u2019r myfyrwyr i osod nodau y gellir eu cyflawni.<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 darparu gwybodaeth i fyfyrwyr ar sut y dylai eu perfformiad neu bapur terfynol edrych, mae\u2019n werth ychwanegu gwybodaeth ar y camau sydd eu hangen i gyrraedd yno. Gall rhannu asesiadau\u2019n gamau ac awgrymu tua faint o amser y dylid ei dreulio ar bob rhan fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr, yn enwedig y rheini sydd heb brofiad o reoli asesiadau prifysgol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Hwyluso amgylchedd dysgu cadarnhaol.<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Fel y disgrifir yn yr adolygiad \u2018gall amgylcheddau dysgu cadarnhaol gynnwys: cynllunio gwersi sy\u2019n canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd myfyrwyr ac yn adeiladu arnynt yn hytrach na nodi gwendidau; rhoi adborth cadarnhaol a chywir; annog perthnasoedd cydweithredol yn hytrach na chystadleuol rhwng cymheiriaid; ac annog cymhelliad cynhenid y myfyrwyr i astudio, yn hytrach na chael eu gorfodi neu ganolbwyntio ar bwysigrwydd deilliannau asesu (Jennings &amp; Greenberg, 2009 dyfynnir yn Ofqual, 2020). Sut allwch chi feithrin yr elfennau hyn yn eich dosbarth?<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Addasu\u2019r dull asesu (os yw\u2019n bosibl!).<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae llawer o ffactorau penodol mewn asesiadau\u2019n effeithio ar faint o bryder y gallant ei achosi. Gall gwneud addasiadau bach i\u2019r dull asesu wneud gwahaniaeth i\u2019ch myfyrwyr:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em>Cyfryngiad (faint o effaith mae\u2019r asesiad i\u2019w weld yn ei gael ar radd gyffredinol y myfyriwr):<\/em> Bydd rhannu neu ledaenu asesiadau cymhleth \u00e2 phwysau uchel yn ddarnau llai yn helpu myfyrwyr gyda rheoli eu hamser yn well a chreu llai o bwysau i wneud yn dda.<\/li><li><em>Cymhlethdod (pa mor gymhleth mae\u2019r asesiad yn ymddangos)<\/em>: oes unrhyw beth yng nghynllun yr asesiad y gellid ei symleiddio?<\/li><li><em>Gwerthuso (a gaiff eu perfformiad ei werthuso gan eraill):<\/em> lle bo\u2019n bosibl ystyriwch leihau effaith yr elfen gwerthuso cymdeithasol mewn asesiadau drwy gyfyngu ar faint y gynulleidfa neu ganiat\u00e1u i\u2019r myfyrwyr gyflwyno cyflwyniad wedi\u2019i recordio ymlaen llaw.<\/li><li><em>Amseru (a yw eu perfformiad yn cael ei amseru):<\/em> mae hwn yn gymwys yn enwedig mewn perthynas ag arholiadau sydd \u00e2 therfynau amser caeth fel arfer. Mae\u2019n werth ystyried ai arholiadau wedi\u2019u hamseru yw\u2019r ffordd orau i fesur cynnydd myfyrwyr ar y deilliant dysgu neu a oes cynllun asesu amgen y gallech ei ddefnyddio.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Helpu\u2019r myfyrwyr i deimlo\u2019n barod.<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gall cynyddu pa mor barod maen nhw\u2019n teimlo hefyd helpu i leddfu pryder asesu. Rhai o\u2019r pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich myfyrwyr deimlo\u2019n barod yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>sicrhau bod yr asesiad yn glir, yn fanwl ac yn hygyrch;<\/li><li>cysylltu asesiadau\u2019n glir ac yn amlwg \u00e2 deilliannau dysgu;<\/li><li>cysylltu sgiliau a ddysgwyd drwy\u2019r modiwl \u00e2\u2019r rheini sy\u2019n eu helpu mewn asesiadau;<\/li><li>cyfleu disgwyliadau (e.e. faint o amser y dylent ei dreulio ar asesiad) yn glir dro ar \u00f4l tro.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn olaf, efallai mai\u2019r ffordd fwyaf effeithiol i wneud myfyrwyr yn fwy parod a\u2019u helpu i arfer \u00e2 chael eu hasesu yw ffug arholiadau ac asesiadau ffurfiannol eraill (Ergene, 2011).<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar bryder am asesiadau a sut i\u2019w reoli.<\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gallwch helpu drwy roi gwybodaeth i fyfyrwyr fod pryder am asesiadau\u2019n gyffredin ymhlith myfyrwyr a rhoi dolenni iddynt at adnoddau sydd ar gael (gweler isod).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Adnoddau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"\/Users\/Ania%20Work\/Downloads\/Cefnogi%20eich%20dysgu%20-%20Supporting%20your%20Learning%20BB-AU-0054-O\"><strong>Cefnogi eich Dysgu<\/strong><\/a><strong>:<\/strong> modiwl ar gael i\u2019r holl fyfyrwyr drwy Blackboard sy\u2019n cynnig gwybodaeth hanfodol ar asesiadau yn cynnwys adran fer ar ymdrin \u00e2 phryder am asesiadau.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/create.piktochart.com\/output\/51235737-quick-guide-to-student-success\"><strong>Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr<\/strong><\/a><strong><u>: <\/u><\/strong>man cychwyn da ar gyfer helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau academaidd fel rheoli amser, strategaethau astudio effeithiol a\u2019r gallu i\u2019w cymell eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/blackboard.aber.ac.uk\/webapps\/portal\/execute\/tabs\/tabAction?tab_tab_group_id=_58_1\"><strong>Tudalennau SgiliauAber<\/strong><\/a> (hefyd ar gael drwy Blackboard): cymorth i fyfyrwyr ar amrywiol sgiliau hanfodol yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/sscs\/wellbeing\/training-self-development\/students\/\"><strong>Adnoddau Lles Myfyrwyr<\/strong><\/a><strong>:<\/strong> amrywiol adnoddau i fyfyrwyr sy\u2019n gallu eu helpu i feithrin strategaethau ymdopi.<\/p>\n\n\n\n<p>Er efallai nad yw\u2019n bosibl cynllunio asesiadau sy\u2019n gwbl rydd o bryder, gall rhai o\u2019r camau hyn gael effaith gadarnhaol ar berfformiad a lles myfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod yr \u0174yl Fach yr wythnos ddiwethaf, cynhaliom ni sesiwn \u2018Cynllunio Asesiadau sy\u2019n Rhydd o Bryder\u2019. Roedd y sesiwn yn seiliedig ar A review of the literature concerning anxiety for educational assessments gan Ofqual sy\u2019n amlinellu\u2019r cysylltiadau rhwng pryder am asesiadau, perfformiad myfyrwyr ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnig ymyriadau posibl ar gyfer [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[600],"tags":[],"class_list":["post-3130","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwybodaeth-i-fyfyrwyr"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Ou","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3130","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3130"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3130\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3132,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3130\/revisions\/3132"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3130"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3130"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3130"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}