{"id":3075,"date":"2021-05-27T09:50:14","date_gmt":"2021-05-27T08:50:14","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=3075"},"modified":"2021-05-27T09:50:15","modified_gmt":"2021-05-27T08:50:15","slug":"egluro-meini-prawf-asesu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/05\/27\/egluro-meini-prawf-asesu\/","title":{"rendered":"Egluro Meini Prawf Asesu"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae gan Feini Prawf Asesu nifer o swyddogaethau: gwneud y broses farcio\u2019n dryloyw; darparu eglurder ynghylch yr hyn sy\u2019n cael ei asesu a sut; sicrhau tegwch ar draws yr holl gyflwyniadau; a rhoi sicrwydd ansawdd o ran datganiadau meincnodi pynciau. Er bod pob un o\u2019r rhesymau hyn yn ddilys ac yn anrhydeddus, mae nifer o ystyriaethau ar waith:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li>Mae gan staff reolaeth uwch neu is ar y meini prawf asesu y gofynnir iddynt eu defnyddio wrth farcio gwaith myfyrwyr a gall dehongliadau o\u2019r meini prawf amrywio rhwng gwahanol aelodau o staff sy\u2019n marcio\u2019r un asesiad.<\/li><li>Mae\u2019r meini prawf asesu\u2019n wahanol i safonau a rhaid cyfleu\u2019r gwahaniaeth rhwng y ddau yn glir i fyfyrwyr (h.y. yr hyn sy\u2019n cael ei asesu yn erbyn pa mor dda mae maen prawf wedi\u2019i fodloni).<\/li><li>Yn aml asesu sy\u2019n cymell y myfyrwyr (cf. Worth, 2014) a gall gorbwyslais ar feini prawf neu feini prawf gorfanwl arwain at ymagwedd ticio blychau\u2019n unig.<\/li><li>Ar y llaw arall, gall meini prawf sy\u2019n rhy amwys neu sy\u2019n dibynnu\u2019n ormodol ar wybodaeth ddealledig o\u2019r pwnc fod yn ddryslyd ac yn anhygyrch i fyfyrwyr, yn enwedig ar ddechrau eu gradd.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Dyw\u2019r blog hwn ddim yn honni y gall ddatrys holl broblemau meini prawf asesu ond bydd yn cynnig nifer o strategaethau posibl y gallai staff ac adrannau\u2019n ehangach eu defnyddio i egluro\u2019r meini prawf asesu, a\u2019r prosesau marcio, i fyfyrwyr. Drwy hyn, daw myfyrwyr yn rhan o gymuned o ymarfer, yn hytrach na chael eu trin fel defnyddwyr (cf. Worth, 2014; Molesworth, Scullion &amp; Nixon, 2011). Gellir grwpio gweithgareddau o\u2019r fath yn fras yn gronolegol o ran y rhai sy\u2019n digwydd cyn, yn ystod, neu ar \u00f4l asesiad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyn yr asesiad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Defnyddiwch feini prawf asesu i egluro nodau a chanlyniadau ar ddechrau modiwl, gyda phwyntiau gwirio wrth agos\u00e1u at ddyddiad cau.<\/li><li>Nodwch yr anhawster wrth ddeall meini prawf marcio. Yn aml mae myfyrwyr wedi arfer \u00e2 diffiniadau cul iawn o lwyddiant gyda datganiadau clir sy\u2019n \u2018ennill\u2019 pwyntiau iddynt. O gyfuno hyn ag ofn methu, sy\u2019n gyffredin, gall danseilio eu dealltwriaeth o\u2019r meini prawf. Yn ogystal, mae\u2019n bosibl eu bod yn teimlo na allant farnu eu galluoedd eu hunain yn dda yn y cyd-destun newydd hwn (prifysgol). Gall trafodaethau gr\u0175p, nid ar ystyr meini prawf, ond ar yr hyn mae myfyrwyr yn credu yw eu hystyr, helpu i nodi jargon sydd angen eglurhad, gadael i staff egluro eu dealltwriaeth bersonol (os mai nhw sy\u2019n marcio) a gadael i fyfyrwyr ofyn am eglurhad cyn dechrau ar asesiad.<\/li><li>Tynnwch sylw\u2019r myfyrwyr at y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau (y <em>beth<\/em> a\u2019r <em>pa mor dda<\/em> \u2013 a sut y caiff hyn ei amlygu yn eich disgyblaeth chi).<\/li><li>Bydd neilltuo amser i ymarfer marcio cymheiriaid yn defnyddio\u2019r meini prawf perthnasol gyda thrafodaeth gr\u0175p ddilynol yn helpu myfyrwyr i ddeall y broses yn well.<\/li><li>Bydd annog myfyrwyr i farcio eu gwaith eu hunain cyn cyflwyno gan ddefnyddio\u2019r meini prawf priodol hefyd yn eu helpu i ddeall y broses yn well.<\/li><li>Gall fod yn ddefnyddiol iawn defnyddio enghreifftiau patrymol i ddangos y meini prawf a\u2019r safonau gydag enghreifftiau penodol. Gall hyn gynnwys myfyrwyr yn marcio enghraifft yn ystod y sesiwn, gyda thrafodaeth ddilynol; enghreifftiau wedi\u2019u hanodi sy\u2019n rhoi cipolwg i\u2019r myfyrwyr ar y broses farcio; neu sesiynau adborth byw lle mae myfyrwyr yn cyflwyno detholiadau o waith sydd ar y gweill a ddefnyddir (yn ddienw) i ddangos y broses farcio i\u2019r gr\u0175p cyfan. Yna mae hyn yn caniat\u00e1u ar gyfer cwestiynau ac eglurder ar y penderfyniadau mae marciwr yn eu gwneud wrth weithio drwy gyflwyniad. Efallai y bydd staff yn poeni bod myfyrwyr yn ystyried yr enghreifftiau fel \u201cyr unig ffordd gywir\u201d i ymateb i gyfarwyddyd asesiad &#8211; gall darparu amrywiaeth o enghreifftiau, yn enwedig rhai da, wrthweithio\u2019r duedd hon. Gellir defnyddio mathau gwahanol o enghreifftiau:<ul><li>Efallai mai \u2018gwir\u2019 aseiniadau yw\u2019r gorau oherwydd eu cymhlethdod cynhenid (cyhyd \u00e2 bod myfyrwyr y defnyddir eu gwaith yn cydsynio a bod y gwaith yn ddienw).<\/li><li>Gall enghreifftiau sydd wedi\u2019u llunio wneud y nodweddion asesu\u2019n fwy gweladwy.<\/li><li>Gallai detholiadau (yn hytrach na darnau llawn) fod yn fwy priodol pan fydd myfyrwyr yn dechrau edrych am y meini prawf a sut i\u2019w trosi i\u2019r gwaith yn ogystal \u00e2 lleddfu pryderon staff am l\u00ean-ladrad.<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Yn ystod yr asesiad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Defnyddiwch yr un iaith: gwneud y cysylltiad rhwng meini prawf asesu, safonau pwnc, a safonau\u2019r brifysgol yn glir drwy ddefnyddio\u2019r un derminoleg mewn adborth ag sy\u2019n ymddangos yn y meini prawf asesu a\u2019r datganiadau meincnodi pwnc.<\/li><li>Os bydd marcwyr lluosog yn ymwneud \u00e2 gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ar yr un asesiad, gall cael enghreifftiau i gyfeirio atynt helpu i sicrhau safonau clir ar draws carfannau mwy o faint.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Ar \u00f4l yr asesiad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyfeiriwch y myfyrwyr yn \u00f4l at y meini prawf asesu a\u2019r trafodaethau blaenorol pan fyddant yn cael adborth a marciau.<\/li><li>Pwysleisiwch y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Dyw cyflwyno\u2019r meini prawf asesu i\u2019r myfyrwyr ddim yn ddigon. Mae\u2019n hanfodol fod staff yn nodi ac yn egluro\u2019r gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau ac yn egluro iaith y meini prawf asesu drwy archwilio\u2019r wybodaeth ddealledig sydd gan staff yn sgil eu profiad. Bydd defnyddio enghreifftiau a thrafodaethau gr\u0175p ar y rhain i bwysleisio sut mae meini prawf a safonau\u2019n trosi i gyflwyniad yn cynnig cipolwg i\u2019r myfyrwyr ar y broses farcio sy\u2019n eu galluogi i ddeall yn well yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Yn olaf, dylai staff annog myfyrwyr yn barhaus i wneud defnydd o argaeledd y meini prawf asesu wrth weithio ar eu hasesiadau, a dylai hyn alluogi\u2019r myfyrwyr i deimlo eu bod wedi cael paratoad gwell a bod ganddynt well ffocws yn eu hymatebion.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfeiriadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>References:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Molesworth, M., Scullion, R., and Nixon, E. (eds.) (2011) <em>The Marketisation of Higher Education and the Student as Consumer<\/em>, London: Routledge<\/p>\n\n\n\n<p>Worth, N. (2014) \u2018Student-focused Assessment Criteria: Thinking Through Best Practice\u2019, <em>Journal of Geography in Higher Education<\/em>, 38:3, pp. 361-372; DOI: 10.1080\/03098265.2014.919441<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan Feini Prawf Asesu nifer o swyddogaethau: gwneud y broses farcio\u2019n dryloyw; darparu eglurder ynghylch yr hyn sy\u2019n cael ei asesu a sut; sicrhau tegwch ar draws yr holl gyflwyniadau; a rhoi sicrwydd ansawdd o ran datganiadau meincnodi pynciau. Er bod pob un o\u2019r rhesymau hyn yn ddilys ac yn anrhydeddus, mae nifer o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":58742,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-3075","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-NB","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3075","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/58742"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3075"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3075\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3081,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3075\/revisions\/3081"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3075"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3075"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3075"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}