{"id":2976,"date":"2019-01-09T19:01:00","date_gmt":"2019-01-09T19:01:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2976"},"modified":"2021-05-18T19:02:31","modified_gmt":"2021-05-18T18:02:31","slug":"offer-sydd-ar-gael-iw-llogi-gan-y-gwasanaethau-gwybodaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/01\/09\/offer-sydd-ar-gael-iw-llogi-gan-y-gwasanaethau-gwybodaeth\/","title":{"rendered":"Offer sydd ar gael i\u2019w Llogi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth offer sydd ar gael i\u2019w llogi i gynorthwyo\u2019r dysgu a\u2019r addysgu. Mae rhestr lawn o offer sydd ar gael i\u2019w benthyca gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/loans\/\">yma<\/a>. I logi\u2019r offer, e-bostiwch <a href=\"mailto:gg@aber.ac.uk\">gg@aber.ac.uk<\/a> \/ 01970 62 2400 gyda\u2019ch gofynion.<\/p>\n\n\n\n<p>Isod ceir rhai o\u2019r eitemau a allai fod o ddiddordeb penodol.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Lego<\/h1>\n\n\n\n<p>Coventry Disruptive Media Learning Lab oedd ein siaradwyr gwadd yn y Gynhadledd Dysgu ac addysgu flynyddol y llynedd. Yn ogystal \u00e2\u2019u cyflwyniad, gwnaethant hefyd gynnal rhai gweithdai i\u2019r unigolion a fynychodd y gynhadledd. Cafodd un o\u2019r gweithdai hyn ei arwain gan Oliver Wood, cynhyrchydd cymunedol yn DMLL, ac roedd yn canolbwyntio ar chwarae gyda LEGO i Ehangu Dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd eu dulliau yn adeiladu ar <a href=\"https:\/\/www.lego.com\/en-us\/seriousplay\">fethodoleg Serious Play LEGO<\/a> ac yn ei haddasu ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Ceir rhagor o wybodaeth ar sut yr oeddent yn defnyddio LEGO ar eu <a href=\"http:\/\/flipped.coventry.ac.uk\/lego\/#1521729917847-616c26f8-2659\">tudalennau gwe<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir recordiad o\u2019r gweithdy o\u2019r gynhadledd <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=f91fb1e5-94df-4750-8114-a95800ad53a3\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y sesiwn yn adeiladu ar gynhadledd fer y llynedd, Chwarae o Ddifrif ar gyfer Dysgu, a oedd yn dangos sut yr oedd LEGO yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau ledled y Brifysgol. Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth 4 bocs mawr ac 1 bocs bach o LEGO ar gael i\u2019w llogi.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Pensetiau Realiti Rhithwir a Chamera 3D<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae nifer o Bensetiau Realiti Rhithwir a Chamera 3D ar gael i\u2019w benthyca gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o Realiti Rhithwir mewn Dysgu ac Addysgu. Mae <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/education\/staff-profiles\/listing\/profile\/sta\/\">Dr Steve Atherton<\/a>, Darlithydd yn yr Adran Addysg, yn defnyddio Realiti Rhithwir i drochi myfyrwyr mewn amgylcheddau gwahanol a phrofi plentyndod ac addysg o wahanol gyd-destunau. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch sut mae Steve yn defnyddio Realiti Rhithwir trwy wylio\u2019r <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=ooeZaOrHPl8&amp;feature=youtu.be\">fideo<\/a> hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol y llynedd, gwnaeth Joe Smith ac Aled John o\u2019r T\u00eem Marchnata gyflwyno gweithdy ar ddefnyddio Camera 3D a gogls Realiti Rhithwir. Ceir recordiad o\u2019r gweithdy <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=9ce42429-2980-471f-a1da-a95900f31e45\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Seinyddion Jabra<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosibl llogi seinyddion gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer sesiynau Skype for Business hefyd. Mae Skype for Business ar gael yn rhan o danysgrifiad Office 365 y Brifysgol. Gallwch osod a defnyddio Skype for Business o gysur eich swyddfa eich hun.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi gweld cydweithwyr ledled y Brifysgol yn defnyddio Skype for Business ar gyfer sesiynau gweminar i fyfyrwyr sydd allan ar leoliad a hefyd i gynnig sesiynau adolygu i fyfyrwyr i baratoi ar gyfer eu harholiadau. Gallai Skype for Business fod yn ddefnyddiol i\u2019r rhai sy\u2019n gweithio gyda myfyrwyr Dysgu o Bell i ddarparu amgylcheddau ystafell ddosbarth rhithwir. Mae gan Skype for Business rai nodweddion rhyngweithiol hefyd, megis pleidleisio byw, a all helpu i ehangu\u2019r sesiwn ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae canllaw ar sut i ddefnyddio Skype for Business ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu ar gael ar ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Skype-for-Business-Guide.pdf\">tudalennau gwe<\/a>. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Skype for Business ac yr hoffech drafod ymhellach neu os oes arnoch angen unrhyw gymorth, cysylltwch \u00e2\u2019r Gr\u0175p E-ddysgu (eddysgu@aber.ac.uk \/ 01970 62 2472).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth offer sydd ar gael i\u2019w llogi i gynorthwyo\u2019r dysgu a\u2019r addysgu. Mae rhestr lawn o offer sydd ar gael i\u2019w benthyca gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael yma. I logi\u2019r offer, e-bostiwch gg@aber.ac.uk \/ 01970 62 2400 gyda\u2019ch gofynion. Isod ceir rhai o\u2019r eitemau a allai fod o ddiddordeb penodol. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[594,560,626,608],"tags":[],"class_list":["post-2976","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-digwyddiadau-a-rhwydweithiau","category-gynhadledd","category-hyfforddiant-a-chymorth","category-offer-eraill"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-M0","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2976","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2976"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2976\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2979,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2976\/revisions\/2979"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2976"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2976"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2976"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}