{"id":2950,"date":"2019-02-06T15:20:00","date_gmt":"2019-02-06T15:20:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2950"},"modified":"2021-05-18T15:22:39","modified_gmt":"2021-05-18T14:22:39","slug":"canolfan-raddau-blackboard","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/02\/06\/canolfan-raddau-blackboard\/","title":{"rendered":"Canolfan Raddau Blackboard"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019n debyg mai\u2019r Ganolfan Raddau yw\u2019r elfen fwyaf grymus o fodiwl Blackboard, ac eto nid yw\u2019n cael ei ddefnyddio llawer. Mae Canolfan Raddau ar gyfer pob modiwl Blackboard, ond pa mor aml fyddwch chi\u2019n ei defnyddio ac a ydych yn cael budd digonol ohoni elwa ohoni? Rwy\u2019n ffan enfawr o Ganolfan Raddau Blackboard felly rwy\u2019n defnyddio\u2019r gyfres hon o bostiadau ar fy mlog i\u2019ch cyflwyno chi i rai o\u2019r nodweddion cudd a allai wneud eich gwaith marcio ac asesu yn haws.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r postiad cyntaf yn ymwneud \u00e2 sefydlu\u2019r Ganolfan Raddau. Fel llawer o bethau, deuparth y gwaith yw ychydig bach o feddwl a chynllunio cyn ichi ddechrau. Bydd ychydig o waith trefnu ymlaen llaw yn gwneud eich gwaith yn dipyn haws yn y tymor hir.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, pa fath o bethau ddylech chi eu hystyried?<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li><strong>Trefnu cyn creu<\/strong>. Ychwanegir rhai nodweddion fel categor\u00efau a Chyfnodau Graddio at y colofnau wrth ichi eu creu. Mae\u2019n ddefnyddiol i sefydlu\u2019r rhain yn gyntaf, yn hytrach na mynd yn \u00f4l a golygu wedyn (er bod hynny yn bosib).<ol><li><strong>Categor\u00efau <\/strong>Ceir categor\u00efau mewnol ar gyfer mathau o offer (e.e. Profion, Aseiniadau) a.y.y.b. sy\u2019n cael eu rhoi ar waith yn awtomatig wrth ichi eu creu. Ond gallwch hefyd greu eich categor\u00efau eich hun. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cael categori ar gyfer Arholiadau neu Gyflwyniadau. Gallwch hefyd wneud cyfrifiadau ar sail categori colofn gan ddefnyddio dewisiadau\u2019r Golofn Gyfrifiedig. <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Customize_Grading_Interface\/Grade_Categories\">Help Blackboard ar Gategor\u00efau<\/a>.<\/li><li><strong>Cyfnodau Graddio<\/strong>. Cyfnodau marcio\u2019r gwaith yw\u2019r rhain. Byddai hyn yn ddefnyddiol os ydych yn cyflwyno marciau\u2019n uniongyrchol i\u2019r Ganolfan Raddau ar gyfer modiwl hir a thenau. Gallech gael cyfnod graddio Semester 1 a Semester 2 ac yna hidlo yn \u00f4l y rhain er mwyn i chi weld y colofnau perthnasol yn unig. <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Customize_Grading_Interface\/Grading_Periods\">Help Blackboard ar Gyfnodau Marcio<\/a>.<\/li><\/ol><\/li><li><strong>A oes angen colofnau ychwanegol arnoch?<\/strong> Mae unrhyw beth y gallwch ei raddio yn Blackboard yn cynhyrchu Canolfan Raddio wrth ichi ei greu. Felly, os oes gennych Aseiniad Turnitin, Cylch Trafod graddedig neu Wici, bydd gennych eisoes golofn yn y Ganolfan Raddau. Os hoffech storio marciau ar gyfer cyflwyniadau, arholiadau, profion dosbarth, arholiadau llafar, a.y.y.b., gallwch greu eich colofnau eich hun. <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Grade_Columns\">Help Blackboard ar Greu Colofnau.<\/a><\/li><li>Meddyliwch yn ofalus wrth roi enw i\u2019ch colofnau (colofnau wedi\u2019u creu gennych chi, neu\u2019r rhai sy\u2019n cael eu creu wrth osod Turnitin a.y.y.b.). Dylent fod yn ystyrlon ac yn hawdd i ddeall pa elfen asesu maent yn perthyn iddi. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth fapio elfennau ar gyfer trosglwyddo marciau. Problem gyffredin yw fod gennych ddau bwynt e-gyflwyno a\u2019r ddau yn dwyn yr enw Traethawd; gwnewch yn si\u0175r eich bod yn defnyddio teitlau sy\u2019n gwneud synnwyr fel Traethawd 1 a Thraethawd 2 neu Traethawd Maeth a Thraethawd Ymarfer Corff.<\/li><li><strong>A hoffech wneud cyfrifiadau neu gyfuno marciau?<\/strong> Mae AStRA yn pwysoli eich aseiniadau wrth gyfrifo\u2019r marc cyffredinol ar ddiwedd y modiwl, ond efallai y byddwch yn dymuno grwpio aseiniadau bach ynghyd i wneud cyfrifiadau neu i ddangos i\u2019r myfyrwyr. Er enghraifft, efallai bod gennych set o brofion wythnosol sy\u2019n ffurfio un elfen o\u2019r asesu ar gyfer y modiwl. I wneud hyn, gallwch greu un o\u2019r colofnau cyfrifiedig. <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Grading_Tasks\/Calculate_Grades\">Help Blackboard ar Golofnau Cyfrifiedig<\/a>.<\/li><li><strong>Beth hoffech chi i\u2019r myfyrwyr ei weld?<\/strong> Mae\u2019r rhan fwyaf o bobl yn gwybod eich bod yn gallu cuddio colofnau\u2019r Ganolfan Raddau rhag y myfyrwyr, ond a oeddech yn gwybod bod Prif Arddangosiad ac Arddangosiad Eilaidd? Mae hyn yn golygu y gallwch ddangos llythyren i\u2019r myfyrwyr, neu ddangos bod y gwaith wedi\u2019i farcio, heb ddangos y radd. Dyma ffordd o roi adborth cyn rhyddhau marc.<\/li><li><strong>Gwylio a hidlo<\/strong>. Ceir nifer o ffyrdd o drefnu eich Canolfan Raddau i\u2019ch helpu i weld y pethau y dymunwch eu gweld yn unig. Gan ddibynnu ar sawl colofn sydd gennych a\u2019r hyn sydd angen ei wneud, efallai bydd un o\u2019r isod yn ddefnyddiol:<ol><li><strong>Golygon Call<\/strong> <strong>ac Ychwanegu fel Ffefryn<\/strong>. Chi\u2019n gwybod am yr eitemau Angen eu Marcio ac Aseiniadau yn y Ganolfan Raddau Gyflawn yn eich dewislen? Llwybrau byrion yw\u2019r rhain sy\u2019n eich cysylltu \u00e2 golygon hidledig o\u2019r Ganolfan Raddau. A wyddech chi eich bod yn gallu ychwanegu eich llwybrau byrion eich hun yma, gan ddefnyddio categor\u00efau neu grwpiau o fyfyrwyr fel y meini prawf? <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Customize_Grading_Interface\/Smart_Views\">Help Blackboard ar Golygon Call<\/a>.<\/li><li><strong>Hidlo<\/strong>. Fel taenlenni Excel, mae\u2019n bosib hidlo eich golwg o\u2019r Ganolfan Raddau, i ddangos setiau penodol o wybodaeth yn unig. <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Navigate_Grading\">Help Blackboard ar Hidlo.<\/a><\/li><\/ol><\/li><li><strong>Codio lliw<\/strong>. Dyma fy ffefryn personol i. Gallwch roi cod lliw i\u2019r Ganolfan Raddau i ddangos yn sydyn pa fyfyrwyr sy\u2019n cael marciau uchel iawn, a pha fyfyrwyr y gallai fod angen rhagor o help arnynt. Mae\u2019n ddefnyddiol iawn ar gyfer profion sy\u2019n cael eu marcio\u2019n awtomatig ac efallai na byddwch yn gweld y canlyniadau\u2019n syth. Mae\u2019n ffordd weledol sydyn o weld pwy allai fod angen rhagor o help. <a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/cy-gb\/Learn\/Instructor\/Grade\/Customize_Grading_Interface\/Color_Code_the_Grade_Data\">Help Blackboard ar godio lliw<\/a>.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Bydd rhifyn nesaf y gyfres hon yn trafod marcio ac ymdrin \u00e2 graddau. Os hoffech gymorth i sefydlu eich Canolfan Raddau, cysylltwch \u00e2 mi a gallwn drafod eich gofynion a mynd ati i\u2019w rhoi ar waith.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n debyg mai\u2019r Ganolfan Raddau yw\u2019r elfen fwyaf grymus o fodiwl Blackboard, ac eto nid yw\u2019n cael ei ddefnyddio llawer. Mae Canolfan Raddau ar gyfer pob modiwl Blackboard, ond pa mor aml fyddwch chi\u2019n ei defnyddio ac a ydych yn cael budd digonol ohoni elwa ohoni? Rwy\u2019n ffan enfawr o Ganolfan Raddau Blackboard felly rwy\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8053,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[630,544,582],"tags":[],"class_list":["post-2950","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-amgylchedd-dysgu-rhithwir-vle","category-blackboard-cy","category-e-gyflwyno"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-LA","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2950","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8053"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2950"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2950\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2952,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2950\/revisions\/2952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2950"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2950"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2950"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}