{"id":2919,"date":"2019-03-14T13:06:00","date_gmt":"2019-03-14T13:06:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2919"},"modified":"2021-05-18T13:08:35","modified_gmt":"2021-05-18T12:08:35","slug":"cipio-darlithoedd-yn-effeithiol-awgrymiadau-i-staff-a-myfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/03\/14\/cipio-darlithoedd-yn-effeithiol-awgrymiadau-i-staff-a-myfyrwyr\/","title":{"rendered":"Cipio Darlithoedd yn Effeithiol: Awgrymiadau i staff a myfyrwyr"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn y blog hwn byddwn yn edrych at sut y gallwn gipio darlithoedd yn fwy effeithiol i ehangu dysgu a chofio gwybodaeth. Byddwn yn adeiladu ar ein blog blaenorol o\u2019r enw <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2019\/01\/31\/making-use-of-the-captioning-and-quiz-function-in-panopto\/\">Defnyddio\u2019r adnodd capsiynau a chwis yn Panopto.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r awgrymiadau a\u2019r drafodaeth isod yn seiliedig ar bapur sy\u2019n cael ei gyhoeddi eleni gan seicolegwyr o Brifysgolion Glasgow, Dundee, Sheffield ac Aberdeen, ar y cyd \u00e2 staff o\u2019r Gwasanaethau TG ym Mhrifysgol Manceinion. Mae\u2019r papur, \u2018<a href=\"https:\/\/doi.org\/10.31234\/osf.io\/sd7u4\">Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers<\/a>\u2019, wedi cael ei ysgrifennu o fewn cyd-destun dysgu hunanreoledig ac mae\u2019n cynnig cyfarwyddyd i staff a myfyrwyr ar sut i fanteisio i\u2019r eithaf ar recordiadau darlith. Gwnaeth Prifysgol Aberystwyth gyflwyno ei <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/regulations\/lecture-capture-policy\/\">Pholisi Cipio Darlithoedd<\/a> yn 2016 yn sgil cyflwyno Panopto yn 2013. Gan fod cipio darlithoedd wedi cynyddu ledled y sector Addysg Uwch yn y DU<a href=\"#_ftn1\">[1]<\/a>, mae\u2019r ffocws yn symud nawr i sut mae\u2019n gweithio o ran dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r erthygl ar gael <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.31234\/osf.io\/sd7u4\">ar-lein<\/a> ac mae wedi\u2019i rhannu\u2019n 4 adran:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Cyflwyniad<\/li><li>Dysgu hunanreoledig fel fframwaith damcaniaethol ar gyfer gweithredu cipio darlithoedd<\/li><li>Argymhellion i fyfyrwyr<\/li><li>Argymhellion i staff<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, mae awduron yr astudiaeth wedi creu ffeithlun i fyfyrwyr sy\u2019n cynnwys eu prif ddarganfyddiadau:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1513\" height=\"1018\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/03\/Using-lecture-recordings.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-418\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Nordmann et al. 2018.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ffeithlun llawn ar gael <a href=\"https:\/\/osf.io\/e9cqu\/\">ar-lein<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Trafododd y Gr\u0175p E-ddysgu\u2019r papur hwn yn rhan o\u2019r awr hyfforddiant t\u00eem rheolaidd. Isod ceir rhai o\u2019r pwyntiau yr hoffem eu hamlygu i staff a myfyrwyr:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dylai myfyrwyr ystyried y recordiadau fel <strong>ychwanegiad<\/strong> at eu dysgu ac nid i gymryd lle presenoldeb. Mae astudiaethau wedi dangos bod presenoldeb yn y sesiwn fyw yn golygu perthynas gryfach o ran y radd derfynol gyda chipio darlithoedd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo\u2019r dysgu.<a href=\"#_ftn2\">[2]<\/a><\/li><li>Cyflwynwch y myfyrwyr i system cymryd nodiadau <strong>Cornell <\/strong>a\u2019u hannog i gymryd nodiadau yn ystod darlithoedd. Mae cymryd nodiadau yn helpu\u2019r gallu i gadw gwybodaeth, ond mae\u2019n dasg sy\u2019n golygu ymdrech gwybyddol felly gall defnyddio strategaethau megis system cymryd nodiadau Cornell helpu myfyrwyr i fanteisio i\u2019r eithaf arno. Mae fideo sy\u2019n cyflwyno nodiadau Cornell ar gael <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=ErSjc1PEGKE\">yma<\/a>.<\/li><li>Ymgorfforwch adolygu recordiadau fideo i\u2019r gweithgareddau <strong>\u2018gwaith cartref\u2019<\/strong>, gan eu hannog i fynd drwy\u2019u nodiadau ac ail-wylio adrannau penodol o\u2019r recordiadau\u2019n unig. Dylai myfyrwyr ail-wylio\u2019r ddarlith o fewn rhai diwrnodau i fynychu\u2019r sesiwn, ond nid yn syth ar \u00f4l y sesiwn. Mae cael toriad rhwng adolygu yn cynyddu\u2019r gallu i gadw gwybodaeth. Mae gwylio\u2019r fideo yn llawn yn ei gwneud hi\u2019n fwy tebygol y byddant yn cael trafferth canolbwyntio, felly dylai myfyrwyr ganolbwyntio ar yr adrannau hynny nad ydynt yn eu cofio na\u2019u deall a defnyddio\u2019r recordiad i wella\u2019r nodiadau y gwnaethant eu cymryd yn y lle cyntaf. Dylent adolygu eu nodiadau wrth wylio\u2019r recordiad.<\/li><li>Os bydd <strong>myfyriwr yn colli darlith<\/strong> fe\u2019u cynghorir i wylio\u2019r recordiad yn llawn cyn gynted \u00e2 phosibl ac yna ail-wylio\u2019r recordiad ymhen rhai diwrnodau gan wylio adrannau penodol fel y nodwyd uchod. Dylent wylio\u2019r recordiad ar y cyflymder arferol a chymryd nodiadau wrth wylio yn yr un modd ag y buasent yn ei wneud mewn sesiwn fyw.<\/li><li>Defnyddio\u2019r <strong>gweithgareddau dysgu gweithredol <\/strong>\u2013 gallai\u2019r rhain gynnwys trafodaethau gyda chymheiriaid, cwestiynau ymarfer ar ddiwedd y sesiwn, pleidleisio yn y dosbarth. Mae tystiolaeth yn dangos bod mwy o weithgareddau rhyngweithiol yn fwy tebygol o annog myfyrwyr i ddod i\u2019r darlithoedd yn hytrach na gwylio\u2019r recordiad. Ystyriwch ddefnyddio cwisiau yn Panopto i brofi eu gwybodaeth neu i weld a ydynt wedi deall y deunydd: <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2771\">https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2771<\/a><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Byddwn yn mewnosod yr awgrymiadau o\u2019r papur hwn i\u2019n sesiynau hyfforddi sydd i ddod<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>E-ddysgu Uwch: Defnyddio Offer E-ddysgu ar gyfer Gweithgareddau Adolygu (27 Mawrth am 3yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu)<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gallwch archebu lle ar y sesiynau hyn <a href=\"https:\/\/stafftraining.bis.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym bob amser yn chwilio am flogwyr gwadd felly os ydych chi\u2019n defnyddio Panopto mewn ffordd benodol, e-bostiwch ni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfeiriadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cred\u00e9, M., Roch, S.G., &amp; Kieszczynka, U. M. (2010). Class attendance in college: A meta-analytic review of the relationship of class attendance with grades and student characteristics. <em>Review of Educational Research, 80 (2), 272-295.<\/em> <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.3102%2F0034654310362998\">https:\/\/doi.org\/10.3102%2F0034654310362998<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Newland, B. (2017). <em>Lecture Capture in UK HE: A HeLF Survey Report. <\/em>Heads of eLearning Forum, a gafwyd o <a href=\"https:\/\/drive.google.com\/file\/d\/0Bx0Bp7cZGLTPRUpPZ2NaaEpkb28\/view\">https:\/\/drive.google.com\/file\/d\/0Bx0Bp7cZGLTPRUpPZ2NaaEpkb28\/view<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Nordmann, E., Kuepper-Tetzel, C. E., Robson, L., Phillipson, S., Lipan, G., &amp; Mcgeorge, P. (2018). Lecture capture: Practical recommendations for students and lecturers. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.31234\/osf.io\/sd7u4\">https:\/\/doi.org\/10.31234\/osf.io\/sd7u4<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"#_ftnref1\">[1]<\/a> Mae Newland, 2017 yn adrodd bod gan 86% o Sefydliadau Addysg Uwch dechnoleg cipio darlithoedd.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"#_ftnref2\">[2]<\/a> Gweler Cred\u00e9, Roch a Kieszcynka (2010).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y blog hwn byddwn yn edrych at sut y gallwn gipio darlithoedd yn fwy effeithiol i ehangu dysgu a chofio gwybodaeth. Byddwn yn adeiladu ar ein blog blaenorol o\u2019r enw Defnyddio\u2019r adnodd capsiynau a chwis yn Panopto. Mae\u2019r awgrymiadau a\u2019r drafodaeth isod yn seiliedig ar bapur sy\u2019n cael ei gyhoeddi eleni gan seicolegwyr o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[626,614],"tags":[],"class_list":["post-2919","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-hyfforddiant-a-chymorth","category-panopto-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-L5","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2919","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2919"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2919\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2922,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2919\/revisions\/2922"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2919"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2919"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2919"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}