{"id":2886,"date":"2019-05-01T12:50:00","date_gmt":"2019-05-01T11:50:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2886"},"modified":"2021-05-18T12:52:05","modified_gmt":"2021-05-18T11:52:05","slug":"padlet-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/05\/01\/padlet-2\/","title":{"rendered":"Padlet"},"content":{"rendered":"\n<p>[Yn ystod yr wythnosau diwethaf, b\u00fbm yn dilyn cwrs FutureLearn o\u2019r enw <em>Using Technology in Evidence-Based Teaching and Learning<\/em> sy\u2019n cael ei redeg gan y Coleg Addysgu Siartedig ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau dysgu mewn addysg gynradd ac uwchradd. Er bod y cyd-destun yn wahanol i addysg uwch, bu\u2019n gwrs diddorol a goleuedig iawn. Bu\u2019n ddefnyddiol i ganfod mwy am y system addysg y daw ein myfyrwyr ohoni, ac mae\u2019n dda hefyd i ddysgu mwy am wahanol offerynnau a thechnolegau na ddefnyddiwn i\u2019r un graddau efallai mewn prifysgolion.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"253\" height=\"187\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/05\/padlet-capture.png\" alt=\"Screenshot of a Padlet board\" class=\"wp-image-490\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r offerynnau y mae athrawon mewn ysgolion yn ei ddefnyddio\u2019n aml yw Padlet. Gwyddom fod Padlet yn cael ei ddefnyddio mewn prifysgolion ac efallai bod defnyddwyr Padlet ymhlith ein darllenwyr. Ond, nid oedd yn rhywbeth yr oeddwn i wedi\u2019i ddefnyddio ryw lawer, felly penderfynais gael golwg arno.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Padlet (<a href=\"https:\/\/padlet.com\/\">https:\/\/padlet.com\/<\/a>) yn ei ddisgrifio ei hun yn \u2018feddalwedd cynhyrchiant\u2019 sy\u2019n gwneud cydweithredu yn haws. Fe\u2019i cynlluniwyd o amgylch y syniad o wal neu fwrdd y gallwch chi a defnyddwyr eraill ychwanegu cerdiau neu nodiadau ato. Gall y cerdiau gynnwys testun, lluniau, dolenni cyswllt, fideos a ffeiliau.<\/p>\n\n\n\n<p>I greu bwrdd Padlet, bydd yn rhaid ichi greu cyfrif \u2013 gallwch gael cyfrif am ddim sy\u2019n darparu 3 bwrdd a hawl i uwchlwytho 10Mb. Byddwch hefyd yn gweld hysbysebion yn y fersiwn hwn. Gallwch gofrestru drwy Google neu greu eich cyfrif eich hun. Gall myfyrwyr gyfrannu at y byrddau heb greu cyfrif, ond os byddant yn dymuno gwybod pwy sydd wedi postio beth, bydd yn rhaid iddynt greu cyfrif. Gall byrddau fod yn breifat neu\u2019n gyhoeddus, a gallwch reoli pwy i\u2019w gwahodd i bostio i\u2019r byrddau. (Mynnwch olwg ar ein <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/03\/13\/online-polling-services-and-privacy-issues\/\">post ar feddalwedd pleidleisio ac ystyriaethau preifatrwydd<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir dau ddefnydd posibl amlwg ar gyfer Padlet \u2013 gweithgareddau curadu neu ymchwilio yw\u2019r cyntaf, a chasglu adborth i fyfyrwyr yw\u2019r ail.<br>Gallwch ddod o hyd i lawer o astudiaethau achos o ysgolion, colegau a phrifysgolion yn defnyddio Padlet i alluogi myfyrwyr i gasglu adnoddau a deunyddiau ar y cyd, e.e. ar gyfer cyflwyniadau a phrosiectau gr\u0175p neu ar gyfer paratoi seminarau. Mae gwaith israddedigion Blwyddyn Sylfaen Seicoleg Prifysgol Sussex yn enghraifft hyfryd (<a href=\"https:\/\/journals.gre.ac.uk\/index.php\/compass\/article\/view\/714\">https:\/\/journals.gre.ac.uk\/index.php\/compass\/article\/view\/714<\/a>)<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosib y bydd llawer ohonom hefyd wedi gweld Padlet yn cael ei ddefnyddio i hwyluso rhyngweithio mewn darlithoedd neu gyflwyniadau. Gall myfyrwyr bostio eu cwestiynau ar wal Padlet yn ystod darlith i alluogi\u2019r darlithydd i weld sylwadau a chwestiynau. O\u2019i ddefnyddio yn y modd hwn, mae gan Padlet rai o\u2019r un offerynnau \u00e2 mathau eraill o feddalwedd pleidleisio. Er nad yw\u2019n galluogi cyfranogwyr i ateb cwestiynau, mae\u2019n ffordd wych o gasglu ymatebion ysgrifenedig y gellir eu defnyddio\u2019n ddiweddarach, neu eu harchifo i gyfeirio atynt yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir set ddefnyddiol iawn o adnoddau o Brifysgol Derby (<a href=\"https:\/\/digitalhandbook.wp.derby.ac.uk\/menu\/toolbox\/padlet\/\">https:\/\/digitalhandbook.wp.derby.ac.uk\/menu\/toolbox\/padlet\/<\/a>). Dylech fod yn ymwybodol fod y set yn cynnwys gwybodaeth benodol ar gyfer staff Derby, ond dylai\u2019r syniadau fod yn ddefnyddiol i chi. Os ydych eisoes yn defnyddio Padlet, cysylltwch \u00e2 ni; rydym yn chwilio am flogwyr gwadd o hyd. Gallech chi hefyd ystyried cyflwyno cynnig ar gyfer <a href=\"https:\/\/aber.onlinesurveys.ac.uk\/7fed-gynhadledd-dysgu-ac-addysgu\">papur yn y gynhadledd Dysgu ac Addysgu ym mis Gorffennaf<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>[Yn ystod yr wythnosau diwethaf, b\u00fbm yn dilyn cwrs FutureLearn o\u2019r enw Using Technology in Evidence-Based Teaching and Learning sy\u2019n cael ei redeg gan y Coleg Addysgu Siartedig ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau dysgu mewn addysg gynradd ac uwchradd. Er bod y cyd-destun yn wahanol i addysg uwch, bu\u2019n gwrs diddorol a goleuedig iawn. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8053,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[608],"tags":[],"class_list":["post-2886","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-offer-eraill"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Ky","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2886","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8053"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2886"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2886\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2889,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2886\/revisions\/2889"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2886"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2886"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2886"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}