{"id":2883,"date":"2019-05-02T12:49:00","date_gmt":"2019-05-02T11:49:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2883"},"modified":"2021-05-18T12:49:55","modified_gmt":"2021-05-18T11:49:55","slug":"myfyrdodaur-grwp-e-ddysgu-ar-y-gynhadledd-fach-ddiweddar","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/05\/02\/myfyrdodaur-grwp-e-ddysgu-ar-y-gynhadledd-fach-ddiweddar\/","title":{"rendered":"Myfyrdodau\u2019r Gr\u0175p E-ddysgu ar y Gynhadledd Fach ddiweddar"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"236\" height=\"318\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/05\/Final.jpg\" alt=\"E-learning Group\" class=\"wp-image-498\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Yn dilyn y <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/cynhadleddferacademi\/2019\/\">Gynhadledd Fach ddiweddar ar Addysg Gynhwysol<\/a>, rydym wedi bod yn myfyrio ar ein profiad o\u2019r digwyddiad. Mae pob aelod o\u2019r Gr\u0175p E-ddysgu wedi ysgrifennu darn byr ar un agwedd ar y Gynhadledd Fach.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Niwroamrywiaeth<\/h1>\n\n\n\n<p>Roedd sesiwn Janet a Caroline yn ddiddorol o ran y pwnc a\u2019r ffordd y cafodd ei gyflwyno. Fel hyfforddwr, rwy\u2019n chwilio byth a hefyd am syniadau newydd a ffyrdd newydd o gyflwyno gwybodaeth, ac roedd llawer yn y sesiwn hwn. O ymarferion paru i waith gr\u0175p, roedd hwn yn gyflwyniad arbennig o weithredol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 helpu i ddeall bod ymennydd pawb yn gweithio\u2019n wahanol iawn, a bod y rheiny \u00e2 chyflwr niwroamrywiaeth yn aml yn gorfod gweithio\u2019n galed iawn i gyflawni tasgau y byddai pobl niwronodweddiadol yn eu cymryd yn ganiataol. Er y gallai hyn arwain at fwy o straen a llwyth gwaith, y mae hefyd yn fanteisiol gan y gall pobl \u00e2 niwroamrywiaeth hefyd fod yn gryf, yn greadigol a chanfod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio er mwyn cyrraedd eu deilliannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y sesiwn yn amlygu\u2019r ffaith fod llawer o arwyddion allanol niwroamrywiaeth yn debyg iawn, ac y gall newidiadau bach i\u2019r ffordd yr ydym yn addysgu fod o gymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyflwynodd Janet a Caroline eu sesiwn mewn ffordd ryngweithiol oedd yn ennyn diddordeb &#8211; a byddaf yn sicr yn cofio\u2019r ymarfer lle gwnaethom geisio egluro gwyliau heb ddefnyddio\u2019r llythyren e! Rhowch gynnig arni \u2026 bydd yn rhoi syniad sydyn i chi o sut mae gweithio o gwmpas rhywbeth y mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol yn arwain at waith caled iawn, a cham-gychwyn dro ar \u00f4l tro &#8211; ond hefyd ffordd newydd a gwahanol o fynegi eich hun.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Gwirydd Hygyrchedd<\/h1>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r sesiwn, mae gennyf bellach agwedd newydd tuag at yr offerynnau a ddefnyddiaf a\u2019r deunyddiau a luniaf ar gyfer fy myfyrwyr fel addysgwr.<br>Byddaf yn gwneud ymdrech i beidio \u00e2 meddwl am fyfyrwyr ag anghenion dysgu penodol fel unigolion y mae\u2019n rhaid imi greu deunyddiau pwrpasol personol ar eu cyfer. Nid oes gan fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol arddull ddysgu unigryw. Maen nhw\u2019n gwneud dewis fel ag y mae gweddill y myfyrwyr i ryw raddau. Mae\u2019n well meddwl y gall eu harddulliau dysgu neu ddewisiadau penodol fod o fudd i\u2019r holl fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddaf yn defnyddio offerynnau cynwysedig fel y <a href=\"https:\/\/support.office.com\/en-ie\/article\/use-the-accessibility-checker-to-find-accessibility-issues-a16f6de0-2f39-4a2b-8bd8-5ad801426c7f\">gwirydd<\/a> hygyrchedd yn Word. Nid oes angen anfon fy ngwaith at arbenigwr neu ddefnyddio rhaglenni cymhleth. Po fwyaf syml yw\u2019r deunyddiau a gynhyrchaf, &nbsp;gorau oll yw hynny ar gyfer cydweddu \u00e2 thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hygyrchedd yn golygu bod yn rhaid imi ddefnyddio ffont \u2018comic sans\u2019 ar gyfer pob dim. Pethau bach fel ychwanegu testun amgen ar gyfer llun, defnyddio teitlau a phenawdau\u2019n gywir yn hytrach na chwarae gyda ffontiau. Nid oes disgwyl i bob dim a gynhyrchaf gyfateb i lawysgrif euraidd. Rhaid iddo fod yn ymarferol er mwyn iddo ateb y gofyn o gyflwyno gwybodaeth, sef yr hyn a wnaf wrth addysgu beth bynnag.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (1)?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1256\" height=\"444\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/05\/What-do-you-hope-to-do-differently-1.-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-506\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Defnyddio Profion Blackboard i ehangu mynediad i ddysgu<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae Profion Blackboard yn ffordd wych o greu adnodd dysgu i fyfyrwyr. Fel technolegydd dysgu a rhywun sy\u2019n aml ond yn gweld ochr dechnegol profion, roedd yn ddefnyddiol iawn i glywed Jennifer Wood yn cyflwyno ei phrofiad ei hun o\u2019r manteision niferus o ddefnyddio\u2019r offeryn hwn. Mae Jennifer yn addysgu Sbaeneg yn yr Adran Ieithoedd Modern ac mae defnyddio profion wedi galluogi Jennifer i ryddhau amser gwerthfawr yn y dosbarth i ganolbwyntio ar drafodaethau mwy defnyddiol. Cyn defnyddio Profion Blackboard, byddai myfyrwyr yn treulio cyfran o\u2019u hamser yn y dosbarth yn gwneud profion. Bellach gall myfyrwyr brofi eu gwybodaeth a\u2019u dysgu y tu allan i\u2019r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd y maen nhw\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus ynddo. Gan ddibynnu ar y math o gwestiwn a ddewiswch (ceir llawer o fathau o gwestiynau), gall y profion gael eu marcio\u2019n awtomatig a gall yr adborth gael ei ryddhau i\u2019r myfyrwyr ar \u00f4l iddynt sefyll y prawf. &nbsp;Wrth gwrs, mae\u2019n rhaid gwneud peth gwaith ar gyfer profion a rhaid ichi sicrhau eich bod yn gwybod pam y dymunwch ddefnyddio\u2019r prawf er mwyn iddo fod yn ddefnyddiol i chi a\u2019ch myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel trwch cynnwys Blackboard, ceir llawer o osodiadau y gallwch eu defnyddio i baru\u2019r prawf i\u2019ch anghenion a\u2019ch gofynion dysgu. Mae\u2019r Gr\u0175p E-ddysgu yn wastad yn barod i wirio prawf, edrych drwy\u2019r gosodiadau neu hefyd gynorthwyo wrth ddewis y math cywir o gwestiwn ar gyfer eich gweithgarwch dysgu. Beth am greu prawf i helpu\u2019ch myfyrwyr \u00e2\u2019u gwaith adolygu?<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (2)?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1275\" height=\"442\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/05\/What-do-you-hope-to-do-differently-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-504\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Siarad Cyhoeddus a mynediad i sgiliau craidd<\/h1>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth sgwrs Rob Grieve fy helpu i werthfawrogi faint o broblem yw siarad cyhoeddus i rai unigolion. Roedd y cyngor am fod yn \u2018siaradwr diffuant\u2019 yn arbennig o ddefnyddiol i mi. Peidio \u00e2 blaenoriaethu arddull dros sylwedd, canolbwyntio ar y wybodaeth y dymunaf ei chyflwyno a cheisio siarad mewn ffordd sy\u2019n naturiol i mi yw\u2019r strategaethau y bwriadaf eu defnyddio i wella fy ngallu i siarad yn gyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p>Cefais f\u2019ysbrydoli hefyd gan gyflwyniad Debra Croft ar y Brifysgol Haf. Dyma brosiect sy\u2019n rhoi cyfle amhrisiadwy i\u2019r bobl ifanc sy\u2019n cymryd rhan. Gwnaeth amrywiaeth y pynciau a drafodir yn ystod 6 wythnos yn unig, gan gynnwys sgiliau bywyd yn ogystal \u00e2 phynciau academaidd, argraff fawr arnaf. Roedd cynllun hyblyg a chreadigol y gweithgareddau a\u2019r asesiadau wedi\u2019u teilwra ar gyfer anghenion y myfyrwyr yr un mor drawiadol.&nbsp; Dangosodd y cyflwyniad hwn sut gall darparu ar gyfer y gwahaniaethau gael effaith sylweddol ar fywydau pobl.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cyflwyno cynnig ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol eleni<\/h1>\n\n\n\n<p>Gan fod cynifer o awgrymiadau a myfyrdodau defnyddiol, roedd dewis un ar gyfer pob un ohonom yn dipyn o dasg! Gallwch weld adroddiad llawn am y gynhadledd fach wedi\u2019i rannu yn ddau bostiad blog (Rhan 1 a Rhan 2). Fe\u2019ch atgoffir bod <a href=\"https:\/\/aber.onlinesurveys.ac.uk\/7fed-gynhadledd-dysgu-ac-addysgu\">Galwad am Gynigion<\/a> ar gyfer ein prif <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/cynhadleddflynyddoldysguacaddysgu\/\">Gynhadledd Dysgu ac Addysgu<\/a> ar gael yma a\u2019n bod yn croesawu cynigion o bob ardal yn y Brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (3)?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1260\" height=\"185\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/05\/What-do-you-hope-to-do-differently-3.jpg\" alt=\"\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn y Gynhadledd Fach ddiweddar ar Addysg Gynhwysol, rydym wedi bod yn myfyrio ar ein profiad o\u2019r digwyddiad. Mae pob aelod o\u2019r Gr\u0175p E-ddysgu wedi ysgrifennu darn byr ar un agwedd ar y Gynhadledd Fach. Niwroamrywiaeth Roedd sesiwn Janet a Caroline yn ddiddorol o ran y pwnc a\u2019r ffordd y cafodd ei gyflwyno. Fel [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[594,542,560,626],"tags":[],"class_list":["post-2883","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-digwyddiadau-a-rhwydweithiau","category-fforwm-academi","category-gynhadledd","category-hyfforddiant-a-chymorth"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Kv","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2883","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2883"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2883\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2885,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2883\/revisions\/2885"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2883"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2883"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2883"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}