{"id":2778,"date":"2019-10-16T15:12:00","date_gmt":"2019-10-16T14:12:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2778"},"modified":"2021-05-11T15:14:34","modified_gmt":"2021-05-11T14:14:34","slug":"4ydd-diwrnod-gweithredu-rhyngwladol-yn-erbyn-twyllo-ar-gontract","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/10\/16\/4ydd-diwrnod-gweithredu-rhyngwladol-yn-erbyn-twyllo-ar-gontract\/","title":{"rendered":"4ydd Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1440\" height=\"200\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Cheating-Day.png\" alt=\"Turnitin icon\" class=\"wp-image-702\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw, 16 Hydref 2019, yw&#8217;r <a href=\"https:\/\/academicintegrity.org\/day-against-contract-cheating\/\">4ydd Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Yn y blogiad arbennig hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o sut mae Twyllo ar Gontract yn effeithio ar Addysg Uwch. Ym Mhrydain, mae Twyllo ar Gontract yn golygu defnyddio melinau traethodau. Mae&#8217;r gwasanaethau hyn wedi cael mwyfwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn \u00f4l adroddiad a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, mae un ym mhob saith o raddedigion diweddar wedi cyfaddef iddynt dalu rhywun i wneud eu gwaith drostynt (Newton, 2018).&nbsp; Er mwyn tynnu sylw at y mater hwn, mae&#8217;r Ganolfan Ryngwladol dros Uniondeb Academaidd yn yr Unol Daleithiau wedi sefydlu\u2019r Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract. Yng ngwledydd Prydain, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) sy&#8217;n darparu arweiniad ar Dwyllo ar Gontract.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2018, ysgrifennodd penaethiaid mwy na 40 o brifysgolion ym Mhrydain at yr Ysgrifennydd Addysg gan ofyn am wahardd melinau traethodau. Mae hefyd achosion cyfreithiol yn dal i fynd yn eu blaen yn erbyn yr arfer hwn. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae defnyddio melinau traethodau yn dod o dan <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic-registry\/handbook\/regulations\/uap\/\">y rheoliadau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Myfyrwyr &#8211; pwy all helpu?<\/h1>\n\n\n\n<p>O safbwynt myfyrwyr, mae sawl rheswm a all esbonio pam rydych yn credu mai Twyllo ar Gontract yw&#8217;r unig ateb. Efallai nad ydych wedi gadael digon o amser i gwblhau&#8217;ch aseiniad. Efallai nad ydych yn deall cwestiwn yr aseiniad neu&#8217;ch bod chi&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd deall cysyniad cymhleth. Efallai hefyd eich bod yn pryderu am eich marciau ac yn awyddus i wneud yn well. Beth bynnag fo&#8217;r rheswm, mae digonedd o bobl o gwmpas a all eich helpu i wneud eich gorau glas \u00e2&#8217;ch aseiniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Y peth cyntaf i&#8217;w wneud ar ddechrau&#8217;r semester yw sicrhewch eich bod yn cynllunio&#8217;ch amser yn ofalus. Rhowch ddigon o amser i chi&#8217;ch hunan i edrych drwy&#8217;r wybodaeth am yr aseiniad a&#8217;r modiwl. Sicrhewch eich bod yn cael gwybod pob un o&#8217;ch dyddiadau cau i&#8217;ch modiwlau a&#8217;ch bod yn eu rhoi ar eich calendr ar-lein. Os gwnewch hynny, fe fyddwch yn gwybod pryd y bydd angen i chi baratoi&#8217;ch gwahanol aseiniadau a phryd y byddwch yn debygol o fod ar eich prysuraf. Mae hynny hefyd yn rhoi digon o amser i chi i ddeall eich aseiniad a&#8217;r hyn y disgwylir i chi ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Sicrhewch eich bod chi&#8217;n gofyn am gymorth. Os na ddeallwch gwestiwn yr aseiniad neu gysyniad, siaradwch \u00e2&#8217;ch darlithydd neu&#8217;ch tiwtor a gofynnwch am gymorth. Gofynnwch gwestiynau penodol &#8211; pa ran yn union o&#8217;r ddamcaniaeth neu gysyniad na ddeallwch? Edrychwch ar y deunydd sydd ar gael i chi drwy &#8216;Blackboard&#8217; megis nodiadau darlithoedd, sleidiau PowerPoint, neu recordiadau o&#8217;ch darlithoedd, a&#8217;u defnyddio i&#8217;ch helpu i wneud penderfyniad am eich aseiniad ar sail gwybodaeth gadarn. Siaradwch \u00e2&#8217;ch cyd-fyfyrwyr hefyd ac efallai y gallwch ystyried sefydlu gr\u0175p astudio i drafod materion penodol.&nbsp; Gallwch hefyd <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/library-services\/infoskills\/good-referencing\/\">gael cyngor gan Lyfrgell y Brifysgol<\/a>, gan gynnwys cyngor am gadw cyfeiriadau rydych wedi dod ar eu traws a&#8217;r feddalwedd sydd ar gael i&#8217;ch helpu i reoli a fformatio&#8217;ch cyfeirnodau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rhowch ddigon o amser i chi&#8217;ch hun i edrych ar yr adborth a gawsoch o&#8217;ch aseiniadau blaenorol ac i ystyried yr adborth hwnnw. Ystyriwch y meysydd rydych wedi gwneud yn dda ynddynt, yn ogystal \u00e2&#8217;r hyn y gallwch ei wella. Yn eich aseiniad nesaf, ceisiwch wella&#8217;r elfennau hynny sydd wedi&#8217;u nodi yn rhai i&#8217;w gwella. Does dim modd defnyddio Melin Draethodau i wneud hynny &#8211; dim ond chi sy&#8217;n adnabod eich gwaith eich hun a pha elfennau mae angen i chi ganolbwyntio arnynt. Gallwch weld yr holl adborth rydych wedi&#8217;i gael o&#8217;ch aseiniadau drwy fewngofnodi i Blackboard.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Yn y newyddion<\/h1>\n\n\n\n<p>Newyddion y BBC. 2018. \u2018Essay cheating: how common is it?\u2019. <em>Newyddion y BBC.<\/em>. [ar-lein]. <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/education-43975508\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/education-43975508<\/a>. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Newyddion y BBC. 2018. \u2018Essay mills: \u2018One in seven\u2019 paying for university essays. <em>Newyddion y BBC.<\/em>. [ar-lein]. <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-45358185\">https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-45358185<\/a>. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Husbands, C. 2019. \u2018Essay mills prey on vulnerable students \u2013 let\u2019s stamp them out\u2019. <em>The Guardian. <\/em>20 Mawrth. [ar-lein]. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/education\/2019\/mar\/20\/essay-mills-prey-on-vulnerable-students-lets-stamp-them-out\">https:\/\/www.theguardian.com\/education\/2019\/mar\/20\/essay-mills-prey-on-vulnerable-students-lets-stamp-them-out<\/a>. Dyddiad cyrchu diwethaf: 01.10.2019.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cyfeiriadau<\/h1>\n\n\n\n<p>Newton, P. 2018. \u2018How common is Commercial Contract Cheating in Higher Education and is it increasing? A systematic review\u2019. <em>Frontiers in Education<\/em>. 30 Awst. [ar-lein]. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.3389\/feduc.2018.00067\">https:\/\/doi.org\/10.3389\/feduc.2018.00067<\/a>. Dyddiad cyrchu diwethaf: 02.10.2019.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>ASA. 2017. <em>Contracting to Cheat in Higher Education: How to Address Contract Cheating, the Use of Third-Party Services and Essay Mills. <\/em>[ar-lein]. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/docs\/qaa\/quality-code\/contracting-to-cheat-in-higher-education.pdf?sfvrsn=f66af681_10\">https:\/\/www.qaa.ac.uk\/docs\/qaa\/quality-code\/contracting-to-cheat-in-higher-education.pdf?sfvrsn=f66af681_10.<\/a> Dyddiad cyrchu diwethaf: 01.10.2019.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw, 16 Hydref 2019, yw&#8217;r 4ydd Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol yn erbyn Twyllo ar Gontract. Yn y blogiad arbennig hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o sut mae Twyllo ar Gontract yn effeithio ar Addysg Uwch. Ym Mhrydain, mae Twyllo ar Gontract yn golygu defnyddio melinau traethodau. Mae&#8217;r gwasanaethau hyn wedi cael mwyfwy o sylw yn y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2778","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-IO","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2778","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2778"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2778\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2781,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2778\/revisions\/2781"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2778"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2778"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2778"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}