{"id":2771,"date":"2019-10-18T15:09:00","date_gmt":"2019-10-18T14:09:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2771"},"modified":"2021-05-11T15:10:59","modified_gmt":"2021-05-11T14:10:59","slug":"crynodeb-or-gynhadledd-fach-ar-addysg-gynhwysol-rhan-1","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/10\/18\/crynodeb-or-gynhadledd-fach-ar-addysg-gynhwysol-rhan-1\/","title":{"rendered":"Crynodeb o\u2019r Gynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol: Rhan 1"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/02\/Logo.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-378\" width=\"-265\" height=\"-265\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Ar 10 Ebrill, croesawodd y Gr\u0175p E-ddysgu 26 aelod o staff o bob rhan o\u2019r Brifysgol i\u2019r Gynhadledd Fach eleni. Thema\u2019r Gynhadledd eleni oedd Addysg Gynhwysol a chafwyd chwe chyflwyniad yn amrywio o ganllawiau ymarferol ar sut i greu dogfennau hygyrch, i weithio gyda myfyrwyr niwroamrywiol. Oherwydd yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodwyd, rhannwyd y crynodeb hwn yn ddwy ran, gyda rhan 1 yn trafod y tri chyflwyniad cyntaf. Darperir crynodeb o\u2019r tri chyflwyniad olaf yn y postiad blog nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Agorodd y gynhadledd gyda chyflwyniad wedi\u2019i recordio gan <a href=\"https:\/\/people.uwe.ac.uk\/Person\/RobGrieve\">Dr Rob Grieve<\/a>. Mae Dr Grieve yn uwch ddarlithydd mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Yn ogystal \u00e2\u2019i ymchwil academaidd, mae Dr Grieve hefyd yn cynnal gweithdai o\u2019r enw <em>Stand Up and Be Heard<\/em>. Mae\u2019r gweithdai hyn yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus, a bod hynny\u2019n effeithio ar asesiadau sy\u2019n cynnwys elfen gyflwyno. Ategodd Dr Grieve ei gyflwyniad gydag ymchwil a gynhaliwyd gan Marinho <em>et al<\/em> (2017) a nododd fod gan 64% o fyfyrwyr israddedig (allan o sampl o 1,135) ofn siarad yn gyhoeddus, ac y byddai 89% ohonynt wedi hoffi cael arweiniad a chymorth ychwanegol gan eu sefydliadau ar siarad yn gyhoeddus. Wrth gloi ei gyflwyniad, eglurodd Dr Grieve strategaethau i staff a fyddai\u2019n helpu i gynorthwyo myfyrwyr \u00e2 siarad yn gyhoeddus a chyflwyniadau asesedig. Awgrymodd y dylid:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Cydnabod bod ar lawer o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus ar gyfer asesiadau modiwl, ac yn gyffredinol<\/li><li>Heblaw am ein r\u00f4l yn dysgu pwnc, gallwn gynorthwyo myfyrwyr (neu eu cyfeirio ymlaen) [\u2026] i leihau eu hofn o siarad yn gyhoeddus<\/li><li>Mae rhoi cyflwyniadau a siarad yn gyhoeddus yn sgiliau bywyd trosglwyddadwy sy\u2019n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy; nid dim ond ar gyfer asesiadau y\u2019u defnyddir<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, nododd Dr Grieve nad oes rhaid i gyflwyniadau fod yn berffaith. Y neges allweddol i\u2019w chyfleu i fyfyrwyr yw i fod yn nhw eu hunain wrth wneud cyflwyniadau, ac i fod yn awthentig. Bu\u2019r gweithdai a gynhaliodd Rob yn hynod lwyddiannus i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai a oedd yn mynd ymlaen i roi cyflwyniadau asesedig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/news-and-views\/stand-up-and-be-heard\"><u>yma<\/u><\/a>.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"665\" height=\"501\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture-1.png\" alt=\"Presentation from Rob Grieve\" class=\"wp-image-717\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Yn dilyn ymlaen o gyflwyniad Dr Grieve, cafwyd cyflwyniad gan Dr Debra Croft ar y gwaith y mae\u2019r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol wedi\u2019i wneud i ymgorffori Sgiliau Craidd yn eu cwricwlwm yn y Brifysgol Haf. Cyflwynir y modiwl Sgiliau Craidd yn Wythnos 1 y cwrs yn bennaf, ac mae\u2019n fodiwl yn ei rhinwedd ei hun. Nod y modiwl yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau astudio a\u2019r sgiliau bywyd y bydd eu hangen arnynt yn ystod gweddill eu hamser yn y Brifysgol Haf a thu hwnt. O ystyried cyfyngiadau amser rhaglen y Brifysgol Haf, nid oes modd ymgorffori\u2019r sgiliau craidd yn y cwricwlwm pwnc-benodol, felly mae angen i\u2019r holl fyfyrwyr gymryd y modiwl Sgiliau Craidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Aeth y t\u00eem ati i ddiwygio\u2019r modiwl yn llwyr yn 2016-17, ar sail yr adborth a ddarparwyd gan fyfyrwyr a staff, a\u2019i sg\u00f4r isel o ran boddhad myfyrwyr. O ganlyniad, cynyddodd cyfradd boddhad y modiwl Sgiliau Craidd i 80% yn 2016, 80au% uchel yn 2017, a 94% yn 2018. Priodolwyd llwyddiant y modiwl i\u2019r newidiadau a wnaed gan y t\u00eem dysgu. Y gwahaniaeth mwyaf yn 2018 oedd y newid i\u2019r modd y cyflwynwyd y modiwl. Defnyddiwyd grwpiau caeedig ar Facebook i gyfathrebu \u00e2 myfyrwyr amrywiol, gan wneud defnydd llawn o Blackboard a Turnitin ar gyfer aseiniadau. Rhoddai\u2019r modiwl Sgiliau Craidd bwyslais ar yr elfen gynhwysol a gwahaniaethau dysgu, gan alluogi tiwtoriaid i ymgorffori gofynion yn eu dysgu. Mae\u2019r asesiadau wedi\u2019u safoni ac wedi\u2019u cynllunio i fod yn gynhwysol o\u2019r cychwyn sy\u2019n golygu bod pawb yn gwneud yr un asesiad. Maent hefyd yn defnyddio cwisiau Blackboard sy\u2019n cael eu marcio\u2019n awtomatig ar gyfer sgiliau hyfforddi a TG. Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/widening-participation\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyflwynwyd y drydedd a\u2019r olaf o sesiynau hanner hwn y gynhadledd gan Janet Roland a Caroline White o\u2019r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Nod eu cyflwyniad, <em>Teaching for Everyone: Neurodiversity and Inclusive Practices<\/em>, oedd darparu\u2019r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i greu gweithgareddau dysgu ac addysgu ar gyfer myfyrwyr niwroamrywiol. Agorodd y gweithdy gydag ymarfer i dorri\u2019r i\u00e2. Mewn parau, gofynnwyd i\u2019r cyfranogwyr labelu eu hunain \u2018A\u2019 a \u2018B\u2019. Yn gyntaf, gofynnwyd i bob \u2018A\u2019 siarad am eu gwyliau diwethaf am 1 munud gyda \u2018B\u2019. Wedyn, gofynnwyd i bob \u2018B\u2019 siarad am eu gwyliau diwethaf gydag \u2018A\u2019, ond heb ddefnyddio unrhyw air sy\u2019n cynnwys y llythyren \u2018E\u2019. Yna, rhoddwyd amlen i\u2019r cyfranogwyr yn cynnwys termau am ymddygiad niwroamrywiol a\u2019u nodweddion, a gofynnwyd iddynt baru\u2019r labeli \u00e2\u2019r nodweddion perthnasol. Bu\u2019r cyflwyniad hwn gyfle i\u2019r cyfranogwyr ystyried y gwahanol broffiliau niwroamrywiol a strategaethau y gellir eu defnyddio i greu profiad dysgu mwy cynhwysol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfeiriadau<\/p>\n\n\n\n<p>Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC and Teixeira, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. <em>Journal of Voice<\/em>. 31: 1. DOI: <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1016\/j.jvoice.2015.12.012\">10.1016\/j.jvoice.2015.12.012<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar 10 Ebrill, croesawodd y Gr\u0175p E-ddysgu 26 aelod o staff o bob rhan o\u2019r Brifysgol i\u2019r Gynhadledd Fach eleni. Thema\u2019r Gynhadledd eleni oedd Addysg Gynhwysol a chafwyd chwe chyflwyniad yn amrywio o ganllawiau ymarferol ar sut i greu dogfennau hygyrch, i weithio gyda myfyrwyr niwroamrywiol. Oherwydd yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodwyd, rhannwyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2771","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-IH","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2771","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2771"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2771\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2774,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2771\/revisions\/2774"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2771"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2771"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2771"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}