{"id":2767,"date":"2019-10-21T15:07:00","date_gmt":"2019-10-21T14:07:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2767"},"modified":"2021-05-11T15:09:13","modified_gmt":"2021-05-11T14:09:13","slug":"crynodeb-or-gynhadledd-fach-ar-addysg-gynhwysol-rhan-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/10\/21\/crynodeb-or-gynhadledd-fach-ar-addysg-gynhwysol-rhan-2\/","title":{"rendered":"Crynodeb o\u2019r Gynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol: Rhan 2"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"564\" height=\"564\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/02\/Logo.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-378\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r ail bostiad blog yn trafod ein Cynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Gr\u0175p E-ddysgu. Am drosolwg o\u2019r hanner cyntaf, gweler y postiad <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/10\/18\/mini-conference-inclusive-education-summary-part-1\/\">blog hwn.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Agorodd ail hanner y gynhadledd gyda Neil MacKintosh a Meirion Roberts o gynllun BioArloesi Cymru IBERS yn trafod ehangu mynediad i\u2019w modiwlau. Yn ddiweddar, mae\u2019r t\u00eem wedi ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r prinder sgiliau lefel uchel a thechnegol mewn busnesau bio-seiliedig, gan gynnwys Bwyd-Amaeth. Un o amcanion y rhaglen yw i edrych ar ffyrdd o ddarparu cwrs dysgu o bell ar gyfer graddedigion sy\u2019n gweithio ym myd diwydiant ar hyn o bryd ac nad oes ganddynt amser, o bosib, i wneud gradd \u00f4l-raddedig. Gobeithir y bydd y cynllun yn cynyddu cynhyrchiant yng Nghymru trwy bwysleisio\u2019r berthynas gilyddol rhwng diwydiant ac ymchwil. Mae cynllun BioArloesi Cymru yn gweithio\u2019n agos \u00e2 phartneriaid diwydiannol i ddarparu llwybr hyblyg i\u2019r rhai hynny sydd mewn swyddi i ennill cymwysterau \u00f4l-raddedig. Rhoddodd Neil gyflwyniad ar y cynllun cyn trosglwyddo\u2019r awenau i\u2019w gydweithiwr, Meirion Roberts. Mae Meirion yn ddarlithydd cyswllt yn BioArloesi Cymru ac mae\u2019n gyfrifol am ddarparu profiad dysgu dwyieithog ar gyfer y modiwlau dysgu o bell uwchraddedig. Cyflwynir y cyrsiau BioArloesi ar-lein yn unig trwy ddefnyddio Blackboard ynghyd \u00e2 llu o&nbsp; wahanol ddeunyddiau dysgu. Ar hyn o bryd gall myfyrwyr sydd wedi\u2019u cofrestru ar y cwrs fanteisio ar adnoddau yn Gymraeg a Saesneg. Un o\u2019r tasgau cyntaf i Meirion ar \u00f4l dechrau gweithio gydag uned BioArloesi Cymru oedd creu rhyngwyneb, deunydd a darlithoedd dwyieithog ar gyfer y cwrs. Mae\u2019r modiwlau hyn yn defnyddio fforymau ar Blackboard fel dull asesu. Un o\u2019r heriau sy\u2019n codi wrth ddarparu\u2019r modiwlau hyn yn ddwyieithog yw sut i gymedroli a hwyluso fforymau dwyieithog. Yn dilyn trafodaeth rhwng y cynadleddwyr, teimlwyd mai un ffordd ymlaen fyddai annog y rhai sy\u2019n defnyddio\u2019r fforymau i bostio eu hymatebion yn Gymraeg a Saesneg, yn hytrach na bod angen cyfieithu ymatebion Cymraeg i\u2019r Saesneg. Pe gosodid cynsail i bostio yn y ddwy iaith teimlwyd y byddai hyn yn ddull mwy cynhwysol o greu amgylchedd dysgu dwyieithog. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth yngl\u0177n \u00e2 defnyddio fforymau a asesir, mae gwybodaeth am raddio\u2019r bwrdd trafod ar gael <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=101\"><u>yma<\/u><\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l y cyflwyniad hwn, rhoddodd Mary Jacob, darlithydd mewn Dysgu ac Addysgu yn y GDSYA, a Nicky Cashman, cynghorydd hygyrchedd yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, gyflwyniad ar Greu Deunyddiau Dysgu Cynhwysol a Hygyrch. Nod y cyflwyniad oedd rhoi cyngor ymarferol i staff ar sut i greu adnoddau mwy hygyrch i fyfyrwyr, gan gynnwys eitemau y gellir eu lawrlwytho o\u2019r Amgylchedd Dysgu Rhithwir. I roi ychydig o gyd-destun, mae 16% o Boblogaeth Myfyrwyr Aberystwyth wedi datgelu anabledd, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd y sector sef 12%. Trafododd Mary a Nicky y pynciau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Offer Gwirio Hygyrchedd Microsoft \u2013 offeryn sydd wedi\u2019i ymgorffori yn Word<\/li><li>Defnyddio arddulliau yn Word i wneud strwythur eich deunydd yn glir i fyfyrwyr<\/li><li>Sut i drosi eich dogfen Word yn ffeil PDF<\/li><li>Pa liwiau yw\u2019r rhai mwyaf addas i\u2019w defnyddio?<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, rhannodd Mary a Nicky adnodd a gr\u00ebwyd gan Brifysgol Hull ar gyfer dylunio deunydd i ddysgwyr amrywiol. Mae\u2019r adnodd hwn ar gael ar-lein a gellir dod o hyd iddo yma. Hefyd, dosbarthwyd taflen o\u2019r enw <em>\u2018The Universal Design for Learning Guidelines\u2019<\/em> a gr\u00ebwyd gan CAST ac sydd i\u2019w gael yma. Mae Mary hefyd yn cynnal Bwrdd Trello sy\u2019n cynnwys llawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu. Mae yna garden ar y bwrdd Trello yn arbennig ar gyfer Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch, o dan yr adran Prosiectau\/ meysydd diddordeb.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd y cyflwyniad olaf gan Dr Jennifer Wood o\u2019r Adran Ieithoedd Modern. Mae Dr Wood yn dysgu Sbaeneg a myfyriodd ar ei defnydd o Brofion Blackboard yn ei dysgu. Nod y profion hyn yw profi dealltwriaeth myfyrwyr sy\u2019n dysgu Sbaeneg y tu allan i\u2019r ystafell ddosbarth. Mae defnyddio Profion Blackboard yn galluogi Dr Wood i ryddhau amser yn ei gwersi wyneb yn wyneb a\u2019i horiau cyswllt \u00e2\u2019i myfyrwyr. Cyn defnyddio profion ar-lein, neilltuwyd amser gwerthfawr yn y sesiynau dysgu ar gyfer asesiadau dosbarth. Rhoddodd Dr Wood gyd-destun ychwanegol i\u2019r cyflwyniad hefyd trwy drafod pryder ynghylch ieithoedd tramor (<em>Foreign Language Anxiety<\/em>) a sut y gall Profion Blackboard helpu i leddfu hyn oherwydd bod modd eu sefyll (a\u2019u hailsefyll) ar amser sy\u2019n siwtio\u2019r myfyriwr ac mewn amgylchedd lle y maent yn teimlo\u2019n gysurus. Un o fanteision defnyddio profion Blackboard yw bod modd eu hallforio, eu mewnforio a\u2019u hail-ddefnyddio mewn modiwlau gwahanol ar \u00f4l i chi eu llunio. Yn ogystal \u00e2 hyn, gellir marcio profion yn awtomatig a rhoi adborth i\u2019r myfyrwyr ar \u00f4l iddynt gwblhau\u2019r prawf. Gan ddibynnu ar yr angen dysgu, gall profion fod naill ai\u2019n ffurfiannol neu\u2019n grynodol a gellir eu cysylltu\u2019n uniongyrchol \u00e2\u2019r ganolfan raddau. Ond yn ogystal \u00e2\u2019r manteision sy\u2019n deillio o ddefnyddio profion, gall beri rhai heriau hefyd. Gall gymryd amser i lunio a chreu\u2019r profion. Serch hynny gallwch eu creu ar amser sy\u2019n gyfleus i chi, a gallwch eu mewnforio a\u2019u defnyddio yn y modiwl sydd gennych dan sylw. Mantais hyn yw y bydd gennych adnodd y gallwch ei ddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn. Os sylwch chi fod cwestiwn yn anghywir, gallwch ailddyrannu\u2019r marciau, newid y graddau neu olygu\u2019r cwestiwn ar gyfer pawb sydd wedi sefyll y prawf. Mae sawl math o gwestiynau y gellir eu defnyddio mewn cwisiau Blackboard. Gweler<a href=\"https:\/\/help.blackboard.com\/Learn\/Instructor\/Tests_Pools_Surveys\/Question_Types\"> <u>yma<\/u><\/a> am restr lawn o\u2019r mathau o gwestiynau sydd ar gael ar gyfer profion Blackboard (sylwch y bydd y math o gwestiwn a ddewiswch yn penderfynu a oes modd ei farcio\u2019n awtomatig ai peidio). Mae rhagor o wybodaeth am brofion ar gael <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=1674\"><u>yma<\/u><\/a>. Mae\u2019r Gr\u0175p E-ddysgu bob amser yn hapus i weithio gyda\u2019n cydweithwyr academaidd i\u2019ch helpu i gynllunio a chreu eich profion, a\u2019u rhoi ar waith. Mae gennym gryn dipyn o arbenigedd yn y maes hwn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ein Cynhadledd Fach eleni oedd ein prysuraf hyd yma o ran nifer y bobl a fynychodd. Blwyddyn nesaf efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried symud i ystafell arall. Os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer Cynhadledd Fach y flwyddyn nesaf mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni. Hoffwn eich atgoffa hefyd bod ein Galwad am Gynigion ar agor ar gyfer ein <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/10\/16\/call-for-proposals-group-work-and-group-assessment\/\">Cynhadledd Fer<\/a>. Gallwch gyflwyno cynnig trwy lenwi\u2019r ffurflen <a href=\"https:\/\/aber.onlinesurveys.ac.uk\/cynhadledd-fer-group-work-and-group-assessment\">ar-lein hon<\/a>. Hoffem ddiolch i\u2019r holl gyflwynwyr am roi o\u2019u hamser ac am rannu eu harferion \u00e2 phawb a fynychodd y gynhadledd. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"697\" height=\"738\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture-2.png\" alt=\"E-learning Group Image\" class=\"wp-image-726\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma\u2019r ail bostiad blog yn trafod ein Cynhadledd Fach ar Addysg Gynhwysol a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Gr\u0175p E-ddysgu. Am drosolwg o\u2019r hanner cyntaf, gweler y postiad blog hwn. Agorodd ail hanner y gynhadledd gyda Neil MacKintosh a Meirion Roberts o gynllun BioArloesi Cymru IBERS yn trafod ehangu mynediad i\u2019w modiwlau. Yn ddiweddar, mae\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2767","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-ID","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2767","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2767"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2767\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2770,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2767\/revisions\/2770"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2767"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2767"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2767"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}