{"id":2752,"date":"2019-11-29T14:48:00","date_gmt":"2019-11-29T14:48:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2752"},"modified":"2021-05-11T14:51:34","modified_gmt":"2021-05-11T13:51:34","slug":"canllawiau-ar-gyfer-defnyddio-adborth-clywedol-yn-turnitin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2019\/11\/29\/canllawiau-ar-gyfer-defnyddio-adborth-clywedol-yn-turnitin\/","title":{"rendered":"Canllawiau ar gyfer defnyddio Adborth Clywedol yn Turnitin"},"content":{"rendered":"\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/11\/Audio-Feedback-1.png\" alt=\"Banner for Audio Feedback\" width=\"1440\" height=\"200\"><\/h1>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Rhagair<\/h1>\n\n\n\n<p>Meddalwedd e-gyflwyno yw Turnitin a ddefnyddir gan fyfyrwyr wrth gyflwyno eu gwaith a chan aelodau o staff wrth farcio. Caiff y marcio ei wneud trwy Stiwdio Adborth Turnitin, sy&#8217;n cynnwys llawer o nodweddion, megis cyfarwyddiadau, ffurflenni gradd, Quick Marks, crynodebau adborth, a sylwadau y gellir eu mewnosod. Yn y canllaw hwn, byddwn yn edrych yn benodol ar Adborth Clywedol, nodwedd sy&#8217;n caniat\u00e1u i hyfforddwyr recordio eu crynodebau adborth, a myfyrwyr i wrando yn \u00f4l arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae defnyddio Adborth Clywedol yn cynnig llawer o fanteision, ac rydym yn gweld bod cydweithwyr ar draws y sector yn defnyddio&#8217;r nodwedd hon. Mewn astudiaeth ddiweddar ar effaith Adborth Clywedol, a gynhaliwyd gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Lerpwl, nodwyd bod &#8216;ansawdd adborth a boddhad myfyrwyr [&#8230;] yn uwch ar gyfer adborth clywedol nag ar gyfer adborth ysgrifenedig&#8217; (Voelkel &amp; Mello, 2014.: 29). Yn ogystal \u00e2 hyn, dangosodd yr astudiaeth nad oes unrhyw wahaniaeth, o ran cynnydd a chyrhaeddiad, rhwng y myfyrwyr a gafodd adborth clywedol a\u2019r rhai a gafodd adborth ysgrifenedig. Serch hynny, amlygodd yr astudiaeth fod myfyrwyr yn fwy tebygol o ailymweld ag adborth ysgrifenedig nag adborth clywedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi&#8217;r defnydd cynyddol o Adborth Clywedol, rydym wedi creu&#8217;r adnodd hwn i helpu staff i ddarparu adborth effeithiol i&#8217;w myfyrwyr. Os gennych ddiddordeb mewn defnyddio adborth clywedol, mae ein <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/it-services\/elearning\/esubmission\/\">tudalennau <u>E-gyflwyno<\/u><\/a> yn cynnwys gwybodaeth yngl\u0177n \u00e2 sut i greu mannau <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Canllaw-E-gflwyno-2018-19-.pdf\">cyflwyno aseiniadau a darparu adborth ar Turnitin.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Polis\u00efau ac Ymarfer Gorau<\/h1>\n\n\n\n<p>Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic-registry\/handbook\/taught-schemes\/\"><u>bolisi sy&#8217;n ymdrin ag adborth ar asesiadau<\/u><\/a> (3.2.17) sydd i&#8217;w gael o dan Asesu Cynlluniau trwy Gwrs yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae&#8217;r egwyddorion sy\u2019n ymwneud ag adborth yn berthnasol i adborth ysgrifenedig yn ogystal ag adborth clywedol. Nid yw adborth clywedol nac adborth ysgrifenedig yn cael eu trin yn wahanol o dan y polis\u00efau hyn. Dylid strwythuro adborth clywedol yn yr un modd ag adborth ysgrifenedig, neu mewn modd tebyg, gan nodi cryfderau, gwendidau a phwyntiau i&#8217;w gwella.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, efallai y bydd y crynodeb o\u2019r cyflwyniad gan Dr Gareth Norris, Dr Heather Norris ac Alexandra Brooks o&#8217;r Adran Seicoleg, o&#8217;r enw <em>&#8216;Delivering Feedback through Audio Commentary&#8217;<\/em> a roddwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2018, yn ddefnyddiol i chi. Mae recordiad cryno o&#8217;r cyflwyniad hwnnw ar gael <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=83d01e1a-bf81-463f-979d-a97e00f2ccbb&amp;start=2.431912\">ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cyngor ar ddefnyddio Adborth Clywedol<\/h1>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">1.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Cynlluniwch eich adborth<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw adborth i fyfyrwyr, yn enwedig o safbwynt rhoi arweiniad ar sut i wella eu perfformiad mewn aseiniadau yn y dyfodol. Os nad ydych wedi defnyddio Adborth Clywedol o&#8217;r blaen, efallai yr hoffech gynllunio&#8217;r hyn rydych yn bwriadu ei ddweud &#8211; trwy ddefnyddio pwyntiau bwled ar gyfer prif rannau eich adborth, bydd modd i chi gadw&#8217;ch ffocws wrth recordio eich adborth.&nbsp; Yn wahanol i adborth ysgrifenedig, mae&#8217;r amser sydd gennych i recordio wedi&#8217;i gyfyngu i 3 munud, ac fe all fynd yn eithaf cyflym felly cynlluniwch ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn cynnwys eich prif bwyntiau i gyd. Yn yr un modd ag adborth ysgrifenedig, mae&#8217;n bwysig bod yr adborth clywedol yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 meini prawf yr aseiniad. Gweler y pwynt yngl\u0177n \u00e2 chynllunio, ond dylech hefyd nodi\u2019n glir yn eich adborth clywedol pa rannau o&#8217;r meini prawf y mae eich adborth yn mynd i&#8217;r afael \u00e2 hwy.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">2.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ystyriwch d\u00f4n eich llais<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd ychwanegu elfen glywedol i&#8217;ch adborth yn golygu y bydd angen i chi ystyried t\u00f4n eich llais. Yn aml, wrth roi adborth ar lafar, wyneb-yn-wyneb, gallwn gyfleu mwy o ystyr i&#8217;r unigolion, yn ogystal \u00e2 sylwi ar arwyddion gweledol gan y myfyriwr sy&#8217;n derbyn yr adborth. Gydag adborth clywedol, mae&#8217;n bwysig cofio y bydd y myfyriwr yn gwrando ar yr adborth ar ei ben ei hun. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn nodi agweddau cadarnhaol y gwaith, yn ogystal \u00e2 rhannau y gellir eu datblygu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">3.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gwrandewch yn \u00f4l ar eich adborth clywedol<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae bob amser yn rhyfedd gwrando yn \u00f4l arnoch chi&#8217;ch hun yn siarad, ond am yr ychydig droeon cyntaf y byddwch yn defnyddio adborth clywedol, gallwch gael teimlad o sut mae&#8217;r adborth yn swnio. Bydd gwrando&#8217;n \u00f4l ar yr adborth yn caniat\u00e1u i chi sicrhau bod yr adborth yn gysylltiedig \u00e2&#8217;r meini prawf asesu. Yn anffodus, nid oes adnodd golygu ar gyfer adborth clywedol, ond gallwch bob amser ei ddileu a\u2019i ail-recordio. Bydd gwrando&#8217;n \u00f4l ar yr adborth hefyd yn caniat\u00e1u i chi ystyried a yw&#8217;r adborth yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r meini prawf. Yn ogystal \u00e2 hyn, bydd modd i chi wneud yn si\u0175r nad ydych chi wedi recordio unrhyw beth nad oeddech am ei recordio, fel ci yn cyfarth neu larwm t\u00e2n yn seinio.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">4.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gwnewch yn si\u0175r bod myfyrwyr yn gwybod sut i gael gafael ar eu hadborth<\/h2>\n\n\n\n<p>Er bod myfyrwyr yn aml yn defnyddio Turnitin i gyflwyno eu haseiniadau ac i gael adborth, mae&#8217;n bwysig rhoi gwybod i&#8217;r myfyrwyr y byddant yn cael adborth clywedol ar eu haseiniadau. Er ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y staff sy&#8217;n defnyddio adborth clywedol, mae&#8217;n bwysig cofio y gallai myfyrwyr fod yn defnyddio&#8217;r nodwedd hon am y tro cyntaf. I glywed yr adborth clywedol, bydd rhaid i&#8217;r myfyrwyr ddod o hyd i&#8217;w haseiniad, ei agor, a chlicio ar y botwm chwarae yn ffenestr y crynodeb adborth:<\/p>\n\n\n\n<p>Fel ag unrhyw adborth arall, gwnewch yn si\u0175r bod myfyrwyr yn gwybod sut i gysylltu \u00e2 chi os oes ganddynt unrhyw ymholiadau yngl\u0177n \u00e2&#8217;u hadborth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai awgrymiadau technegol i&#8217;ch helpu i ddefnyddio&#8217;r nodwedd adborth clywedol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Defnyddiwch Chrome neu Firefox i gael mynediad i Turnitin<\/li><li>Bydd neges yn ymddangos yn gofyn a ydych chi am gadw&#8217;r adborth &#8211; gwnewch yn si\u0175r eich bod yn gwneud hyn trwy glicio ar yr eicon cadw<\/li><li>Peidiwch \u00e2 thoglo rhwng aseiniadau a chofiwch gau&#8217;r aseiniad ar \u00f4l i chi orffen ei farcio<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Os oes gennych unrhyw ymholiadau yngl\u0177n \u00e2 defnyddio adborth clywedol, mae croeso i chi gysylltu \u00e2&#8217;r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfeiriadau<\/p>\n\n\n\n<p>Prifysgol Aberystwyth. 2019. &#8216;Adran 3: Asesu Cynlluniau trwy Gwrs&#8217; <em>Llawlyfr Ansawdd Academaidd<\/em>. Ar gael ar-lein: <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/academicregistry\/admissions\/academicqualityhandbook\/partb-rulesregs\/chapterpdfx27s\/01.-ALL-IN-ONE---Chapter-3---v3-Sept-2019.pdf\">https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/academicregistry\/admissions\/academicqualityhandbook\/partb-rulesregs\/chapterpdfx27s\/01.-ALL-IN-ONE&#8212;Chapter-3&#8212;v3-Sept-2019.pdf<\/a>. Dyddiad cyrchu diwethaf: 05.11.2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Voelkel, S. &amp; Mello, L. 2014.\u00a0\u00a0 \u2018Audio Feedback \u2013 Better Feedback?\u2019 yn <em>Bioscience Education<\/em> . 22: 1. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.11120\/beej.2014.00022\">https:\/\/doi.org\/10.11120\/beej.2014.00022<\/a> Tud. 16-30. Dyddiad cyrchu diwethaf: 04.11.2019.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhagair Meddalwedd e-gyflwyno yw Turnitin a ddefnyddir gan fyfyrwyr wrth gyflwyno eu gwaith a chan aelodau o staff wrth farcio. Caiff y marcio ei wneud trwy Stiwdio Adborth Turnitin, sy&#8217;n cynnwys llawer o nodweddion, megis cyfarwyddiadau, ffurflenni gradd, Quick Marks, crynodebau adborth, a sylwadau y gellir eu mewnosod. Yn y canllaw hwn, byddwn yn edrych [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2752","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Io","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2752","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2752"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2752\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2754,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2752\/revisions\/2754"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2752"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2752"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2752"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}