{"id":2586,"date":"2021-05-06T09:23:49","date_gmt":"2021-05-06T08:23:49","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2586"},"modified":"2021-05-06T09:23:51","modified_gmt":"2021-05-06T08:23:51","slug":"vevox-i-fyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/05\/06\/vevox-i-fyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Vevox i Fyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p>Yn ystod y mis diwethaf, mae\u2019r brifysgol wedi rhoi Vevox ar waith ac wedi dechrau hyfforddi staff i\u2019w ddefnyddio. Mae Vevox yn cyfuno polau, arolygon a Chwestiwn ac Ateb mewn un meddalwedd rhyngweithiol a gellir ei integreiddio i Microsoft Teams a PowerPoint. Rydym yn falch o weld bod y staff eisoes yn defnyddio\u2019r meddalwedd newydd wrth addysgu a hoffem eich annog fel myfyrwyr i wneud yr un fath.<br>Mae tanysgrifiad Prifysgol Aberystwyth i Vevox yn dod gyda Mewngofnodi Sengl, sy\u2019n golygu y gall myfyrwyr fewngofnodi\u2019n ddiogel gyda\u2019u henw defnyddiwr a chyfrinair PA. Yn yr un modd ag y mae sawl ffordd y gall staff ddefnyddio Vevox, gallai fod yn declyn defnyddiol i fyfyrwyr hefyd.<br>Er enghraifft, gallai myfyrwyr ddefnyddio polau Vevox a\u2019r nodwedd Cwestiwn ac Ateb wrth gyflwyno mewn seminarau neu weithdai, yn arbennig mewn asesiadau sy\u2019n cynnwys ymgysylltu \u00e2\u2019r gynulleidfa fel maen prawf. Yn yr un modd, mae Vevox yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil myfyrwyr, o ran dadansoddi a chwestiynu cynllun arolwg (e.e. drwy ddefnyddio arolygon sampl presennol Vevox), ac ar gyfer creu a chynnal eu harolygon eu hunain. Ymhellach, gellir defnyddio Vevox mewn gwaith gr\u0175p, sy\u2019n rhoi cyfle i fyfyrwyr gasglu syniadau ac annog mewnbwn amrywiol gan aelodau mwy tawel o\u2019r gr\u0175p. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar hyn o bryd, ble gall grwpiau o fyfyrwyr gynnwys aelodau o wahanol gartrefi.<br>Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut y gall myfyrwyr ddefnyddio Vevox wrth ddysgu ac rydym yn annog staff i hysbysu myfyrwyr y gallant hwy hefyd ddefnyddio\u2019r feddalwedd yn rhad ac am ddim. Mae ein canllawiau Vevox yma (<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Defnyddio-Vevox-ar-gyfer-gweithgareddau-Dysgu-ac-Addysgu.pdf\">Cymraeg<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Using-Vevox-For-Teaching-Guide.pdf\">Saesneg<\/a>) a\u2019n fideos Canllaw yma (<a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?pid=30adc27b-36d5-493d-934c-ad1a00bd3901\">Cymraeg<\/a> a <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?pid=350a270b-bc18-4a26-aa09-acef00b22a1c\">Saesneg<\/a>). Mae\u2019r Uned Dysgu ac Addysgu ar gael ynghyd \u00e2\u2019r T\u00eem Vevox i\u2019ch helpu ag unrhyw ymholiadau technegol a allai godi, gan roi cymorth i fyfyrwyr, cymorth nad yw ar gael wrth ddefnyddio meddalwedd eraill rhad ac am ddim.<\/p>\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod y mis diwethaf, mae\u2019r brifysgol wedi rhoi Vevox ar waith ac wedi dechrau hyfforddi staff i\u2019w ddefnyddio. Mae Vevox yn cyfuno polau, arolygon a Chwestiwn ac Ateb mewn un meddalwedd rhyngweithiol a gellir ei integreiddio i Microsoft Teams a PowerPoint. Rydym yn falch o weld bod y staff eisoes yn defnyddio\u2019r meddalwedd newydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":58742,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[616,628],"tags":[],"class_list":["post-2586","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-meddalwedd-pleidleisio-cy","category-vevox-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-FI","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2586","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/58742"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2586"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2586\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2592,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2586\/revisions\/2592"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2586"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2586"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2586"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}